Datganiad Obar Bhrothaig

(Ailgyfeiriad o Datganiad Arbroath)

Mae Datganiad Obar Bhrothaig ( Sgoteg: Declaration o Aiberbrothock; Lladin: Declaratio Arbroathis; Gaeleg yr Alban: Tiomnadh Bhruis; Saesneg: Declaration of Arbroath) yn ddatganiad o annibyniaeth yr Alban, a wnaed ym 1320. Mae ar ffurf llythyr yn Lladin a gyflwynwyd i'r Pab Ioan XXII, dyddiedig 6 Ebrill 1320. Ei bwriad oedd i gadarnhau statws yr Alban fel gwladwriaeth sofran annibynnol ac amddiffyn hawl yr Alban i ddefnyddio grym milwrol pan ymosodir arni'n anghyfiawn.

Datganiad Obar Bhrothaig
Enghraifft o'r canlynoldatganiad o annibynniaeth Edit this on Wikidata
IaithLladin Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu6 Ebrill 1320 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Credir yn gyffredinol iddo gael ei ysgrifennu yn Abaty Obar Bhrothaig gan Bernard o Kilwinning, Canghellor yr Alban ac Abad Obar Bhrothaig ar y pryd, [1] a'i selio gan bum deg un o fawrion ac uchelwyr y genedl. Y llythyr yw'r unig oroeswr o dri a grëwyd ar y pryd. Y lleill oedd llythyr gan Robert I, Brenin yr Alban, a llythyr gan bedwar esgob o'r Alban i gyd yn gwneud pwyntiau tebyg.

Trosolwg

golygu

Roedd y Datganiad yn rhan o ymgyrch ddiplomyddol ehangach, a geisiodd pwysleisio safle’r Alban fel teyrnas annibynnol, [2] yn hytrach na thir ffiwdal a reolir gan frenhinoedd Normanaidd Lloegr, yn ogystal â chodi'r ddedfryd o ysgymuno a osodwyd ar Robert de Brus. [3] Roedd y pab wedi cydnabod honiad Edward I o Loegr i oruchafiaeth ar yr Alban ym 1305 a chafodd de Brus ei ysgymuno gan y Pab am lofruddio John Comyn gerbron yr allor yn Eglwys Greyfriars yn Dumfries ym 1306. [3]

Gwnaeth y Datganiad nifer o bwyntiau:

  • bod yr Alban bob amser wedi bod yn annibynnol, yn wir am gyfnod hirach na Lloegr;
  • bod Edward I o Loegr wedi ymosod yn anghyfiawn ar yr Alban ac wedi cyflawni erchyllterau;
  • bod Robert de Brus wedi gwaredu cenedl yr Alban o'r perygl hwn;
  • annibyniaeth pobl yr Alban oedd annibyniaeth yr Alban, yn hytrach na Brenin yr Alban.

Testun

golygu

Mae'r testun llawn yn Lladin (a chyfieithiad yn Saesneg), i'w gweld ar dudalen Declaration of Arbroath ar Wicidestun Saesneg.

Llofnodwyr

golygu

Mae 39 enw - wyth iarll a thri deg un barwn - ar ddechrau'r ddogfen, y gallai pob un ohonyn nhw fod â'u seliau wedi'u hatodi, dros gyfnod o rai wythnosau a misoedd mae'n debyg, gydag uchelwyr yn anfon eu seliau i'w defnyddio. Dim ond 19 sêl sydd ar y copi sy'n bodoli o'r Datganiad, ac o'r 19 o bobl hynny dim ond 12 sydd wedi'u henwi yn y ddogfen. Credir ei fod yn debygol bod o leiaf 11 yn fwy o seliau na'r 39 gwreiddiol wedi eu hatodi.[4] Yna aethpwyd â'r Datganiad i'r llys Pabaidd yn Avignon gan yr Esgob Kininmund, Syr Adam Gordon a Syr Odard de Maubuisson. [2]

Fe wnaeth y pab wrando ar y dadleuon a gynhwyswyd yn y Datganiad. Cafodd ei ddylanwadu gan gynnig o gefnogaeth gan yr Albanwyr ar gyfer ei groesgad hir ddymunol os nad oedd yn rhaid iddynt ofni goresgyniad gan Loegr mwyach. Anogodd y pab, trwy lythyr i Edward II i wneud heddwch â'r Albanwyr. Y flwyddyn ganlynol perswadiwyd y Saeson y pab i gymryd eu hochr hwy eto a chyhoeddodd chwe bwla i'r perwyl hwnnw. [5] Ddim tan wyth mlynedd yn ddiweddarach, ar 1 Mawrth 1328 arwyddodd brenin newydd Lloegr, Edward III, gytundeb heddwch rhwng yr Alban a Lloegr, Cytundeb Caeredin-Northampton. Yn y cytundeb hwn, a oedd i bob pwrpas am bum mlynedd hyd 1333, ymwrthododd Edward â holl hawliadau Lloegr ar yr Alban. Wyth mis yn ddiweddarach, ym mis Hydref 1328, cafodd y ddedfryd o waharddiad a roddwyd ar yr Alban, a'r ddedfryd o ysgymuno ar ei brenin, eu dileu gan y Pab. [5]

