Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Darn o ddeddfwriaeth a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn meysydd penodol yw Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu yn fyr Mesur y Cynulliad. Cafodd y grymoedd deddfu perthnasol eu rhoi ar ddechrau'r Trydydd Cynulliad ym Mai 2007 dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.[1] Prif gwnsler y Cynulliad, sy'n gyfrifol am ddrafftio'i Mesurau yw Thomas Glyn Watkin.

Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres:

Gwleidyddiaeth
Cymru




gweld  sgwrs  golygu

Fe nodir y meysydd mae gan y Cynulliad gymhwysedd deddfwriaethol ynddynt ar hyn o bryd yn Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006; mae cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad (sef y rhestr meysydd) yn cael ei ddiwygio fesul achos, naill ai drwy Ddeddf Seneddol neu Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCD) (yn destun cymeradwyaeth y Cynulliad a Senedd y DU). Yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006, diffinnir cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad drwy gyfeirio at "feysydd" a "materion": maes pwnc eang megis priffyrdd a thai yw "maes", a maes polisi diffiniedig penodol o fewn maes yw "mater".[2]

Proses golygu

Cyfnod 1 golygu

Gall Mesur gael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, pwyllgor y Cynulliad, AC unigol, neu Gomisiwn y Cynulliad. Mae'n rhaid i Fesur arfaethedig gael ei osod yn Gymraeg a Saesneg, cael "datganiad cymhwysedd deddfwriaethol" gan y Llywydd yn nodi a oes gan y Cynulliad y pŵer i wneud y Mesur arfaethedig yn ei farn ef, a chael Memorandwm Esboniadol i gyd-fynd ag ef. Mae Memorandwm Esboniadol yn nodi:

"amcanion polisi'r Mesur arfaethedig;

a oedd unrhyw ffyrdd amgen o gyflawni amcanion polisi'r Mesur arfaethedig wedi'u hystyried; manylion unrhyw ymgynghori a wnaed; crynodeb gwrthrychol o holl ddarpariaethau'r Mesur arfaethedig a'i effaith fwriadedig; amcangyfrifon gorau o ran y costau sy'n gysylltiedig â'r Mesur arfaethedig; manylion unrhyw bwerau is-ddeddfwriaeth yn y Mesur arfaethedig;

manylion unrhyw dâl a godir ar Gronfa Gyfunol Cymru."[3]

Gall unrhyw bwyllgor y Cynulliad gyflwyno Mesur arfaethedig sy'n ymwneud â chylch gwaith y pwyllgor hwnnw. Bydd y Mesur arfaethedig yn ddarostyngedig i'r broses arferol (gweler isod) heblaw na chaiff egwyddorion cyffredinol pwyllgor eu hystyried oherwydd bydd disgwyl i'r pwyllgor gwneud hyn fel rhan o'r paratoadau ar gyfer ei gynigion.[3]

Er mwyn i AC gyflwyno Mesur arfaethedig Aelod mae'n rhaid cyflwyno teitl y Mesur arfaethedig a Memorandwm Esboniadol. Yna mae enw'r AC yn gymwys ar gyfer balot, ac os yw'r Llywydd yn tynnu ei enw ar hap o'r balot mae gan yr Aelod y cyfle i gyflwyno'i achos dros y Mesur arfaethedig ac yna mae'r Cynulliad yn cynnal pleidlais dros barháu â'r broses ai beidio. Os yw'r Cynulliad yn cymeradwyo'r cynnig, caiff yr Aelod gyflwyno'r Mesur arfaethedig yn ffurfiol ac yna mae'n dilyn y broses arferol.[3]

Yn ystod cyfnod 1 fe sefydlir pwyllgor i ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig. Gall y pwyllgor wahodd sylwadau a thystiolaeth lafar neu ysgrifenedig gan unigolion, sefydliadau, a phleidiau eraill sydd â diddordeb yn y Mesur arfaethedig. Bydd y pwyllgor yn cyflwyno adroddiad gall gynnwys argymhellion ar gyfer diwygio'r Mesur arfaethedig, yna bydd y Cynulliad yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig gan ystyried adroddiad y pwyllgor. Os bydd y Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol, bydd y Mesur arfaethedig yn symud ymlaen i gyfnod 2. Os na, bydd y Mesur arfaethedig yn syrthio.[3]

Cyfnod 2 golygu

Yn ystod cyfnod 2, gwaith y pwyllgor (naill ai'r pwyllgor o gyfnod 1 neu bwyllgor newydd) yw i ystyried a chwblhau unrhyw welliannau a gyflwynwyd i'r Mesur arfaethedig. Caiff unrhyw AC gyflwyno gwelliant a chaiff pob gwelliant derbyniadwy ei ystyried ond dim ond aelodau'r pwyllgor a all bleidleisio ar welliannau.[3]

Cyfnod 3 golygu

Yn ystod cyfnod 3 gwaith y Cynulliad yw i ystyried a chwblhau unrhyw welliannau a gyflwynwyd i'r Mesur arfaethedig. Fel yng nghyfnod 2, caiff unrhyw AC gyflwyno gwelliant i Fesur arfaethedig, ond yng nghyfnod 3 y Llywydd fydd yn dewis y gwelliannau hynny i'w hystyried gan y Cynulliad. Mae'n bosib i welliannau ar bynciau tebyg cael eu grwpio er mwyn i'r Cynulliad eu trafod.[3]

Cyfnod 4 golygu

 
Bathodyn Brenhinol Cymru, sy'n ymddangos ar bob Mesur ar ôl derbyn sêl bendith y Frenhines[4]

Yn ystod cyfnod 4, y cyfnod olaf, bydd y Cynulliad yn cynnal pleidlais dros ffurf derfynol y Mesur arfaethedig. Os caiff ei basio, bydd y Mesur arfaethedig yn derbyn Cydsyniad Brenhinol, sef sêl bendith Teyrn y Deyrnas Unedig (ar hyn o bryd y Frenhines Elisbaeth) cyn iddo ddod yn ddeddfwriaeth ffurfiol.[3][4]

Ar ôl i Fesur gael ei basio mae'n bosib y bydd yn rhaid iddo fynd trwy gyfnod ail-ystyried os yw Ysgrifennydd Gwladol Cymru neu Oruchaf Lys y DU yn cwestiynu os oedd maes neu fater y Mesur o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.[3]

Os na chaiff y Mesur arfaethedig ei basio gan y Cynulliad bydd yn syrthio ac ni chymerir unrhyw gamau eraill mewn perthynas ag ef.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1.  Deddfwriaeth. Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Adalwyd ar 28 Hydref, 2008.
  2.  Gwybodaeth am y Broses Ddeddfu. Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Adalwyd ar 28 Hydref, 2008.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 3.6 3.7 3.8  Mesurau. Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Adalwyd ar 28 Hydref, 2008.
  4. 4.0 4.1  Mesur iechyd: Creu hanes. BBC Cymru'r Byd (9 Gorffennaf, 2008). Adalwyd ar 28 Hydref, 2008.

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu