Baltimore, Maryland

Dinas annibynnol yn nhalaith Maryland, Unol Daleithiau America, yw Baltimore. Dyma ddinas fwyaf talaith Maryland. Lleolir Baltimore yng nghanolbarth Maryland ar lan Afon Patapsco, sy'n llifo i Fae Chesapeake. Cyfeirir at Baltimore fel Baltimore City weithiau er mwyn gwahaniaethu rhyngddi a Swydd Baltimore, sef yr ardal o'i chwmpas. Wedi'i sefydlu yn 1729, mae Baltimore yn un o borthladdoedd mwyaf yr Unol Daleithiau.

Baltimore, Maryland
Mathdinas annibynnol Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlCecil Calvert, 2nd Baron Baltimore Edit this on Wikidata
Poblogaeth585,708 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1729 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethBrandon Scott Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCylchfa Amser y Dwyrain, UTC−05:00, UTC−04:00, America/Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolBaltimore metropolitan area Edit this on Wikidata
SirMaryland Edit this on Wikidata
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Arwynebedd238.411179 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr10 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Patapsco, Jones Falls, Chesapeake Bay Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBaltimore County, Anne Arundel County Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau39.2864°N 76.615°W Edit this on Wikidata
Cod post21201–21298 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholCyngor Dinas Baltimore Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Baltimore Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethBrandon Scott Edit this on Wikidata
Map

Yn 2008, roedd 636,919 o bobl yn byw yn Baltimore, ond mae gan Ardal Fetropolitaidd Baltimore boblogaeth o tua 2.7 miliwn, yr 20fed fwyaf yn UDA.

Enwir y ddinas ar ôl yr Arglwydd Baltimore o Iwerddon, prif sefydlwr Gwladfa Maryland. Cymerodd Baltimore ei hun ei deitl o enw lle ym mhlwyf Bornacoola, yn Swydd Leitrim a Swydd Longford, Iwerddon. Seisnigiad yw 'Baltimore' o'r enw lle Gwyddeleg Baile an Tí Mhóir, sy'n golygu "Tre'r Tŷ Mawr" (nid yr un lle yw hwn â Baltimore, Swydd Corc, sef Dún na Séad yn Wyddeleg.

Adeiladau a chofadeiladau golygu

  • Cofeb Washington
  • Neuadd Dinas
  • Tŵr Emerson Bromo-Seltzer

Enwogion golygu

Gefeillddinasoedd golygu

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Maryland. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.