Damwain drên Abergele
yn Abergele
Digwyddodd damwain drên Abergele ar 20 Awst 1868: lladdwyd 33 o bobl pan fu gwrthdrawiad rhwng trên post a wageni a oedd wedi 'rhedeg yn rhydd'. Roedd y wageni yma'n llawn tanwydd. Ceisiodd gweithwyr y rheilffordd a phobl eraill ddiffod y tân drwy ffurfio cadwyn a llenwi bwcedi â dŵr o'r môr. Fel canlyniad i'r ddamwain - mabwysiadwyd rheolau diogelwch llymach ar reilffyrdd.
Enghraifft o'r canlynol | train wreck, tân trên |
---|---|
Dyddiad | 20 Awst 1868 |
Lladdwyd | 33 |
Lleoliad | Abergele |
Gwladwriaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Rhanbarth | Sir Ddinbych |
Claddwyd y meirw ym mynwent Abergele a chodwyd cofeb iddynt.