David Davies, Hwlffordd

gweinidog ac athro gyda'r Bedyddwyr (1800?-1856)

Roedd Y Parch David Davies (2 Mawrth 1794 - 19 Mawrth 1856 yn weinidog gyda'r Bedyddwyr ac yn bennaeth cyntaf Athrofa'r Bedyddwyr yn Hwlffordd.[1]

David Davies, Hwlffordd
Ganwyd2 Mawrth 1794 Edit this on Wikidata
Bu farw19 Mawrth 1856 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, tiwtor Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Davies yn Steynton, Aberdaugleddau yn blentyn i'r Parch Benjamin Davies, gweinidog cyntaf y Bedyddwyr yn y dref [2] a Mary (née Owen) ei wraig. Cafodd ei enw ei gofrestru gan ei dad yng nghofrestr plant aelodau enwad y Bedyddwyr cylch Arberth ar 20 Ebrill 1794.[3] Cafodd ei addysg yn Athrofeydd y Bedyddwyr yn y Fenni a Stepney, Swydd Middlesex (Llundain Fwyaf, bellach).

Wedi gorffen ei addysg ragbaratoawl bu Davies yn gwasanaethu fel cyd weinidog i'r Parch Laurence Butterworth yn Evesham, Swydd Gaerwrangon, lle cafodd ei ordeinio ym 1822. Roedd angen cynorthwyydd ar Butterworth gan ei fod wedi cyrraedd 84 mlwydd oed a bu Davies yn gyfrifol am lawer o waith ymarferol yr eglwys. Pan fu farw'r hen weinidog ym 1828 [4] penodwyd Davies yn weinidog llawn yno.

Ym 1837 derbyniodd Davies alwad i'w fam eglwys yn Hwlffordd i wasanaethu Bedyddwyr Saesneg Sir Benfro (er ei fagu yng Nghymru roedd Davies yn Gymro di-gymraeg [2]). Ym 1839 fe'i penodwyd yn bennaeth ac athro Diwinyddol yr athrofa oedd newydd ei sefydlu yn y dref. Gwasanaethodd fel pennaeth yr athrofa a gweinidog Hwlffordd hyd ei farwolaeth.

Ym 1823 priododd Davies â Sophia Elizabeth Hayward. Bu iddynt fab a thair merch. Bu farw Sophia ym 1843,[5] ail briododd a gwraig o'r enw Elizabeth.

Marwolaeth

golygu

Bu farw o'r dropsi (oedema oherwydd methiant gorlenwad y galon, yn nhermau meddygol cyfoes) yn Hwlffordd yn 62 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent ei gapel.[6]

Cyfeiriadau

golygu