David Lewis Prosser

archesgob

David Lewis Prosser (10 Mehefin 1868 - 28 Chwefror 1950) oedd trydydd Archesgob Cymru. Ganed ef yn Llangynnor, Sir Gaerfyrddin, yn fab i David ac Elizabeth Prosser. Addysgwyd ef yng Ngholeg Llanymddyfri a Coleg Keble, Rhydychen. Ordeiniwyd ef yn 1892, a daeth yn gurad yn Aberystwyth. Yn 1896, daeth yn gurad yn Abertawe, yna yn 1909 yn ficer Doc Penfro. Apwyntiwyd ef yn Archddiacon Tyddewi yn 1920, yna yn 1927 cysegrwyd ef yn Esgob Tyddewi.

David Lewis Prosser
Ganwyd10 Mehefin 1868, 1868 Edit this on Wikidata
Bu farw28 Chwefror 1950, 1950 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad Edit this on Wikidata
Swyddesgob Edit this on Wikidata

Yn 1944, etholwyd ef fel trydydd Archesgob Cymru. Ymddeolodd yn 1949.

Rhagflaenydd:
Charles Alfred Howell Green
Archesgob Cymru
19441949
Olynydd:
John Morgan


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.