David Cotterill

pêl-droediwr

Chwaraewr pêl-droed Cymreig yw David Rhys George Best Cotterill (ganwyd 4 Rhagfyr 1987). Mae'n chwarae fel asgellwr i Birmingham City ac i Gymru.

David Cotterill
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnDavid Rhys George Best Cotterill
Dyddiad geni (1987-12-04) 4 Rhagfyr 1987 (36 oed)
Man geniCaerdydd, Cymru
SafleAsgellwr
Y Clwb
Clwb presennolBirmingham City
Rhif11
Gyrfa Ieuenctid
Bristol City
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2004–2006Bristol City62(8)
2006–2008Wigan Athletic18(1)
2008Sheffield United (ar fenthyg)16(0)
2008–2010Sheffield United38(6)
2009–2010Abertawe (ar fenthyg)4(0)
2010–2012Abertawe31(4)
2011Portsmouth (ar fenthyg)15(1)
2012Barnsley11(1)
2012–2014Doncaster Rovers84(14)
2014–Birmingham City36(8)
Tîm Cenedlaethol
2004–2005Cymru dan 193(1)
2005–2007Cymru dan 219(4)
2005–Cymru22(2)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 20:07, 28 Mawrth 2015 (UTC).

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 20:07, 28 Mawrth 2015 (UTC)

Fe'i ganwyd yng Nghaerdydd a chychwynodd ei yrfa gyda Bristol City cyn symud i fyny i Wigan Athletic F.C. a oedd yn chwarae yn Uwchgynghrair Lloegr ac yna Sheffield United F.C., ar fenthyciad i ddechrau ac yna'n barhaol. Oddi yno trosglwyddodd Cotterill i Abertawe cyn treulio ysbaid ar fenthyciad i Portsmouth ac yna i Barnsley. Oddi yno aeth i Doncaster Rovers am ddau dymor cyn ymuno gyda Birmingham.

Fel aelod o Dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, ymddangosodd dros ugain o weithiau gan sgorio ddwywaith.

Dinas Birmingham golygu

Roedd Doncaster wedi cynnig cytundeb newydd iddo ar ddiwedd tymor 2013-14 ond dewisiodd Birmingham, er mwyn iddo fod yn nes at ei deulu, sy'n byw yng Nghymru. Arwyddodd gytundeb ddwy flynedd gyda'r Clwb,[1] a'i gêm gyntaf oedd yn erbyn Caergrawnt ar 12 Awst. Cafodd ei ddewis yn rheolaidd a sgoriodd ei gôl gyntaf yn erbyn Fulham ar 27 Medi o bellter o dros 28 metr.[2] Yn y gêm ddilynol, yn erbyn Millwall, sgoriodd gôl a gosododd ddwy, o bellter tebyg.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. "David Cotterill: Birmingham City sign Doncaster Rovers midfielder". BBC Sport. 24 Mehefin 2014. Cyrchwyd 13 Awst 2014.
  2. Tattum, Colin (27 Medi 2014). "Birmingham City 1 Fulham 2". Birmingham Mail. Cyrchwyd 29 Rhagfyr 2014.
  3. "Millwall 1–3 Birmingham". BBC Sport. 30 Medi 2014. Cyrchwyd 1 Hydref 2014.