David Hughes (Eos Iâl)

bardd a chyhoeddwr

Bardd a chyhoeddwr o Edeirnion oedd David Hughes a ddefnyddiai'r enw barddol Eos Iâl (1794? - 2 Mawrth 1862)[1]. Mae'n adnabyddus fel awdur y garol plygain Ar Gyfer Heddiw'r Bore.[2]

David Hughes
FfugenwEos Ial Edit this on Wikidata
Ganwyd1794 Edit this on Wikidata
Bryneglwys Edit this on Wikidata
Bu farw1862 Edit this on Wikidata
Unknown Edit this on Wikidata
Man preswylCynwyd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, cyhoeddwr Edit this on Wikidata

Y personGolygu

Fe'i ganed ym "Mrynllwynog", Bryneglwys ger Corwen, Sir Ddinbych a bu'n byw yng Nghynwyd, ym mhlwyf Llangar, ychydig filltiroedd i ffwrdd o 1824 hyd 1831. Priododd ddwywaith; y tro cyntaf gyda merch o Gynwyd a gladdwyd yn Eglwys Llangar. Cafodd wyth o blant: "Wyth o blant eitha blin" canodd unwaith mewn cywydd. Yn ei ieuenctid, bu'n hoff iawn o'r ddiod, ond daeth dan ddylanwad y diwygiad dirwestol a chyn hir roedd yn un o'u harweinwyr ac roedd yn aelod selog o'r Oddfellows, Cymdeithas i ddynion a oedd yn cyfarfod yng Nghynwyd.

Yn ôl Janes Mary Jones o'r "Hendre", Cynwyd, roedd yn ŵr lled dal, o bryd tywyll a golwg penderfynol arno. Cododd dŷ iddo'i hun a galwodd ef yn "Llety'r Siswrn", gan mai ei waith oedd crudd; tynnwyd y tŷ i lawr yn 1972. Dywed Janes iddo ddyfeisio peiriant argraffu. Symudodd o Gynwyd i Morfydd, rhan o ardal Carrog.[3]

Bu hefyd yn byw yn "Nhŷ yr Ardd", Pentre - sef pentrefan rhwng Bryneglwys a Charog a bu'n aelod yng nghapel y Bedyddwyr yng Nghynwyd ac yna yng Nghapel y Bedyddwyr, 'Llansanffraid' (Carrog heddiw), lle'i claddwyd. Bu farw'n 67 oed.

BarddGolygu

Yn 1824 enillodd mewn eisteddfod yng Nghorwen a hyd at 1835 bu'n gystadleuwr brwd. Yn 1839 cyhoeddodd gyfrol o gerddi caeth a rhydd, a fu'n hynod o boblogaidd. Yn ôl Bob Owen, Croesor, nid yw ei gerdd i werth parhaol, fodd bynnag.[4] Roedd y rhan fwyaf o'i gerddi'n beirniadu pydredd cymdeithasol a moesol ei oes.[5]

Argraffu a chyhoeddiGolygu

Yn 1837 adeiladodd gwasg argraffu bren yn ei gartref, cafodd afael mewn hen deip o eiddo Thomas Thomas, argraffydd o Gaer, a chyda'r rhain argraffodd ychydig o lyfrau a nifer o garolau a baledi. Yn Nrych y Cribddeiliwr soniai am ei wasg bren ac iddo ef a'i wraig fynd i Lerpwl i brynnu 'llythrennau o swp o waste, a bu o a'i wraig yn didoli caps etc am ddyddiau![6]

CyhoeddiaidauGolygu

  • Ffrwyth y Profiad neu Waedd yn Erbyn Meddwdod (pamffled)
  • Araith Beelsebub Tywysog y Fagddu Fawr (pamffled)
  • Udgorn y Jubili a'r Gynadledd (32 a 24 tud. heddiw yn Llyfrgell Prifysgol Bangor)

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Ceir dyddiad ei farwolaeth ym Mlodau'r Gân (1862) gan Hugh Derfel Hughes.
  2. O Ferwyn i Fynyllod gan Trefor O. Jones (Cymdeithas Lyfrau Meirion; 1975); t. 117.
  3. O Ferwyn i Fynyllod gan Trefor O. Jones (Cymdeithas Lyfrau Meirion; 1975); t. 115-6.
  4. Y Bywgraffiadur Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Robert (Bob) Owen, O.B.E., M.A., (1885-1962), Croesor; adalwyd Rhagfyr 2016.
  5. Papurau digidol y Llyfrgell Genedlaethol; t. 167 adalwyd Rhagfyr 2016.
  6. Papurau digidol y Llyfrgell Genedlaethol; t. 168 adalwyd Rhagfyr 2016.