Abergele

tref a chymuned yn Abergele

Tref a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Abergele.[1][2] Mae'n dref farchnad, wledig ac yn ganolfan siopa i'r cylch, gyda gorsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Saif ar lannau Afon Gele ar priffordd yr A55 rhwng Bae Colwyn a'r Rhyl. I'r dwyrain o'r dref ceir gwlybdir eang Morfa Rhuddlan a Rhuddlan tua phedair milltir i ffwrdd. Fe'i lleolwyd yn yr hen Sir Ddinbych cynt. Mae Caerdydd o ddeutu 202 km i ffwrdd o Abergele ac mae Llundain o ddeutu 307 km. Y ddinas agosaf ydy Llanelwy sy'n tua 11 km i ffwrdd.

Abergele
The 1868 Rail Disaster Memorial - geograph.org.uk - 377402.jpg
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.28°N 3.58°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000105 Edit this on Wikidata
Cod OSSH945775 Edit this on Wikidata
Cod postLL22 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Jones (Ceidwadwr)
Traeth a phrom Abergele, gyda Chastell Gwrych yngh nghanol y llun
Traeth Abergele, gyda'r Gogarth yn y pellter

HanesGolygu

Tref gymharol fodern yw Abergele a dyfodd o gwmpas yr hen eglwys. Tua 1400, yr oedd Abergele'n ran o Arglwyddiaeth Dinbych. Yr oedd ganddi dau grŵp o boblogaethau, sef y Cymry cynhenid a oedd yn ffermio'r tir yn ôl hen draddodiadau, a phobl trefol a gyflwynwyd i ddatblygu masnach a gwthio dylanwad Seisnig. Yr oedd y pobl trefol yn berchen ar diroedd bwrdais. Canolfan canol oesol y dref oedd y Pîl, a oedd yn debyg i ryw fath o gaer. Yn 1698, cyfeiriodd Edward Llwyd at y lle fel "Kastell Pen y Pil". Gwelir bod llys cyfiawnder wedi ei gynnal yn fan hyn hefyd, yn ôl cofnodion refeniw. Ceir cofnod cynharaf y pîl o 1334. Bellach dim ond sgwâr o dir uwch sydd i'w weld yn y fan.

Bu damwain difrifol ar y rheilffordd yn 1868 pan darwyd yr Irish Mail gan dri wagen petrol oedd wedi rhedeg yn rhydd i lawr y trac; collodd 33 o bobl eu bywydau ac mae eu beddau i'w gweld ym mynwent yr eglwys heddiw.

Lladdwyd dau aelod o'r grŵp cudd Mudiad Amddiffyn Cymru, sef William Alwyn Jones a George Francis Taylor, yn Abergele pan daniodd y defnyddiau ffrwydrol yr oeddynt yn eu cludo ar 1 Gorffennaf 1969, diwrnod arwisgiad Tywysog Siarl. Gelwir y ddau'n Ferthyron Abergele ac mae eu beddau'n gyrchfan i Genedlaetholwyr a chynhelir seremoni flynyddol yno.

 
Y "Bee Market" ar y Stryd fawr; llun gan John Thomas (1838-1905) a dynnwyd oddeutu 1875. (Delwedd o Gasgliad John Thomas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

I'r de ddwyrain o'r dref ceir tŵr ar ben Bryn Tŵr. Enw arall yw Gallt y Felin Wynt. Credir ei fod wedi ei hadeiladu fel rhan o gyfres o dyrrau, gyda'r lleill yn Mynydd y Garreg (Chwitffordd), tŵr yr eglwys yn Llandrillo yn Rhos, a Deganwy. Mae'n bosib bod y cyfres wedi ymestyn ymhellach i Ynys Môn, Sir Gaernarfon ac i lawr i Borthmadog. Credir y'i hadeiladwyd tua 1600-1610 fel amddiffyniad yn erbyn môrladron. Mae'n debyg yr oeddent yn cael ei defnyddio i roi arwydd i bobl ar y tir o unrhyw ymosodiad o'r môr. Nid oes gywbodaeth sut yr oedd yr arwydd yn cael ei roi, ond mae'n debyg gyda thân[3]


Yr eglwysGolygu

Codwyd Eglwys Fihangel Sant yn y 15g ar safle eglwys hŷn; cafodd ei hadnewyddu yn 1879. Mae'r bedyddfaen yn dwyn y dyddiad 1663. Yn rhan o'r llawr ger yr allor, mae hen garreg â chroes arni sy'n dyddio o'r 13g; credir ei bod yn garreg fedd abad.

