David Hasselhoff
Actor, canwr, cynhyrchydd a dyn busnes o'r Unol Daleithiau yw David Hasselhoff (ganwyd 17 Gorffennaf 1952),[1] sydd hefyd yn adnabyddus fel "The Hoff".[2]
David Hasselhoff | |
---|---|
Ganwyd | David Michael Hasselhoff 17 Gorffennaf 1952 Baltimore |
Man preswyl | Encino |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor teledu, canwr, cynhyrchydd ffilm, person busnes, llenor, cyfarwyddwr, actor llwyfan, actor ffilm, actor llais, cynhyrchydd teledu, sgriptiwr |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, roc poblogaidd, cerddoriaeth roc caled, cerddoriaeth roc, roc meddal |
Priod | Catherine Hickland, Pamela Bach |
Plant | Hayley Hasselhoff, Taylor-Ann Hasselhoff |
Gwobr/au | seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, People's Choice Award for Favorite Action Star, Gwobr Bambi, Bollywood Awards, VH1 Big in '06 Awards, TV Land Award |
Gwefan | https://davidhasselhoffonline.com |
Daeth i sylw gyntaf ar opera sebon The Young and The Restless, yn chwarae Dr. Snapper Foster. Datblygodd ei yrfa yn yr 1980au gyda'r brif rhan o Michael Knight ar y gyfres Knight Rider ac yr achubwyr bywyd Mitch Buchannon ar y gyfres Baywatch. Mae wedi ymddangos yn y ffilmiau Click (2006), Dodgeball, ffilm SpongeBob Squarepants a Hop.
Yn 2000, ymddangosodd am y tro cyntaf ar Broadway yn y sioe gerdd Jekyll & Hyde. Yn dilyn hynny serennodd mewn mwy o sioeau cerdd yn cynnwys Chicago a The Producers.
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Hasselhoff yn Baltimore, Maryland, yn fab i Dolores Therese (née Mullinex/Mullinix; bu farw 11 Chwefror 2009), gwraig tŷ, a Joseph Vincent Hasselhoff, gweithredwr busnes.[1][3] Mae ei deulu yn Babyddion, o dras Almaenig, Gwyddelig a Seisnig.[3][4][5] Ymfudodd ei hen-hen-fam-gu, Meta, gyda'i theulu i Baltimore o Völkersen, Yr Almaen , 30 cilometr (19 mi) o Bremen, yn 1865.[6]
Treuliodd ei blentyndod yn Jacksonville, Florida, ac aeth i fyw yn ddiweddarach yn Atlanta, Georgia, lle mynychodd Ysgol Uwchradd Marist. Perfformiodd Hasselhoff am y tro cyntaf ar lwyfan yn saith oed mewn sioe gerdd Peter Pan, ac ers hynny ei freuddwyd oedd cael gyrfa ar Broadway.[7] Graddiodd o Ysgol Uwchradd Lyons Township yn La Grange, Illinois yn 1970. Roedd yn aelod o'r tîm siarad cyhoeddus, arweinwyr trafod, llywydd y côr, capten y tîm pêl foli a chwaraeodd rannau mewn sawl drama (yn cynnwys un prif ran fel Matt yn The Fantasticks). Astudiodd ym Mhrifysgol Oakland cyn cael gradd theatr yn California Institute of the Arts.[8]
Bywyd personol
golyguRoedd yn briod a'r actores Catherine Hickland o 24 Mawrth 1984 hyd 1 Mawrth 1989.[1] Ail-grewyd eu priodas ym mhennod "The Scent of Roses" ym mhedwerydd cyfres Knight Rider a ddarlledwyd gyntaf ar 3 Ionawr 1986.
Priododd Hasselhoff yr actores Pamela Bach yn Rhagfyr 1989.[9] Mae gan y cwpl ddwy ferch: Taylor Ann Hasselhoff, ganwyd 5 Mai 1990,[10] a fynychodd Prifysgol Arizona ac oedd yng nghast cyfres Rich Kids of Beverly Hills yn 2015, a'r actores Hayley Hasselhoff, ganwyd 28 Awst 1992.[11] Yn Ionawr 2006, cyhoeddodd Hasselhoff ei fod yn cofrestru am ysgariad, gan nodi anghytundeb digymod.[9] Cwblhawyd yr ysgariad yn Awst 2006.[12] Rhoddwyd gwarchodaeth un ferch i Bach a'r ferch arall i Hasselhoff,[13] hyd nes i Hasselhoff gael gwarchodaeth o'r ddau yn ddiweddarach.[12] Yn Rhagfyr 2010 roedd yn byw Ne Califfornia gyda'i ferched.[14]
Ers 2013, mae Hasselhoff wedi caru gyda Hayley Roberts, o Glyn-nedd. Mae'n dilyn rygbi'r undeb Cymreig, ac maent wedi mynd i nifer o gemau rygbi yng Nghymru.[15][16][17] Priododd y ddau ar 31 Gorffennaf 2018 yn yr Eidal.[18][19][20]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 "David Hasselhoff Biography (1952–)" (yn Saesneg). Filmreference.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Mawrth 2016. Cyrchwyd 4 Awst 2010. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "New crab with hairy chest dubbed "The Hoff"" (yn Saesneg). CBS News. 5 Ionawr 2012. Cyrchwyd 4 Ionawr 2014.
- ↑ 3.0 3.1 Hasselhoff, David; Thompson, Peter (2007). Making waves: The autobiography (yn Saesneg). Thomas Dunne Books. ISBN 9780340909294. Cyrchwyd 2014-01-04.
- ↑ Kohlhöfer, Philipp (3 Tachwedd 2010). "Trying to Be German in South L.A." Der Spiegel (yn Saesneg). Cyrchwyd 17 Mai 2010.
I thought for a moment. I needed examples of internationally famous German stars. But all I could offer in the way of music, aside from the great bard Hasselhoff, was The Scorpions
- ↑ "David Hasselhoff sucht deutsche Verwandtschaft – Der US-Amerikaner David Hasselhoff sucht in der Nähe von Kassel nach seinen deutschen Wurzeln" (yn Saesneg). Klamm.de. Cyrchwyd 22 Mai 2011.
- ↑ von der Wieden, Bianca (25 Gorffennaf 2010). "SWR1 Leute überrascht David Hasselhoff mit Bremer Vorfahren" (yn German). Presseportal. Cyrchwyd 22 Rhagfyr 2010.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ Heller, Corinne. "OTRC: DAVID HASSELHOFF STARRING IN 'PETER PAN' IN UK, VISITS CHILDREN'S HOSPITAL BEFORE CHRISTMAS". ABC7.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-23. Cyrchwyd 23 Mehefin 2015.
- ↑ "Notable Alumni, California Institute of the Arts" (yn Saesneg). Calarts.edu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Ionawr 2008. Cyrchwyd 4 Awst 2010.
- ↑ 9.0 9.1 Silverman, Stephen M. (13 Ionawr 2006). "David Hasselhoff Files for Divorce". People. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-16. Cyrchwyd 3 Mai 2016.
- ↑ "The Birth of Taylor Hasselhoff" (yn Saesneg). CaliforniaBirthIndex.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Mawrth 2016. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2015. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "The Birth of Hayley Hasselhoff" (yn Saesneg). CaliforniaBirthIndex.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Mawrth 2016. Cyrchwyd 15 Ebrill 2014. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ 12.0 12.1 "Ex-Attorney Sues Pamela Bach". The Washington Post (yn Saesneg). Associated Press. Awst 24, 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mai 2016. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2012.
Bach replaced [attorney Debra A]. Opri with Mark Vincent Kaplan several days after losing custody of the couple's two teenage daughters.
Unknown parameter|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Hasselhoff 'violent' claims wife" (yn Saesneg). BBC News. 9 Mawrth 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Mawrth 2016. Cyrchwyd 3 Mai 2016. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Hinckley, David (2 Rhagfyr 2010). "The Hoff is no Knight Rider in A&E reality show". NY Daily News (yn Saesneg). Cyrchwyd 4 Rhagfyr 2017.
- ↑ "David Hasselhoff spotted in disguise at Wales rugby game". BBC News. Cyrchwyd 13 Tachwedd 2015.
- ↑ Kathryn Williams (24 Ebrull 2015). "David Hasselhoff's Welsh girlfriend Hayley Roberts on living and loving a legend". walesonline (yn Saesneg). Check date values in:
|date=
(help) - ↑ "Autumn Internationals: David Hasselhoff's advice for Wales". BBC Sport (yn Saesneg). Cyrchwyd 13 Tachwedd 2015.
- ↑ "David Hasselhoff, 65, reveals he's marrying Hayley Roberts, 37". Mail Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-07-17.
- ↑ "David Hasselhoff Details Upcoming Wedding to Hayley Roberts (Exclusive)". www.msn.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-07-17.
- ↑ "David Hasselhoff, 66, and Model Hayley Roberts, 38, Get Married in Italy!". www.msn.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-08-01.