Damwain hofrennydd Glasgow 2013

Ar 29 Tachwedd 2013 bu damwain pan darodd hofrennydd Bond Air Services a weithiai ar ran Heddlu'r Alban yn erbyn tafarn "Clutha Vaults" yn Glasgow, yr Alban, tua 22:25 y nos. Mae lleoliad y dafarn i'r gogledd o Afon Clud.[1][2] Cyhoeddwyd yr adroddiad i'r digwyddiad ar 23 Hydref 2015. Canfyddwyd mai achos y ddamwain oedd gorweithio'r injan gan y peilot, a oedd yn sifiliad.

Damwain hofrennydd Glasgow 2013
Yr hofrennydd dan sylw yn 2010.
Enghraifft o'r canlynoldamwain awyrennu Edit this on Wikidata
Dyddiad29 Tachwedd 2013 Edit this on Wikidata
LladdwydEdit this on Wikidata
Map
GweithredwrBabcock Mission Critical Services Onshore Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Lladdwyd deg o bobol yn y damwain; tri yn yr hofrennydd a saith yn y dafarn.[3][4][5][6] Bu'r dafarn The Clutha Vaults ar gau tan Gorffennaf 2015.[7] Anafwyd 32 o bobl, 11 ohonyn nhw'n ddifrifol.[1] Yn ôl Gordon Smart, golygydd y Scottish Sun, a oedd yn dyst i'r digwyddiad, ni chlywodd ffrwydriad o unrhyw fath, ac ni welodd belen o dân; yr unig beth a ragflaenodd y ddamwain oedd sŵn injan yr hofrennydd yn tuchan.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Quinn, Ben (30 Tachwedd 2013). "Police helicopter crashes into roof of Glasgow pub". The Guardian. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2013.
  2. "Helicopter crash in central Glasgow". STV. 29 November 2013. Cyrchwyd 29 November 2013.
  3. "Glasgow helicopter crash: Clutha death toll rises to 10". bbc.co.uk/news. BBC News. 12 Rhagfyr 2013. Cyrchwyd 12 Rhagfyr 2013.
  4. "Glasgow helicopter crash: Eight dead at Clutha pub". BBC News. 30 Tachwedd 2013. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2013.
  5. "Glasgow helicopter crash: Ninth victim found". BBC News. 2 Tachwedd 2013. Cyrchwyd 2 Tachwedd 2013.
  6. "Helicopter crashes into Glasgow pub". BBC. 29 Tachwedd 2013. Cyrchwyd 29 Tachwedd 2013.
  7. "New bar at Clutha to open after helicopter crash". BBC. 24 Gorffennaf 2015. Cyrchwyd 24 Gorffennaf 2015.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato