John Morgan (archesgob)
Roedd John Morgan (6 Mehefin 1886 – 26 Mehefin 1957) yn Esgob Llandaf o 1939 hyd 1957 ac yn Archesgob Cymru o 1949 hyd 1957.
John Morgan | |
---|---|
Ganwyd | 6 Mehefin 1886 Llandudno |
Bu farw | 26 Mehefin 1957 Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad |
Swydd | Bishop of Swansea and Brecon, esgob |
Ganed ef yn Llandudno, yn fab i John Morgan, yn ddiweddarach yn Archddiacon Bangor. Addysgwyd ef yn ysgol y gadeirlan, Llandaf, yng Ngholeg Llanymddyfri, Coleg Hertford, Rhydychen a Choleg Cuddesdon. Bu'n gurad Llanaber ac Abermaw o 1910 hyd 1912, yna'n gaplan i Esgob Truro. Rhwng 1916-19 roedd yn gaplan i'r lluoedd arfog. Daeth yn ficer Llanelwy yn 1917, yna'n offeiriad yn gyfrifol am blwyf Llanbeblig a Chaernarfon, ac yn 1920 yn ficer y plwyf. Tra'r oedd yno bu'n Ddeon Gwledig Arfon o 1928 hyd 1931. Yn 1931 daeth yn Ganon Eglwys Gadeiriol Bangor, ac yn 1933 yn rheithor Llandudno. Y flwyddyn wedyn etholwyd ef yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu, cyn symud i fod yn Esgob Llandaf yn 1939. Etholwyd ef yn Archesgob Cymru yn 1949. Bu farw yn Llundain, a chladdwyd ef yn Llanelwy.
Rhagflaenydd: David Lewis Prosser |
Archesgob Cymru 1949 – 1957 |
Olynydd: Edwin Morris |