David Vaughan
Cyn bêl-droediwr Cymreig yw David Owen Vaughan (ganwyd 18 Chwefror 1983) a oedd yn chwaraewr canol cae. Fe enillodd 39 o gapiau gyda thîm pêl-droed cenedlaethol Cymru.
Vaughan yn chwarae i Blackpool, 2010–11 | |||
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Enw llawn | David Owen Vaughan | ||
Dyddiad geni | 18 Chwefror 1983 | ||
Man geni | Abergele, Cymru | ||
Safle | Canol Cae | ||
Y Clwb | |||
Clwb presennol | Nottingham Forest | ||
Rhif | 24 | ||
Gyrfa Ieuenctid | |||
1997–2000 | Crewe Alexandra | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
2000–2007 | Crewe Alexandra | 185 | (18) |
2007–2008 | Real Sociedad | 9 | (1) |
2008–2011 | Blackpool | 109 | (4) |
2011–2014 | Sunderland | 49 | (3) |
2013–2014 | → Nottingham Forest (loan) | 9 | (0) |
2014– | Nottingham Forest | 5 | (0) |
Tîm Cenedlaethol‡ | |||
2002 | Cymru dan 19 | 2 | (1) |
2002–2005 | Cymru dan 21 | 8 | (3) |
2003– | Cymru | 39 | (1) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 8 Rhagfyr 2014. † Ymddangosiadau (Goliau). |
Fe'i anwyd yn Abergele, ym mwrdeistref sirol Conwy ar 18 Chwefror 1983 a chychwynodd chwarae i Crewe Alexandra, yn gyntaf fel amddiffynnwr ac yna fel chwaraewr canol cae.
Cyfartal (0-0) oedd ei gêm gyntaf, a hynny ar 19 Awst 2000; dyma'r unig gêm a chwaraeodd y tymor hynny. Ymddangosodd 16 gwaith y tymor dilynol (2001–02) a sgoriodd ei gôl gyntaf dros ei glwb ar 26 Ionawr 2002 pan enillon nhw 4-2 yn erbyn Rotherham United ym 4ydd rownd Cwpan yr FA. Gorffennodd Crewe y tymor hwnnw yn yr 22ain safle.