Seiclwr a hyfforddwr Seisnig ydy Dave Le Grys (ganwyd 10 Awst 1955). Mae'n arbenigo mewn seiclo trac ac mae'n Pencampwr Meistri Trac y Byd. Mae wedi cynyrchioli ei wlad sawl gwaith gan ennill medal arian yn y sbrint tandem gyda Trevor Gadd yng Ngemau'r Gymanwlad 1978 yn Edmonton, Alberta, Canada. Mae wedi cynyrchioli Prydain yn y Gemau Olympaidd, Pencampwriaethau'r Byd a sawl Grand Prix, bu'n bencampwr cenedlaethol sawl gwaith rhwng 1973 a 1987, ac yn seiclwr proffesiynol elet.

Dave Le Grys
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnDave Le Grys
LlysenwLegro
Dyddiad geni (1955-08-10) 10 Awst 1955 (69 oed)
Taldra1.75 m
Manylion timau
DisgyblaethTrac
RôlReidiwr a Hyfforddwr
Math seiclwrSbrint
Tîm(au) Amatur
Prif gampau
Pencampwr y Byd x18
Baner Prydain Fawr Pencampwr Prydain x12 (o leiaf!)
Gemau'r Gymanwlad
Golygwyd ddiwethaf ar
4 Hydref 2007

Trodd yn broffesiynol yn 1982, on dymddeolodd Le Grys o seiclo yn 1987 am gyfnod o ddeng mlynedd. Cariodd ymlaen i hyfforddi eraill ac roedd ganddo ddiddordeb mewn rhedeg Marathon a Duathlon hefyd. Dychwelodd i seiclo cystadleuol yn 1997.

Yn ddiweddar, enillodd y kilo yng nghategori dynion 50–54 oed ym Mhencampwriaethau Meistri Trac y Byd yn Velodrome Manceinion.

Canlyniadau

golygu
1978
2il   Sbrint Tandem, Gemau'r Gymanwlad
1986
Record y Byd Seiclo Cyflymder; 126 milltir yr awr.
1997, 1998, 1999, 2000 & 2001
  Sbrint Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac 'Veteran' Prydain
2002, 2004 & 2005
  Sbrint Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Meistri Prydain
2002 & 2003
  Treial Amser 750 metr Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Meistri Prydain
2005 & 2006
  Treial Amser 500 metr Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Meistri Prydain
1997, 2001 & 2002
  Sbrint Mhencampwriaethau Meistri Trac y Byd
1999, 2000, 2001 & 2002
  Treial Amser 750 metr Mhencampwriaethau Meistri Trac y Byd
2005 & 2006
  Treial Amser 500 metr Mhencampwriaethau Meistri Trac y Byd
1997, 1999, 2000, 2002, 2003, 2004, 2005 & 2006
  Sbrint Tîm Mhencampwriaethau Meistri Trac y Byd

Dolenni Allanol

golygu