Prif Weinidog y Deyrnas Unedig

pennaeth llywodraeth y Deyrnas Unedig

Pennaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw Prif Weinidog y Deyrnas Unedig. Mae'n bennaeth Llywodraeth Ei Fawrhydi a Chabinet y Deyrnas Unedig. Y Prif Weinidog cyfredol yw Keir Starmer, a apwyntiwyd gan Frenin y DU. Cartref swyddogol y Prif weinidog yw 10 Stryd Downing, Llundain a'r cartref gwledig yw Chequers. Gyda Gweinidogion y Cabinet mae'n atebol i'r Llywodraeth, i Goron Lloegr, i'w blaid ei hun ac yn y pendraw i'w bobl.

Prif Weinidog y Deyrnas Unedig
Enghraifft o:swydd gyhoeddus Edit this on Wikidata
Mathprif weinidog, Great Officer of State Edit this on Wikidata
Label brodorolPrime Minister of the United Kingdom Edit this on Wikidata
Rhan oCabinet y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu4 Ebrill 1721 Edit this on Wikidata
Deiliad presennolKeir Starmer Edit this on Wikidata
Deiliaid a'u cyfnodau 
  • Keir Starmer (5 Gorffennaf 2024),[1]
  •  
  • Rishi Sunak (25 Hydref 2022 – 5 Gorffennaf 2024),[2]
  •  
  • Liz Truss (6 Medi 2022 – 25 Hydref 2022),[3]
  •  
  • Boris Johnson (24 Gorffennaf 2019 – 5 Medi 2022),[4]
  •  
  • Theresa May (13 Gorffennaf 2016 – 24 Gorffennaf 2019),[4]
  •  
  • David Cameron (11 Mai 2010 – 13 Gorffennaf 2016),[4]
  •  
  • Gordon Brown (27 Mehefin 2007 – 11 Mai 2010),[4]
  •  
  • Tony Blair (2 Mai 1997 – 27 Mehefin 2007),[4]
  •  
  • John Major (28 Tachwedd 1990 – 2 Mai 1997),[4]
  •  
  • Margaret Thatcher (4 Mai 1979 – 28 Tachwedd 1990),[4]
  •  
  • James Callaghan (5 Ebrill 1976 – 4 Mai 1979),[4]
  •  
  • Harold Wilson (4 Mawrth 1974 – 5 Ebrill 1976),[4]
  •  
  • Edward Heath (19 Mehefin 1970 – 4 Mawrth 1974),[4]
  •  
  • Harold Wilson (16 Hydref 1964 – 19 Mehefin 1970),[4]
  •  
  • Alec Douglas-Home (19 Hydref 1963 – 16 Hydref 1964),[4]
  •  
  • Harold Macmillan (10 Ionawr 1957 – 18 Hydref 1963),[4]
  •  
  • Anthony Eden (6 Ebrill 1955 – 9 Ionawr 1957),[4]
  •  
  • Winston Churchill (26 Hydref 1951 – 5 Ebrill 1955),[4]
  •  
  • Clement Attlee (26 Gorffennaf 1945 – 26 Hydref 1951),[4]
  •  
  • Winston Churchill (10 Mai 1940 – 26 Gorffennaf 1945),[4]
  •  
  • Neville Chamberlain (28 Mai 1937 – 10 Mai 1940),[4]
  •  
  • Stanley Baldwin (7 Mehefin 1935 – 28 Mai 1937),[4]
  •  
  • James Ramsay MacDonald (5 Mehefin 1929 – 7 Mehefin 1935),[4]
  •  
  • Stanley Baldwin (4 Tachwedd 1924 – 4 Mehefin 1929),[4]
  •  
  • James Ramsay MacDonald (22 Ionawr 1924 – 4 Tachwedd 1924),[4]
  •  
  • Stanley Baldwin (22 Mai 1923 – 22 Ionawr 1924),[4]
  •  
  • Andrew Bonar Law (23 Hydref 1922 – 20 Mai 1923),[4]
  •  
  • David Lloyd George (6 Rhagfyr 1916 – 19 Hydref 1922),[4]
  •  
  • Herbert Henry Asquith (8 Ebrill 1908 – 5 Rhagfyr 1916),[4]
  •  
  • Henry Campbell-Bannerman (5 Rhagfyr 1905 – 3 Ebrill 1908),[4]
  •  
  • Arthur Balfour (12 Gorffennaf 1902 – 4 Rhagfyr 1905),[4]
  •  
  • Robert Gascoyne-Cecil, 3ydd Ardalydd Caersallog (25 Mehefin 1895 – 11 Gorffennaf 1902),[4]
  •  
  • Archibald Primrose (5 Mawrth 1894 – 22 Mehefin 1895),[4]
  •  
  • William Ewart Gladstone (15 Awst 1892 – 2 Mawrth 1894),[4]
  •  
  • Robert Gascoyne-Cecil, 3ydd Ardalydd Caersallog (11 Awst 1892 – 11 Awst 1892),
  •  
  • William Ewart Gladstone (1 Chwefror 1886 – 20 Gorffennaf 1886),[4]
  •  
  • Robert Gascoyne-Cecil, 3ydd Ardalydd Caersallog (23 Mehefin 1885 – 28 Ionawr 1886),[4]
  •  
  • William Ewart Gladstone (23 Ebrill 1880 – 9 Mehefin 1885),[4]
  •  
