Deddf Diddymu'r Fasnach Gaethweision 1807

Deddf a basiwyd gan Senedd y Deyrnas Unedig i wahardd y fasnach gaethweision yn yr Ymerodraeth Brydeinig oedd Deddf Diddymu'r Fasnach Gaethweision 1807.

Deddf Diddymu'r Fasnach Gaethweision 1807
Enghraifft o'r canlynolDeddf Gyhoeddus Gyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1807 Edit this on Wikidata
Cyfres47 Geo 3 session 1 Edit this on Wikidata
Prif bwncmasnachu caethweision Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
GwladwriaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata

Cychwynnodd yr ymgyrch seneddol dros ddeddf i ddiddymu caethwasiaeth ym 1789, dan arweiniad William Wilberforce. Ceisiodd ysgogi'r broses ddeddfwriaethol sawl tro i wahardd masnachu caethweision, ond gwrthwynebwyd hynny gan drwch yr aelodau seneddol, nifer ohonynt yn fasnachwyr, perchenogion, neu fel arall yn elwa ar y drefn. Yn sgil undeb Prydain Fawr ac Iwerddon ym 1801, daeth 100 o Wyddelod i eistedd ar feinciau'r Senedd, y mwyafrif ohonynt yn ddiddymwyr, gan felly troi'r fantol ar gyfer pleidlais arall. Agwedd arall a berswadiodd mwy o Aelodau Seneddol i gefnogi diddymiaeth oedd Rhyfeloedd Napoleon: dibynnodd nifer fawr o'r llongau a drosglwyddodd caethweision i drefedigaethau Ffrainc ar griwiau a phorthladdoedd Prydain, ac felly roedd rhwystro'r fasnach yn fodd amlwg i amharu ar fuddiannau economaidd y Ffrancod.[1]

Yn Ionawr 1806, penodwyd William Grenville, Barwn 1af Grenville, yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi marwolaeth William Pitt yr Ieuangaf. Diddymwr oedd Grenville, ac aeth ei lywodraeth ati i gyflwyno mesur rhyfel i atal deiliaid Prydeinig rhag cludo caethweision i diriogaethau gwlad arall. Lluniwyd y mesur gan James Stephen, cyfreithiwr y môr a oedd yn briod i chwaer Wilberforce. Derbyniodd Deddf y Fasnach Gaethweision Dramor gydsyniad brenhinol ar 23 Mai 1806, a daeth i rym ar 1 Ionawr 1807. Llwyddodd y ddeddf honno i gyfyngu ar fasnach gaethweision yr Iwerydd yn sylweddol, o bosib gymaint â 75%. Ar 2 Ionawr 1807, cyflwynodd Grenville Fesur Diddymu'r Fasnach Gaethweision yn Nhŷ'r Arglwyddi. Byddai'r mesur yn anghyfreithloni'r fasnach gaethweision ar draws yr Ymerodraeth Brydeinig, ac yn gwahardd llongau Prydeinig rhag cludo caethweision. Derbyniodd gydsyniad brenhinol ar 25 Mawrth, a daeth y ddeddf i rym ar 1 Mai 1807.[1]

Ceisiodd nifer o berchenogion llongau anwybyddu'r ddeddf newydd. Ffurfiwyd Sgwadron Gorllewin Affrica gan y Llynges Frenhinol i orfodi'r gyfraith ar y môr. Parhaodd caethwasiaeth ei hun yn gyfreithlon yn yr Ymerodraeth Brydeinig nes Deddf Diddymu Caethwasiaeth 1833.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Kenneth J. Panton, Historical Dictionary of the British Empire (Lanham, Maryland: Rowman & Littlefield, 2015), tt. 18–19.