David Richard Jones

bardd

Bardd Cymraeg oedd David Richard Jones (24 Hydref 18321916), a anwyd ym mhlwyf Dolwyddelan (Sir Conwy).[1]

David Richard Jones
Ganwyd24 Hydref 1832 Edit this on Wikidata
Bu farw1916 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Ymfudodd teulu David Richard Jones i'r Unol Daleithiau yn 1845 a chafodd yrfa fel pensaer. Roedd yn ffigwr amlwg a dadleuol ym mywyd diwyllianol yr Americanwyr Cymreig; enillodd ei gerddi ymateb chwyrn gan rai oherwydd dylanwad Darwiniaeth arnynt. Ond roedd ei edmygwyr yn cynnwys y bardd T. Gwynn Jones.

Gwaith

golygu

Cyfrannodd nifer o gerddi i'r cyfnodolion Cymraeg yn America, yn enwedig Y Drych (Utica, Efrog Newydd). Cyhoeddodd gasgliad o'i gerddi hefyd, sef:

  • Yr Ymchwil am y Goleuni (1910)

Gweler hefyd

golygu

Ffynnonellau

golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.