Pandemig COVID-19

pandemig a gychwynodd yn Wuhan, Tsieina yn Rhagfyr 2019.

Sylw!
Nid yw Wicipedia yn darparu cyngor meddygol nac iechyd. Gall yr erthygl hon gynnwys gwybodaeth hen ffasiwn neu anghywir. Dim ond gweithiwr iechyd proffesiynol sy'n gallu rhoi cyngor meddygol i chi, a dim ond awdurdodau iechyd eich gwlad sy'n gymwys i roi cyfarwyddiadau iechyd cyhoeddus yn ymwneud â phandemig y Gofid Mawr.

Erthygl am y pandemig cyfoes yw hon.
Am y firws penodol a achosodd yr epidemig, gweler SARS-CoV-2.
Am yr haint, gweler COVID-19
Am y grŵp o firysau mae'r firws yn perthyn iddo, gweler: Coronafirysau
Am y cyd-destun Cymreig, gweler Y Gofid Mawr (COVID-19) yng Nghymru

Pandemig a achoswyd gan y coronafirws SARS-CoV-2[1] ac a ymddangosodd yn gyntaf yn Wuhan, yn nhalaith Hubei, yng nghanolbarth Tsieina yw'r pandemig yma a ddaeth i sylw ledled y byd yn Ionawr 2020. Gelwir y clefyd a achosir gan y firws yma yn COVID-19 (byrfodd rhyngwladol sy'n tarddu o'r geiriau coronavirus disease 2019. Ar 28 Chwefror cafwyd yr achos cyntaf yng Nghymru, yn Abertawe (gweler: Y Gofid Mawr (COVID-19) yng Nghymru).[2]

Prifddinas talaith Hubei yw Wuhan, ac yno y bu farw'r claf cyntaf gan y math newydd hwn o firws; erbyn diwedd y mis roedd 10,000 o achosion wedi eu cadarnhau a 300 o bobl wedi marw.[3][4] Ar 11 Mawrth, 2020, cyhoeddodd Cyfundrefn Iechyd y Byd (WHO) fod yr 'epidemig' bellach yn 'bandemig'.[5] Dyma'r pandemig cyntaf i gael ei achosi gan un o'r 7 math o goronafirws.

Nifer y marwolaethau / y pen
Nifer y marwolaethau / y pen

Mae cyfnod deori (y cyfnod rhwng dod i gysylltiad a'r firws â datblygiad symptomau) y firws oddeutu 5 diwrnod (rhwng 2 a 14 diwrnod) ac mae'n fwyaf heintus yn ystod y 3 diwrnod cyntaf wedi symptomau gychwyn ond gall drosglwyddo cyn symptomau neu lle nad oes unrhyw symptomau.[6] Mae'r symptomau'n cynnwys twymyn (gwres), peswch, ac anawsterau anadlu, colli synnwyr arogli a gall fod yn angheuol. Mae'r claf yn dioddef o niwmonia. Digwyddodd y trosglwyddiad cyntaf o'r firws y tu allan i Tsieina yn Fietnam, o dad i'w fab.[7] Credir y gall y firws fyw ar arwyneb solad, megis metal neu garreg am gyfnod o 5 diwrnod a tua deuddydd ar ddefnydd meddal megis dilledyn.

Cyfarwyddiadau dwyieithog gan Lywodraeth Cymru a GIG
Silffoedd gwag ym Mangor, gyda phobl yn prynu mwy nag arfer o nwyddau fel sebon gwrthfeiotig, papur lle chwech, a bwyd hir oes megis tuniau o diwna. Mawrth 2020.

Mewn ymateb i'r haint, ataliwyd dinasoedd â phoblogaeth o dros 57 miliwn o bobl (gan gynnwys Wuhan) a 15 o ddinasoedd yn nhalaith Hubei o gwmpas tarddiad yr epidemig rhag teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus gan gynnwys cludiant o'r ddinas ar fysiau trên ac awyr.[8][9] Erbyn 12 Mawrth 2020, cadarnhawyd dros 134,000 o achosion mewn mwy na 120 o wledydd a thiriogaethau, gyda Tsieina, yr Eidal, De Korea, ac Iran wedi ei chael yn ddrwg iawn. Cyrhaeddodd yr achos cyntaf Cymru ar 28 Chwefror, pan gyrhaeddodd claf ei gartref yn Abertawe wedi ymweliad a gogledd yr Eidal.[10]

Tarddiad golygu

O'r 41 person cyntaf y cadarnhawyd gan PCR eu bod wedi'u heintio, canfuwyd bod gan ddwy ran o dair gysylltiad â Marchnad Gyfanwerthol Bwyd Môr Huanan, a oedd hefyd yn gwerthu anifeiliaid byw.[11][12][13][14]

Y firws hwn, felly, yw'r 7fed math o goronafirws i heintio bodau dynol. Mae dilyniant y genom 2019-nCoV yn 75 i 80% yn union yr un fath â SARS-CoV, ac yn fwy na 85% yn debyg i sawl coronafirws a geir mewn ystlumod.[15]

