Deddf Cymru a Berwick 1746
Deddf a basiwyd yn Senedd Prydain Fawr yn 1746 oedd Deddf Cymru a Berwick 1746 (Saesneg: Wales and Berwick Act 1746) (20 Geo. II, c. 42). Yn ôl y ddeddf yma, byddai unrhyw ddeddfau fyddai'n cael eu pasio ar gyfer Lloegr o hynny ymlaen hefyd yn weithredol yng Nghymru a Berwick-upon-Tweed, os nad oedd y ddeddf ei hun yn dweud yn wahanol.
Enghraifft o'r canlynol | Act of the Parliament of Great Britain |
---|---|
Dyddiad cyhoeddi | 1746 |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Daethpwyd a'r ddeddf i ben o ran Cymru dan Ddeddf yr iaith Gymraeg 1967. Yn ôl Deddf Llywodraeth Leol 1972, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 1974, byddai "Lloegr" o hynny ymlaen yn cynnwys y 46 sir oedd yn cael eu sefydlu gan y ddeddf hon (yn cynnwys Berwick), ac y byddai "Cymru" yn cynnwys yr wyth sir Gymreig oedd yn cael eu sefydlu dan y ddeddf.