  • Benjamin Disraeli (20 Chwefror 1874 – 21 Ebrill 1880),[4]
  •  
  • William Ewart Gladstone (3 Rhagfyr 1868 – 17 Chwefror 1874),[4]
  •  
  • Benjamin Disraeli (27 Chwefror 1868 – 1 Rhagfyr 1868),[4]
  •  
  • Edward Smith-Stanley, 14eg Iarll Derby (28 Mehefin 1866 – 25 Chwefror 1868),[4]
  •  
  • John Russell, Iarll Russell 1af (29 Hydref 1865 – 26 Mehefin 1866),[4]
  •  
  • Henry Temple, 3ydd Is-iarll Palmerston (12 Mehefin 1859 – 8 Hydref 1865),[4]
  •  
  • Edward Smith-Stanley, 14eg Iarll Derby (20 Chwefror 1858 – 11 Mehefin 1859),[4]
  •  
  • Henry Temple, 3ydd Is-iarll Palmerston (6 Chwefror 1855 – 9 Chwefror 1858),[4]
  •  
  • George Hamilton-Gordon, 4ydd Iarll Aberdeen (19 Rhagfyr 1852 – 30 Ionawr 1855),[4]
  •  
  • Edward Smith-Stanley, 14eg Iarll Derby (23 Chwefror 1852 – 17 Rhagfyr 1852),[4]
  •  
  • John Russell, Iarll Russell 1af (30 Mehefin 1846 – 21 Chwefror 1852),[4]
  •  
  • Robert Peel (30 Awst 1841 – 29 Mehefin 1846),[4]
  •  
  • William Lamb, Ail is-iarll Melbourne (18 Ebrill 1835 – 30 Awst 1841),[4]
  •  
  • Robert Peel (10 Rhagfyr 1834 – 8 Ebrill 1835),[4]
  •  
  • Arthur Wellesley, Dug 1af Wellington (17 Tachwedd 1834 – 9 Rhagfyr 1834),[4]
  •  
  • William Lamb, Ail is-iarll Melbourne (16 Gorffennaf 1834 – 14 Tachwedd 1834),[4]
  •  
  • Charles Grey, 2ail Iarll Grey (22 Tachwedd 1830 – 9 Gorffennaf 1834),[4]
  •  
  • Arthur Wellesley, Dug 1af Wellington (22 Ionawr 1828 – 16 Tachwedd 1830),[4]
  •  
  • Frederick John Robinson, Is-iarll Goderich 1af (31 Awst 1827 – 8 Ionawr 1828),
  •  
  • George Canning (12 Ebrill 1827 – 8 Awst 1827),[4]
  •  
  • Robert Jenkinson (8 Mehefin 1812 – 9 Ebrill 1827),[4]
  •  
  • Spencer Perceval (4 Hydref 1809 – 11 Mai 1812),[4]
  •  
  • William Cavendish-Bentinck (31 Mawrth 1807 – 4 Hydref 1809),[4]
  •  
  • William Wyndham Grenville (11 Chwefror 1806 – 25 Mawrth 1807),[4]
  •  
  • William Pitt (10 Mai 1804 – 23 Ionawr 1806),[4]
  •  
  • Henry Addington (17 Mawrth 1801 – 10 Mai 1804),[4]
  •  
  • William Pitt (19 Rhagfyr 1783 – 14 Mawrth 1801),[4]
  •  
  • William Cavendish-Bentinck (2 Ebrill 1783 – 18 Rhagfyr 1783),[4]
  •  
  • William Petty, 2ail Iarll Shelburne (4 Gorffennaf 1782 – 26 Mawrth 1783),[4]
  •  
  • Charles Watson-Wentworth (27 Mawrth 1782 – 1 Gorffennaf 1782),[4]
  •  
  • Frederick North (28 Ionawr 1770 – 27 Mawrth 1782),[4]
  •  
  • Augustus Fitzroy (14 Hydref 1768 – 28 Ionawr 1770),[4]
  •  
  • William Pitt, Iarll Chatham 1af (30 Gorffennaf 1766 – 14 Hydref 1768),[4]
  •  
  • Charles Watson-Wentworth (13 Gorffennaf 1765 – 30 Gorffennaf 1766),[4]
  •  
  • George Grenville (16 Ebrill 1763 – 10 Gorffennaf 1765),[4]
  •  
  • John Stuart, 3ydd Ardalydd Bute (26 Mai 1762 – 8 Ebrill 1763),[4]
  •  
  • Thomas Pelham-Holles (29 Mehefin 1757 – 26 Mai 1762),[4]
  •  
  • William Cavendish (16 Tachwedd 1756 – 29 Mehefin 1757),[4]
  •  
  • Thomas Pelham-Holles (16 Mawrth 1754 – 11 Tachwedd 1756),[4]
  •  
  • Henry Pelham (27 Awst 1743 (Julian) – 6 Mawrth 1754),[4]
  •  
  • Robert Walpole (3 Ebrill 1721 (Julian) – 11 Chwefror 1742 (Julian))[4]
  • Enw brodorolPrime Minister of the United Kingdom Edit this on Wikidata
    Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
    Gwefanhttps://www.gov.uk/government/organisations/prime-ministers-office-10-downing-street Edit this on Wikidata
    Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
    David Lloyd George, Prif Weinidog rhwng 7 Rhagfyr 1916 – 22 Hydref 1922