Achosion golygu

Mae 'achosion' yn cyfeirio at nifer y bobl sydd wedi cael eu profi'n bositif o COVID-19, yn ôl protocolau swyddogol. Ar 29 Ebrill, roedd 1.4% o boblogaeth y gwledydd hynny sy'n cyhoeddi eu data, ac nid oedd yr un wlad wedi profi samplau sy'n hafal i fwy na 14% o'i phoblogaeth.[16] Ceir sawl astudiaeth sy'n dangos fod y nifer o achosion, bron ym mhob gwlad, yn uwch na'r niferoedd swyddogol.[17]

Mae dadansoddiad yn ôl oedran yn Tsieina yn dangos bod cyfran gymharol isel o achosion yn digwydd mewn unigolion o dan 20 oed. Nid yw'n glir a yw hyn oherwydd bod pobl ifanc mewn gwirionedd yn llai tebygol o gael eu heintio, neu'n llai tebygol o ddatblygu symptomau difrifol a cheisio sylw meddygol a chael eu profi.[18]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Fox, Dan (24 Ionawr 2020). "What you need to know about the Wuhan coronavirus". Nature. doi:10.1038/d41586-020-00209-y. ISSN 0028-0836.
  2. Dr Frank Atherton, prif swyddog meddygol y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, yn cadarnhau'r achos cyntaf o coronafeirws yn y wlad.
  3. "Health Advisory Regarding 2019 Novel Coronavirus (2019-nCoV) | Columbia Health". health.columbia.edu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Ionawr 2020. Cyrchwyd 26 Ionawr 2020.
  4. Field, Field (22 Ionawr 2020). "Nine dead as Chinese coronavirus spreads, despite efforts to contain it". The Washington Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 Ionawr 2020. Cyrchwyd 22 Ionawr 2020.
  5. livescience.com; adalwyd 13 Mawrth 2020.
  6. "Symptoms of Novel Coronavirus (2019-nCoV)". US Centers for Disease Control and Prevention. 10 Chwefror 2020. Cyrchwyd 11 Chwefror 2020.
  7. "China coronavirus: 'family cluster' in Vietnam fuels concerns over human transmission". South China Morning Post. 29 Ionawr 2020. Cyrchwyd 29 Ionawr 2020.
  8. CNN, James Griffiths and Amy Woodyatt. "Wuhan coronavirus: Thousands of cases confirmed as China goes into emergency mode". CNN. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Ionawr 2020. Cyrchwyd 29 Ionawr 2020.
  9. Hui, Jane Li, Mary. "China has locked down Wuhan, the epicenter of the coronavirus outbreak". Quartz. Cyrchwyd 23 Ionawr 2020.
  10. bbc.co.uk; adalwyd 13 Mawrth 2020.
  11. Huang, Chaolin; Wang, Yeming; Li, Xingwang; Ren, Lili; Zhao, Jianping; Hu, Yi; Zhang, Li; Fan, Guohui et al. (24 Ionawr 2020). "Clinical features of patients infected with 2019 novel coronavirus in Wuhan, China". Lancet. doi:10.1016/S0140-6736(20)30183-5. ISSN 0140-6736. PMID 31986264.
  12. Joseph, Andrew (24 Ionawr 2020). "New coronavirus can cause infections with no symptoms and sicken otherwise healthy people, studies show". STAT. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Ionawr 2020. Cyrchwyd 27 Ionawr 2020.
  13. Chan, Jasper Fuk-Woo; Yuan, Shuofeng; Kok, Kin-Hang; To, Kelvin Kai-Wang; Chu, Hin; Yang, Jin; Xing, Fanfan; Liu, Jieling et al. (24 Ionawr 2020). "A familial cluster of pneumonia associated with the 2019 novel coronavirus indicating person-to-person transmission: a study of a family cluster". The Lancet 0. doi:10.1016/S0140-6736(20)30154-9. ISSN 0140-6736. PMID 31986261.
  14. Schnirring, Lisa (25 Ionawr 2020). "Doubts rise about China's ability to contain new coronavirus". CIDRAP. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Ionawr 2020. Cyrchwyd 26 Ionawr 2020.
  15. Perlman, Stanley (24 Ionawr 2020). "Another Decade, Another Coronavirus". New England Journal of Medicine 0: null. doi:10.1056/NEJMe2001126. ISSN 0028-4793. PMID 31978944.
  16. "Total tests for COVID-19 per 1,000 people". Our World in Data. Cyrchwyd 16 Ebrill 2020.
  17. "Report 13—Estimating the number of infections and the impact of non-pharmaceutical interventions on COVID-19 in 11 European countries". Imperial College London. Cyrchwyd 7 April 2020.
  18. Scott D (23 Mawrth 2020). "The Covid-19 risks for different age groups, explained". Vox. Cyrchwyd 12 Ebrill 2020.

Dolenni allanol golygu