Daniela Dahn
Awdures o'r Almaen yw Daniela Dahn (ganwyd 9 Hydref 1949) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel gwleidydd a newyddiadurwr. Bu'n aelod ac yn un o sefydlwyr y blaid 'Democratiaeth yn Deffro' (Almaeneg: Demokratischer Aufbruch).
Daniela Dahn | |
---|---|
Ganwyd | 9 Hydref 1949 Berlin |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Galwedigaeth | gwleidydd, newyddiadurwr, awdur ffeithiol, llenor, awdur ysgrifau |
Plaid Wleidyddol | Democratiaeth yn Deffro |
Tad | Karl-Heinz Gerstner |
Mam | Sibylle Boden-Gerstner |
Gwobr/au | Gwobr Kurt-Tucholsky, Gwobr Ludwig-Börne, Louise-Schroeder-Medaille |
Fe'i ganed ym Merlin ar 9 Hydref 1949.[1][2]
Ers ailuno'r Almaen ym 1990, mae Dahn wedi bod yn feirniad di-flewyn-ar-dafod o'r broses ailuno. Mae ei steil hynod bersonol o ysgrifennu, a'i barn wleidyddol gref, wedi ysgogi sawl dadl yn yr Almaen, ond mae Dahn, a oedd yn ystyried ei hun yn ddinesydd o Ddwyrain yr Almaen (neu'r "GDR") cyn 1989, yn dadlau dros newyddiaduraeth feirniadol sy'n parhau â'r traddodiad democrataidd o herio'r llywodraeth a pholisïau aduno'r Almaen.[3]
Magwraeth
golyguMae Dahn yn ferch i'r newyddiadurwr Karl-Heinz Gerstner a'r newyddiadurwr ffasiwn Sibylle Gerstner, sylfaenydd cylchgrawn ffasiwn Dwyrain yr Almaen "Sibyl", a chwaer hŷn Sonja Gerstner, a oedd yn enwog am ei salwch meddwl ei hun a'r driniaeth a gafodd. Magwyd Dahn yn Kleinmachnow, Brandenburg yn Nwyrain yr Almaen.
Astudiodd Daniela Dahn newyddiaduraeth yn Leipzig ac yna bu'n gweithio fel newyddiadurwr teledu, yn golygu teledu GDR, cyn troi at ysgrifennu ar ei liwt ei hun ym 1981. Yn 1989 daeth Dahn yn un o sylfaenwyr y grŵp gwrthbleidiol GDR 'Democratiaeth yn Deffro' (Demokratischer Aufbruch), ond torrodd yn rhydd o'r grŵp yn ddiweddarach. [4]
Mae Dahn yn gwasanaethu ar Fwrdd Gweithredol cymdeithas yr awduron PEN ac mae'n darlithio'n rhyngwladol. Mae hi hefyd ar Fwrdd Cynghori'r Undeb Dyneiddwyr, ac mae wedi bod Awdur Preswyl Prifysgol Sunderland yn Lloegr. Yn ogystal, mae Dahn yn gyd-olygydd y papur newydd wythnosol der Fritag. Roedd ei gŵr Jochen Laabs rhwng 1999 a 2001 yn Is-Lywydd Canolfan PEN yn yr Almaen.[5]
Ynghyd â Christa Wolf, y mae hi wedi cydweithio â hi yn y gorffennol, ystyriwyd bod Dahn yn ddewis posibl gan Die Linke fel ymgeisydd ar gyfer Arlywyddiaeth yr Almaen yn etholiad arlywyddol 2009, ond dewiswyd Peter Sodann.[6]
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Kurt-Tucholsky (1999), Gwobr Ludwig-Börne (2004), Louise-Schroeder-Medaille (2002)[7][8] .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Rhyw: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 15 Mehefin 2024.
- ↑ Dyddiad geni: "Daniela Dahn". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Rado Pribić, The trouble with German unification: essays on Daniela Dahn, NoRa-Novitäten & Raritäten, 2008,
- ↑ Anrhydeddau: https://tucholsky-gesellschaft.de/kurt-tucholsky-preis/preistraeger/. https://www.parlament-berlin.de/Das-Parlament/Louise-Schroeder-Medaille. dyddiad cyrchiad: 26 Rhagfyr 2021.
- ↑ "Daniela Dahn "The Fall of the Wall and the End of the GDR – Twenty Years After". Cyrchwyd 23 Chwefror 2010. [dolen farw]
- ↑ "Die Linke will Christa Wolf als Bundespräsidentin". (German)
- ↑ https://tucholsky-gesellschaft.de/kurt-tucholsky-preis/preistraeger/.
- ↑ https://www.parlament-berlin.de/Das-Parlament/Louise-Schroeder-Medaille. dyddiad cyrchiad: 26 Rhagfyr 2021.