Roedd David Soul (ganwyd David Richard Solberg ; 28 Awst 19434 Ionawr 2024) yn ganwr ac actor o'r Unol Daleithiau. Roedd yn fwyaf adnabyddus am bortreadu’r Ditectif Kenneth “Hutch” Hutchinson yn y gyfres deledu Americanaidd Starsky & Hutch o 1975 i 1979.

David Soul
FfugenwDavid Soul Edit this on Wikidata
GanwydDavid Richard Solberg Edit this on Wikidata
28 Awst 1943 Edit this on Wikidata
Chicago Edit this on Wikidata
Bu farw4 Ionawr 2024 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Alma mater
  • Prifysgol Minnesota
  • Washington High School
  • Prifysgol Augustana Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr, actor teledu, actor ffilm, cyfarwyddwr teledu, actor llwyfan, canwr-gyfansoddwr, cyfarwyddwr, actor Edit this on Wikidata
Adnabyddus amStarsky & Hutch Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd Edit this on Wikidata
Cartre'r teuluNorwy Edit this on Wikidata
PriodUnknown, Karen Carlson, Patti Carnel, Julia Nickson-Soul, Unknown Edit this on Wikidata
PartnerAlexa Hamilton Edit this on Wikidata
PlantChina Soul Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.davidsoul.com Edit this on Wikidata

Roedd ei rolau nodedig eraill yn cynnwys Joshua yn y gyfres Here Come the Brides o 1968 i 1970 a'r prif ran yn y ffilm deledu 1979 Salem's Lot. Rôl ffilm nodedig arall oedd John Davis yn y ffilm Magnum Force (1973) gyda Clint Eastwood.

Cafodd lwyddiant hefyd fel canwr, gan gael sengl rhif un ar yr UD Billboard Hot 100 gyda "Don't Give Up on Us". Cyrhaeddodd y sengl rhif un yn y DU a Chanada hefyd. Cafodd Soul sengl rhif un ychwanegol ar Siart Senglau'r DU gyda "Silver Lady" (1977).[1] Yn y 1990au symudodd ef i'r Deyrnas Unedig a chael llwyddiant o'r newydd ar lwyfan y West End. Gwnaeth ymddangosiadau cameo hefyd mewn sioeau teledu Prydeinig, gan gynnwys Little Britain, Holby City a Lewis.[2][3]

Cafodd Soul ei eni yn Chicago, Illinois, Unol Daleithiau America,[4] ac roedd o dras Norwyaidd. Roedd ei fam, June Joanne (Nelson), yn athrawes ac roedd ei dad, Dr. Richard W. Solberg, yn weinidog Lutheraidd ac yn ysgolhaig.[5][6] Yr oedd dau daid Soul yn efengylwyr.[7] Symudodd y teulu yn aml yn ystod ieuenctid Soul a daeth yn rhugl yn Almaeneg a Sbaeneg.[5] Aeth ei frawd Daniel yn weinidog Lutheraidd.[5]

Priododd bum gwaith. Priododd ei bedwerydd gwraig, yr actores Julia Nickson ym 1987. Roedd gan y cwpl ferch, China Soul, sy'n gantores/cyfansoddwr caneuon. Priododd ei bumed gwraig, Helen Snell yn 2010 a symudodd i fyw yn Llundain.[8]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Roberts, David (2006). British Hit Singles & Albums (arg. 19th). London: Guinness World Records Limited. tt. 344–5. ISBN 1-904994-10-5.
  2. Williams, Zoe (2024-01-05). "David Soul: the British-American star who made crime-fighting cool". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 6 Ionawr 2024.
  3. Hayward, Anthony (2024-01-05). "David Soul obituary". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 6 Ionawr 2024.
  4. Larkin, Colin, gol. (1992). The Guinness Encyclopedia of Popular Music (yn Saesneg) (arg. First). Guinness Publishing. t. 2328. ISBN 0-85112-939-0.
  5. 5.0 5.1 5.2 "David Soul Biography (1943-)". Filmreference.com. 28 Awst 1943. Cyrchwyd 16 Ionawr 2012.
  6. "Lutheran Pastor, Advisor, Historian, Educator, Richard Solberg, Dies". Wfn.org.
  7. "The Souls' Dark Night". People.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Mawrth 2016. Cyrchwyd 11 Hydref 2021.
  8. "Fame Magazine Medi 2010". Famemagazine.co. uk. 10 Medi 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-10-04. Cyrchwyd 30 Hydref 2011.