David Evans (Patagonia)

Yn 1886 fe ymfudodd David Evans, ei wraig Mary a'u plant, Benjamin, Sara ac Anne i Batagonia ar y llong Vesta. Ganwyd David ar 24 Rhagfyr, 1858 ym Melin Glanduar, Llanybydder i James ac Hannah Evans. Priododd Mary Davies pan roedd tua 21 oed. Ar ôl cyrraedd Patagonia fe ymgartrefont yn Maen Gwyn, Treorcky a ganwyd chwech plentyn arall iddynt: Rachel yn 1887, James yn 1889, Rosana ar 30 Mehefin, 1891, Daniel R. yn 1893, Mair yn 1896 a Martha yn 1898. Ffermwr oedd David Evans yng Nghymru ond fe aeth i Batagonia i adeiladu y rheilffordd o Borth Madryn i Drelew. Mewn tywydd annioddefol gadawodd y Dyffryn gyda dim ond digon o fwyd am wythnos a'i ddillad gwely ar ei gefn a bu'n weithiwr diwyd ar y paith. Penderfynodd droi ei law i ffermio ar ôl gweithio ar y rheilffordd am gyfnod. Symudodd i Bryn Crwn am gyfnod byr, yna Tres Casas, a wedyn i fferm fach ar waelod Bryn Gwyn..Mentrodd i brynu fferm fach o 100 hectar ac ar ôl talu amdani fe brynodd fferm fach arall. Dywedwyd ei fod yn ffermwr da ac fe enillodd enw da fel tyfwr gwenith yn yr ardal. Bu farw David Evans ar 11 Ebrill, 1928, yn 69 oed, a'i wraig Mary ar 7 Hydref, 1942.[1]

David Evans
Ganwyd1858 Edit this on Wikidata

Cyfeiriadau golygu

  1. Companion to the Welsh Settlement in Patagonia. Eirionedd A. Baskerville, 2014. Cymdeithas Cymru Ariannin

Dolen allanol golygu