Copïau llawysgrif

golygu

Collwyd y copi gwreiddiol o'r Datganiad a anfonwyd at Avignon. Mae copi o'r Datganiad wedi goroesi ymhlith papurau gwladol yr Alban, sy'n mesur 540mm o led a 675mm o hyd (gan gynnwys y seliau), mae'n cael ei ddal gan Archif Genedlaethol yr Alban yng Nghaeredin.[6]

Rhestr o lofnodwyr

golygu

Rhestrir isod lofnodwyr Datganiad Obar Bhrothaig ym 1320.[7]

Mae'r datganiad ei hun wedi'i ysgrifennu yn Lladin. Mae'n defnyddio'r fersiynau Lladin o deitlau'r llofnodwyr, ac mewn rhai achosion, mae sillafu enwau wedi newid dros y blynyddoedd.

  • Donnchadh IV, Iarll Fife
  • Thomas Randolph, Iarll 1af Moray
  • Patrick Dunbar, Iarll Dunbar
  • Malise, Iarll Strathearn
  • Malcolm, Iarll Lennox
  • William, Iarll Ross
  • Magnús Jónsson, Iarll Ynysoedd Erch
  • William de Moravia, Iarll Sutherland
  • Walter, Uchel Stiward yr Alban (
  • William de Soules, Arglwydd Liddesdale a Bwtler yr Alban
  • Syr James Douglas, Arglwydd Douglas
  • Roger de Mowbray, Arglwydd Barnbougle a Dalmeny
  • David, Arglwydd Brechin
  • David de Graham o Kincardine
  • Ingram de Umfraville
  • John de Menteith, gwarcheidwad iarllaeth Menteith
  • Alexander Fraser o Touchfraser a Cowie
  • Gilbert de la Hay, Cwnstabl yr Alban
  • Robert Keith, Marischal yr Alban
  • Henry St Clair o Rosslyn
  • John de Graham, Arglwydd Dalkeith, Abercorn & Eskdale
  • David Lindsay o Crawford
  • William Oliphant, Arglwydd Aberdalgie a Dupplin
  • Patrick de Graham o Lovat
  • John de Fenton, Arglwydd Baikie a Beaufort
  • William de Abernethy o Saltoun
  • David Wemyss o Wemyss
  • William Mushet
  • Fergus o Ardrossan
  • Eustace Maxwell o Gaerlaverock
  • William Ramsay
  • William de Monte Alto, Arglwydd Ferne
  • Alan Murray
  • Donald Campbell
  • John Cameron
  • Reginald le Chen, Arglwydd Inverugie a Duffus
  • Alexander Seton
  • Andrew de Leslie
  • Alexander Straiton

Yn ogystal, nid yw enwau'r canlynol yn ymddangos yn nhestun y ddogfen, ond mae eu henwau wedi'u hysgrifennu ar dagiau sêl ac mae eu seliau yn bresennol:[8]

  • Alexander de Lamberton
  • Edward Keith
  • Arthur Campbell
  • Thomas de Menzies
  • John de Inchmartin
  • John Duraunt
  • Thomas de Morham

Etifeddiaeth

golygu

Yn 2016 gosodwyd Datganiad Obar Bhrothaig ar gofrestr Cof y Byd, UNESCO.[9]

Yn 2020 roedd Albanwyr yn bwriadu dathlu 700 mlynedd ers cyhoeddi Datganiad Obar Bhrothaig gyda digwyddiadau o wahanol fathau, ond cawsant eu canslo neu eu gohirio oherwydd y pandemig coronafirws.[10]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Scott 1999, t. 196.
  2. 2.0 2.1 Barrow 1984.
  3. 3.0 3.1 Lynch 1992.
  4. "The seals on the Declaration of Arbroath". Archif Genedlaethol yr Alban. Cyrchwyd 4 Ebrill 2020.
  5. 5.0 5.1 Scott 1999.
  6. "Archif Genedlaethol yr Alban". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-09. Cyrchwyd 2020-04-04.
  7. Brown, Keith. "The Records of the Parliaments of Scotland to 1707". Records of the Parliaments of Scotland. Archif Genedlaethol yr Alban. Cyrchwyd 3 Ebrill 2020.
  8. "Declaration of Arbroath - Seals". Archif Genedlaethol yr Alban. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-01-06. Cyrchwyd 2020-04-04.
  9. "Declaration of Arbroath awarded Unesco status". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 4 Ebrill 2020.
  10. "Coronavirus fears force All Under One Banner to delay Arbroath march". The National. Cyrchwyd 2020-04-04.