William Jones (Ehedydd Iâl)

ffermwr a bardd

Bardd o'r 19g oedd William Jones (15 Awst 181515 Chwefror 1899), a gyhoeddodd ei waith wrth yr enw barddol Ehedydd Iâl. Fe'i ganed yng Nghefn Deulin, Derwen, ger Rhuthun, Sir Ddinbych.

William Jones
Ganwyd15 Awst 1815 Edit this on Wikidata
Derwen Edit this on Wikidata
Bu farw15 Chwefror 1899 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, ffermwr Edit this on Wikidata
Tafarn y Gath, gyda chofeb i'r emynydd, ger Llanarmon-yn-Iâl, Sir Ddinbych. Yma y treuliodd ei flynyddoedd olaf.
Y gofeb - llun manwl.
Carreg fedd y bardd yn Llandegla.

Bywyd teuluolGolygu

Fe'i ganed yng Nghefn Deulin, Derwen (rhwng Corwen a Rhuthun) a chafodd ei fedyddio ar 6 Awst 1815, yn blentyn i William a Catherine Jones. Ni chafodd ddiwrnod o ysgol, ac yn 9 oed aeth i weithio fel gwas i'r Llwyn Isaf, Derwen. Oddi yno aeth i weithio i Blas-yn-Nerwen, lle bu John Davies, ei feistr, yn ei annog i ddarllen, yn enwedig barddoniaeth. Yr Hendre, Gwyddelwern, oedd ei fferm nesaf am tua saith mlynedd, lle darllenodd Gramadeg Bardd Nantglyn, ymhlith llyfrau eraill.[1]

Bu'n briod ddwy waith: i Alice Evans (o Lerpwl) yn gyntaf ac yna i ferch o'r enw Hannah. Rhyngddynt, cafwyd 17 o blant. Mae ei fedd i'w gweld ym mynwent Llandegla. Yn 1906, claddwyd ei ail wraig yn yr un bedd. Ni wyddom lle claddwyd Alice, ei wraig gyntaf. Daeth chydig yn ol adref - i Ryd y Marchogion, lle cyfansoddodd ei gerdd enwocaf Y nefoedd uwch fy mhen (Er nad yw nghnawd ond gwellt...).

Bu'n byw yn Nhafarn-y-Gath (llun ar y dde) rhwng 1850 a'i farwolaeth yn 1899, gan weithio am y pymtheg mlynedd cyntaf fel tafarnwr anfoddog, cyn troi'r dafarn yn fferm.

GyrfaGolygu

Bu'n felinydd a ffermwr wrth ei alwedigaeth. Daeth yn ffigwr adnabyddus yn yr eisteddfodau. Casglwyd ei gerddi ac emynau a'u cyhoeddi flwyddyn cyn ei farwolaeth yn y gyfrol Blodau Iâl (Wedi Eu Casglu a'u Trefnu gan y Parch. John Felix).

Ni chafodd ysgol, namyn ysgol y werin. Bu'n gweithio ar y ffermydd canlynol:

  • Llwyn Isaf - yn 9 oed
  • Plas-yn-Nerwen - am tua 7 mlynedd gyda John Davies, bardd lleol
  • Yr Hendre, Gwyddelwern - lle cafodd gopi o ramadeg Bardd Nantglyn; bu yma am saith neu wyth mlynedd
  • Rhyd-y-Marchogion, Llanelidan - at Mrs. Davies lle cyfansoddodd yr emyn enwog, 'Er nad yw 'nghnawd ond gwellt'.
  • Green Parc, Llandegla
  • Melin y Mwynglawdd - am dair blynedd
  • Tafarn-y-Gath - ryw filltir o bentref Llandegla. Aeth yno tua 1850 fel tafarnwr anfoddog a ffermwr am tuag wyth mlynedd. Yma y bu farw ar 15 Chwefror 1899.

Yr emyn 'Er nad yw 'nghnawd ond gwellt'Golygu

Y nefoedd uwch fy mhen
A dduodd fel y nos,
Heb haul na lleuad wen
Nac unrhyw seren dlos
A llym gyfiawnder oddi fry
Yn saethu mellt o'r cwmwl du.

Cydwybod euog oedd
Yn rhuo dan fy mron
Mi gofia'i chwerw floedd
Tra ar y ddaear hon -
Ac yn fy ing ymdrechais ffoi,
Heb wybod am un lle i droi.

Mi drois at ddrws y Ddeddf
Gan ddisgwyl cael rhyddhad;
Gofynnais iddi'n lleddf
Roi imi esmwythâd:
'Ffo am dy einioes', ebe hi,
'At Fab y Dyn i Galfari!'

Gan ffoi, ymdrechais ffoi
Yn sŵn taranau ffroch,
Tra'r mellt yn chwyrn gyffroi
O'm hôl fel byddin goch;
Cyrhaeddais ben Calfaria fryn,
Ac yno gwelais Iesu gwyn.

Er nad yw 'nghnawd ond gwellt
A'm hesgyrn ddim ond clai,
Mi ganaf yn y mellt
Maddeuodd Duw fy mai:
Mae craig yr oesoedd dan fy nhraed
A'r mellt yn diffodd yn y gwaed.

EnglynGolygu

Dyma esiampl o'i waith, wedi iddo gael par o sbectol. Ar y fordd o'r siop gofynnodd ei ffrind iddo a oedd yn gweld rhywfaint yn well. Ei ateb oedd:

Gelaf uwchlaw disgwyliad - y mynydd

A'r manion heb eithriad,
A chŵn lu, holl chwain y wlad,
A'r llau - yng ngolau'r lleuad!

(Cofnodwyd gan Gwilym R. Jones.)

LlyfryddiaethGolygu

Gwaith y barddGolygu

  • Blodau Iâl, golygwyd gan John Felix (1898)

Cefndir ac erthyglauGolygu

  • 'Adgofion Fy Mywyd' yn Blodau Iâl
  • Evan Isaac, Prif Emynwyr Cymru (1925)
  • 'Ehedydd Iâl trwy Lygaid Plentyn', gan E. Tegla Davies, yn Cymru (O.M.E.), 1918.
  • Bye–Gones, 1899, t. 45.

Dolenni allanolGolygu


CyfeiriadauGolygu

  1. Y Bedol; Cyfrol 44 Rhif 2; tud 18. Erthygl gan A. J. E.