Darwin, Tiriogaeth y Gogledd
Darwin yw prifddinas Tiriogaeth y Gogledd, yng ngogledd Awstralia. Hi yw'r ddinas fwyaf yn y diriogaeth, gyda phoblogaeth o tua 111,000 o bobl. Mae’n borthladd ar Fôr Timor. Mae twristiaeth yn bwysig; mae Litchfield, Ceunant Katherine a Kakadu[1] yn atyniadau cyfagos, ac mae Gerddi Botaneg George Brown yn gyrchfan ymwelwyr bwysig, ac mae Parc Genedlaetho Charles Darwin[2] ac Amgueddfa filwrol Darwin[3] yn agos i’r ddinas.
![]() | |
![]() | |
Math |
dinas, dinas fawr ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl |
Charles Darwin ![]() |
| |
Poblogaeth |
136,828 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth |
Kon Vatskalis ![]() |
Cylchfa amser |
UTC+09:30 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Tiriogaeth y Gogledd ![]() |
Gwlad |
Awstralia ![]() |
Arwynebedd |
112.01 km² ![]() |
Uwch y môr |
0 metr ![]() |
Cyfesurynnau |
12.4381°S 130.8411°E ![]() |
Cod post |
0800 ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Kon Vatskalis ![]() |
![]() | |
TywyddGolygu
Mae gan Darwin hinsawdd trofannol, ac mae dwy dymor, Gwlyb, rhwng Dachwedd a Ebrill, a Sych, rhwng Mai a Hydref. Achoswyd difrod mawr gan Gylchwynt ‘Tracy’ ym 1974.[1]
HanesGolygu
Enwyd Darwin ar ôl Charles Darwin ym 1839 yn ystod trydedd môrdaith Y Beagle. Sefydlwyd Darwin ym 1869 a thyfodd y ddinas yn gyflym ar ôl darganfod Aur yn Pine Creek, tua 200 cilomedr i’r de o Darwin. Daeth y borthladd yn bwysig yn ystod y rhyfel. Crewyd ffordd tarmac i Darwin o’r reilffordd a Adelaide i Alice Springs. Ymosodwyd ar y ddinas 64 o weithiau gan awyrennau Siapaneiaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Erbyn hyn, mae’r reilffordd yn estyn hyd at Darwin.[1]
CludiantGolygu
Mae trên i deithwyr, Y Ghan, yn mynd dwywaith bob wythnos i Adelaide. Prif bwrpas y reilffordd yw cludu nwyddau i’r porthladd.[1]
Mae Maes awyr rhyngwladol Darwin 13 cilomedr o’r ddinas. Mae awyrennau yn mynd i Singapôr, i ynysoedd i’r gogledd, megis Dwyrain Timor, yn ogystal â dinasoedd eraill Awstralia.[4]
Trefnwyd rhwydwaith o wasanaethau bws gan Buslink a Territory Transit [5]
Mae Sealink NT yn gyfrifol am 2 fferi lleol, i Mandorah ar ochr arall y harbwr, ac i Ynysoedd Tiwi, i’r gogledd o’r ddinas.
DiwylliantGolygu
Sefydlwyd Gŵyl Bougainvillea ym 1978, yn ŵyl flodeuol. Newidiwyd yr ŵyl yn ystod y 90au i gynnwys y celfydyddau, a newidiwyd ei henw i Gŵyl Darwin yn 2003, sydd erbyn hyn yn parhau am 18 diwrnod.[6]
Mae Clwb Rheilffordd Darwin yn leoliad pwysig ar gyfer cerddoriaeth. Ac mae Clwb gwerin Top End yn cyfarfod yno'n rheolaidd.[7]
CyfeiriadauGolygu
Prifddinasoedd Awstralia |
|
---|---|
Adelaide (De Awstralia) | Brisbane (Queensland) | Canberra (Cenedlaethol, a Tiriogaeth Prifddinas Awstralia) | Darwin (Tiriogaeth Gogleddol) | Hobart (Tasmania) | Melbourne (Victoria) | Perth (Gorllewin Awstralia) | Sydney (De Cymru Newydd) |