Daniel Edelman
Gweithredwr cysylltiadau cyhoeddus o Americanwr oedd Daniel Edelman (3 Gorffennaf 1920 – 15 Ionawr 2013).[1]
Daniel Edelman | |
---|---|
Ganwyd | 3 Gorffennaf 1920 ![]() Manhattan ![]() |
Bu farw | 15 Ionawr 2013 ![]() o methiant y galon ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | person busnes ![]() |
Ganwyd yn Ninas Efrog Newydd, a gweithiodd fel gohebydd a golygydd cyn ymuno â'r Fyddin mewn uned rhyfela seicolegol oedd yn dadansoddi propaganda'r Almaenwyr.[2][3]
Sefydlodd y cwmni cysylltiadau cyhoeddus Edelman yn Chicago ym 1952.[4] Ymhlith cleientiaid y cwmni yw Microsoft, Pfizer, Wal-Mart, a Royal Dutch Shell.
Bu farw o fethiant y galon.[1]
Cyfeiriadau Golygu
- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Obituary: Daniel J. Edelman. Los Angeles Times (16 Ionawr 2013). Adalwyd ar 18 Ionawr 2013.
- ↑ (Saesneg) Channick, Robert (16 Ionawr 2013). Obituary: Dan Edelman, 1920-2013. Chicago Tribune. Adalwyd ar 18 Ionawr 2013.
- ↑ (Saesneg) Daniel Edelman: Public relations pioneer. The Independent (16 Ionawr 2013). Adalwyd ar 18 Ionawr 2013.
- ↑ (Saesneg) Hevesi, Dennis (15 Ionawr 2013). Daniel J. Edelman, a Publicity Pioneer, Dies at 92. The New York Times. Adalwyd ar 18 Ionawr 2013.