Adeiladwyd capel i'r Mormoniaid yn 1849. Bellach mae'r adeilad yn rhan o dafarn Y Tarw.

Bad achubGolygu

Yn 1867, bu llongddrylliad Guardian Angel oddi ar arfordir Abergele. Yr oedd hi ar daith o Lerpwl i Efrog Newydd a dim ond chwech o'r 14 a oroesodd. Yn sgil hyn, penderfynodd Gorsaf Bad Achub y Rhyl wneud cais am ail gwch o dan ei gofalaeth a'i leoli yn Abergele, tua chyfeiriad y gwynt. Derbyniodd Sefydliad Brenhinol y Badau Achub y cais a anfonwyd bad achub Henry Nixon No. 2 i'r orsaf. Yr oedd y cwch yn rhodd gan Henry Nixon o Fanceinion. Yr oedd y cwch 32 troedfedd o hyd, 7 troedfedd o led ac yn pwyso dwy dunnell, ac yn medru dal hyd at 13 o bobl. Dim ond dwywaith y cafodd y cwch ei alw i wasanaethu mewn un flwyddyn - 1868/1869. Penderfynwyd symud y cwch i orsaf newydd yn Llanddulas.


Olion CynhanesGolygu

Ceir dwy ogof paleolithig nepell o'r dref: Ogof Bontnewydd (Cyfeirnod OS: SJ01527102) a Chefn Ogo. Mae ogof Pontnewydd yn un o'r ddwy ogof bwysicaf yng ngwledydd Prydain o ran olion dyn a dyn Neanderthal; darganfuwyd dant dynol yma sydd oddeutu 220,000 o flynyddoedd oed. Cafwyd hyd i lawfwyeill Neanderthalaidd hefyd, ac esgyrn anifeiliaid gydag olion cigydda arnynt. 750 metr i'r de-ddwyrain, ar yr un ochr i'r afon mae Ogof Cefnmeiriadog neu Cefn Ogo gyda cheg yr ogof mor anferthol fel y'i galwyd unwaith gan William Davis yn ei lyfr 'hand-book for the Vale of Clwyd' fel one of the most spacious and magnificent caverns in Europe. Mae ceg yr ogof yn 50 troedfedd o uchter, gyda stalactites yn diferu o'r nenfwd mewnol.

Mae Parc y Meirch gerllaw.

Yn yr ardal, ceir tair fryngaer hynafol. I'r de-orllewinol o'r dref safai Bryngaer Dinorben a ddinistriwyd yn llwyr gan y chwarel gyfagos ond ceir tystiolaeth fod pobl wedi byw yno'n ddi-baid o ddiwedd yr Oes Efydd hyd at y 7ed ganrif.[4] Yn syth i'r de saif Castell Cawr sy'n dyddio o Oes yr Haearn. Tua chyfeiriad Llanddulas a Rhyd-y-foel, ceir olion Pen y Corddyn Mawr, caer arall o Oes yr Haearn.

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Abergele (pob oed) (10,577)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Abergele) (2,014)
  
19.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Abergele) (4921)
  
46.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Abergele) (2,572)
  
51.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Atyniadau eraillGolygu

  • Castell Gawr - bryn coediog 1 milltir i'r de, safle camp Rufeinig
  • Castell Gwrych - castell Gothig o'r 19g
  • Moelfre Isaf - bryn deniadol, 2 milltir i'r de, gyda golygfeydd braf
  • Pensarn - pentref glan môr a chanolfan twristiaeth, 1 milltir i'r gogledd o'r dref

EisteddfodGolygu

Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abergele ym 1995. Gweler:

Tywydd a hinsawddGolygu

Fe wnaeth yr amgylchiadau a arweinodd at lifogydd Môr Hafren yn 1607 hefyd gael effaith ar Abergele a gogledd Cymru. Mewn llythyr gan John Lloyd at ei gefnder Syr John Salusbury o Leweni, maent yn trefnu i gyfarfod ac arolygu'r niwed i'r clawdd môr o Abergele hyd at y foryd yn y Rhyl, a'r angen i atal rhag fwy o niwed.[8]

EnwogionGolygu

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2021
  3. Lloyd, George (1964). "Beacon Watch Towers of the North Wales Coast". Archaeologica Cambrensis 113: 150-158.
  4. Gwyddoniadur Cymru, gol. John Davies (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), tud. 7
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. "Floods at Abergele". Trafodion (Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych) 2: 154-155. 1953.

Dolenni allanolGolygu