    Nid yw'r swydd hon wedi'i diffinio o fewn unrhyw gyfansoddiad na deddfwriaeth eithr drwy draddodiad yn unig, sy'n mynnu fod yn rhaid i'r frenhiniaeth benodi'r person mwyaf tebygol o hawlio ffydd aelodau'r Tŷ'r Cyffredin yn Brif Weinidog. Drwy draddodiad, mae'n penodi arweinydd y blaid a enillodd y fwyaf o seddi yn siambr San Steffan.

    Ni chrewyd y swydd, felly; cafodd ei ffurfio'n araf dros dri chan mlynedd a hynny mewn modd penchwiban. Mae gwreiddiau'r swydd i'w canfod mewn newidiadau cyffrous yn y cyfansoddiad rhwng 1688 a 1720 a'r modd y symudodd y pwer o ddwylo'r frenhiniaeth i ddwylo'r Llywodraeth. Gwnaed hyn, yng ngwledydd Prydain, nid drwy chwyldro a chwalu'r frenhiniaeth eithr drwy iddi hi neu ef lywodraethu drwy'r Prif Weinidog. Mae'r frenhiniaeth, felly, wedi parhau'n bennaeth ar y Llywodraeth, ond mewn enw a seremoni'n unig.

    Erbyn y 1830au, roedd y system llywodraethol yn San Steffan wedi deor o'i blisg; roedd y Prif weinidog yn primus inter pares, neu'n gydradd, o fewn y Cabinet ac yn bennaeth ar y Llywodraeth. Esblygodd y swydd law yn llaw ag esblygiad y pleidiau gwleidyddol a datblygiad y cyfryngau torfol megis teledu, radio, papurau, ffotograffiaeth a'r rhyngrwyd.

    Pleidlais bwysig: Tŷ'r Arglwyddi yn dros Ddeddf 1911. S. Begg

    Cyn 1902 deuai'r Prif Weinidog weithiau o Dŷ'r Arglwyddi ond wrth i bwer yr Arglwyddi wanychu yn ystod y 19g cryfhaodd y traddodiad iddo eistedd yn Nhŷ'r Cyffredin. Cadarnhawyd hyn gan Ddeddf 1911 a roddodd fwy o rym i Dŷ'r Arglwyddi ar dael Tŷ'r Arglwyddi.[5] Oherwydd yr holl bwer unbeniaethol hwn ofna rhai fod trefn "Arlywyddol" Unol daleithiau'r America wedi ei gyrraedd.

    Gan nad yw'r swydd wedi'i chreu'n swyddogol, ni ellir datgan unwaith-ac-am-byth pwy oedd yn y swydd yn gyntaf. Eithr, yn answyddogol, gellir nodi Robert Walpole a ddaeth i swydd "Yr Arglwydd Cyntaf i'r Trysorlys" ym 1721.

    Gweler hefyd

    golygu

    Cyfeiriadau

    golygu
    1. "Keir Starmer's first speech as Prime Minister: 5 July 2024" (yn Saesneg). 5 Gorffennaf 2024. Cyrchwyd 6 Gorffennaf 2024.
    2. https://www.nytimes.com/live/2022/10/25/world/uk-prime-minister-rishi-sunak.
    3. https://www.theguardian.com/politics/live/2022/oct/24/uk-politics-live-rishi-sunak-penny-mordaunt-boris-johnson-withdrawal-nominations-deadline-tory-leadership-contest-race.
    4. 4.00 4.01 4.02 4.03 4.04 4.05 4.06 4.07 4.08 4.09 4.10 4.11 4.12 4.13 4.14 4.15 4.16 4.17 4.18 4.19 4.20 4.21 4.22 4.23 4.24 4.25 4.26 4.27 4.28 4.29 4.30 4.31 4.32 4.33 4.34 4.35 4.36 4.37 4.38 4.39 4.40 4.41 4.42 4.43 4.44 4.45 4.46 4.47 4.48 4.49 4.50 4.51 4.52 4.53 4.54 4.55 4.56 4.57 4.58 4.59 4.60 4.61 4.62 4.63 4.64 4.65 4.66 4.67 4.68 4.69 4.70 4.71 4.72 4.73 "Past Prime Ministers - GOV.UK". Cyrchwyd 26 Ionawr 2024.
    5. legistlation.gov.uk; adalwyd 6 Hydref 2013

    Dolenni allanol

    golygu