Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017
Deddf gan Senedd Cymru
Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 a elwir hefyd (gan Lywodraeth Cymru) yn Fil. Cyflwynwyd y bil gan Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol.
Enghraifft o'r canlynol | Deddf Senedd Cymru |
---|---|
Iaith | Saesneg, Cymraeg |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Mae’r Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cyflwyno "Treth Trafodiadau Tir" (LTT), a fydd yn disodli Treth Dir Treth Stamp y DU yng Nghymru o Ebrill 2018 a mesurau i fynd i’r afael ag osgoi trethi datganoledig.
Rhannau
golyguMae’r Bil yn nodi 7 rhan:[1]
- egwyddorion allweddol LTT, megis y math o drafodiadau a fydd yn denu tâl i LTT a’r person sy’n atebol i dalu LTT;
- y weithdrefn ar gyfer pennu cyfraddau a bandiau trethi;
- sut y caiff y dreth ei chyfrifo a pha ryddhadau allai fod yn gymwys;
- mesurau penodol i fynd i’r afael ag osgoi trethi datganoledig;
- cymhwyso’r Bil mewn perthynas â lesoedd;
- y darpariaethau penodol sy’n gymwys i amrywiaeth o bersonau a chyrff mewn perthynas ag LTT;
- y ddarpariaeth ar gyfer llenwi ffurflen trafodiadau tir ac ar gyfer talu’r dreth; a
dyletswyddau ar drethdalwyr i wneud taliadau a thalu cosbau a llog o dan rai amgylchiadau.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan senedd.cynulliad.cymru; adalwyd 27 Awst 2017.