David Hughes, Tredegar
Roedd y Parchedig David Hughes BA (21 Mehefin, 1813 – 3 Mehefin, 1872) yn weinidog gyda'r Annibynwyr ac yn awdur.[1]
David Hughes, Tredegar | |
---|---|
Ganwyd | 21 Mehefin 1813 Llanddeiniolen |
Bu farw | 3 Mehefin 1872 Tredegar |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, llenor |
Cefndir
golyguGanwyd Hughes ar fferm Cefn uchaf, Llanddeiniolen, yn fab i Hugh Hughes ac Anne ei wraig. Cafodd ei addysgu yn Athrofa'r Efengylwyr yn Hackney, Llundain a Phrifysgol Glasgow lle graddiodd BA ym 1841.[2]
Gyrfa
golyguBu Hughes yn cadw ysgol yn Llanddeiniolen ar y cyd a'i frawd hŷn Griffith. Yn ôl adroddiad yn y Geninen Yr oedd y ddau yn hynod dirion at fechgyn da, ond yn llym iawn yn erbyn rhai direidus, neu y neb a droseddai drwy siarad Cymraeg.[3]
Dechreuodd bregethu yng Nghapel Bethel, Llanddeiniolen pan oedd yn 19 mlwydd oed, tua 1832. Wedi gorffen ei astudiaethau yn Llundain a Glasgow cafodd ei ordeinio i weinidogaeth yr Annibynwyr yn Llan Sain Siôr ar 14 Medi 1841 gan ddod yn weinidog ar achosion ei enwad yn Llan Sain Siôr a Moelfre. Arhosodd yn Llan Sain Siôr hyd 1846 pan symudodd i Lanelwy. Yn ystod ei gyfnod yn Llanelwy bu'n olygydd ar gylchgrawn misol byrhoedlog o'r enw Y Beirniadur.[3]
Wedi blwyddyn y Llanelwy symudodd maes ei weinidogaeth i Gapel Great Jackson Street ym Manceinion. Ym 1847 derbyniodd cais gan Y Parch Dr Arthur Jones i'w gynorthwyo i gadw un o Ysgolion elusennol Dr Daniel Williams ym Mangor.[4]. Ni fu ganddo ofalaeth capel ym Mangor ond parhaodd i bregethu'n rheolaidd. Aeth yn ôl i fod yn weinidog ym mis Tachwedd 1855 pan dderbyniodd alwad i fod yn weinidog ar Gapel Saron, Tredegar. Parhaodd yn weinidog Saron hyd ei farwolaeth.[5]
Gyrfa lenyddol
golyguYn ystod ei gyfnod yn Llanelwy bu'n olygydd ar gylchgrawn misol byrhoedlog o'r enw Y Beirniadur.[3] Ysgrifennodd llawer i'r cyhoeddiadau misol Cymreig, yn enwedig i'r Dysgedydd.[6] Cyfrannodd nifer fawr o ysgrifau i'r Gwyddoniadur Cymreig. Cyhoeddodd dau lyfr: Geiriadur Ysgrythrol a Duwinyddol (1852) ac Elfenau Daearyddiaeth (1859). Bu hefyd yn olygydd ar ddiwygiad o eiriadur Thomas Edwards (Caerfallwch).[7] Cyfieithodd rhan o An Introduction to the Critical Study and Knowledge of the Holy Scriptures gan Thomas Hartwell Horne i'r Gymraeg fel Arweiniad at Efrydiaeth Feirniadol a Gwybodaeth Sanctaidd ym 1854.[8]
Teulu
golyguRoedd yn briod a merch o'r enw Jane, merch o Lanbadrig, Ynys Môn. Ganwyd eu mab hynaf Y Parch David Griffith Hughes ym 1858, sy'n awgrymu eu bod wedi priodi rhywbryd cyn hynny.[9]
Marwolaeth
golyguBu farw Hughes yn ei gartref yn Georgetown, Tredegar yn 58 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Cefn Golau.[10]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Jenkins, R. T., (1953). HUGHES, DAVID (1813 - 1872), gweinidog gyda'r Annibynwyr, ac awdur. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 28 Ion 2020
- ↑ "AT OLYGYDD Y DYDD - Y Dydd". William Hughes. 1917-03-09. Cyrchwyd 2020-01-28.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 CENINEN GWYL DEWI - Mawrth 1890, Y PARCH. D. HUGHES. B.A gan David Griffith, Dolgellau Adferwyd 28 Ion 2020
- ↑ Owen, R. G., (1953). JONES, ARTHUR (1776 - 1860), gweinidog gyda'r Annibynwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 28 Ion 2020
- ↑ "Hughes, David (1813–1872), Congregational minister and writer | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. Cyrchwyd 2020-01-28.
- ↑ "MARWOLAETH Y PARCH D HUGHES GC TREDEGAR - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1872-06-12. Cyrchwyd 2020-01-28.
- ↑ Lewis, H., (1953). EDWARDS, THOMAS (‘Caerfallwch’; 1779 - 1858), geiriadurwr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 28 Ion 2020
- ↑ "Hysbysebion - Yr Amserau". Michael James Whitty & William Ellis. 1854-01-11. Cyrchwyd 2020-01-28.
- ↑ Yr Archif Genedlaethol, Cyfrifiad 1861 Bedwellte – Tredegar, Ardal 29, RG9/4002; Ffolio: 76; Tudalen: 1
- ↑ "MARWOLAETH Y PARCH DAVID HUGHES BA TREDEGAR - Y Gwladgarwr". Abraham Mason. 1872-06-15. Cyrchwyd 2020-01-28.