Defnyddiwr:Adda'r Yw/drafftiau/Llenyddiaeth Saesneg Lloegr
Llenyddiaeth sydd yn tarddu o Loegr ac wedi ei hysgrifennu yn yr iaith Saesneg yw llenyddiaeth Saesneg Lloegr. Mae'n crybwyll llên yn ffurfiau hanesyddol y Saesneg, sef Eingl-Sacsoneg (neu Hen Saesneg) a Saesneg Canol, felly mae hanes llenyddiaeth Saesneg Lloegr yn rhychwantu'r holl gyfnod ers goresgyniadau'r Eingl-Sacsoniaid yn y 5g. Dros bymtheg canrif, datblygodd llenyddiaeth yn iaith frodorol y Saeson o fod yn draddodiad gwerinol oedd yn ddarostyngedig i ysgrifeniadau Lladin ac Eingl-Normaneg yn Lloegr, i fod yn un o brif lenyddiaethau'r byd ac yn cenhedlu sawl traddodiad cenedlaethol gan lenorion Saesneg mewn gwledydd eraill. Mae campau llenyddol y Saeson yn niferus ymhlith llyfrau canon y Gorllewin, ac yn yr 21g mae cannoedd o filiynau o ddarllenwyr Saesneg ar draws y byd yn medru darllen gweithiau clasurol a chyfoes yn yr iaith. Cynhwysir sawl un o gewri llenyddiaeth Saesneg Lloegr, y gwychaf ohonynt William Shakespeare, ymhlith goreuon y grefft lenyddol mewn unrhyw iaith. Dyma gorff ysgrifenedig gwreiddiol yr iaith Saesneg, un o'r nodweddion amlycaf a rhagoraf yn niwylliant Lloegr, a'r corff cyfoethocaf a gwychaf o holl draddodiadau llenyddol y gwledydd Saesneg.
Oherwydd hanes Gwledydd Prydain a goruchafiaeth Teyrnas Lloegr dros y gwledydd eraill, yn enwedig Cymru ac Iwerddon, bu'r Saeson yn defnyddio'r enw Lloegr i gyfeirio at holl ynys Prydain Fawr neu holl Ynysoedd Prydain ac Iwerddon. Yn aml mae ymdriniaethau o "lenyddiaeth Seisnig" (English literature) yn yr iaith Saesneg, yn ôl awduron o Loegr a gwledydd eraill, yn cynnwys llenyddiaethau Saesneg yr Alban, Cymru, ac Iwerddon hefyd. Yn fwyfwy yn yr oes fodern, cyfeirir at y traddodiadau hyn i gyd yn gywirach dan yr enw llenyddiaeth Brydeinig a Gwyddelig. Er hynny, bu nifer o lenorion Saesneg o'r Alban, Cymru, ac Iwerddon yn byw ac yn gweithio yn Lloegr ac yn ynghlwm yn ffasiynau ac arferion llenyddol arbennig y wlad honno, ac felly nid yw'n gwbl amhriodol eu hystyried yn rhan o lenyddiaeth Saesneg Lloegr.
Hanes
golyguLlenyddiaeth Hen Saesneg
golygu- Prif: Llenyddiaeth Hen Saesneg
Llenyddiaeth Saesneg Canol
golyguDadeni Lloegr
golyguOes Elisabeth
golyguOes Iago
golyguOes yr Adferiad
golygu- Prif: Llên yr Adferiad
Y cyfnodd newydd-glasurol
golyguOes Teimladrwydd
golyguRhamantiaeth
golyguOes Fictoria
golyguModerniaeth
golyguFfurf
golyguBarddoniaeth
golyguRhyddiaith ffuglen
golyguY nofel
golyguY stori fer
golyguRhyddiaith ffeithiol
golyguHanes
golyguYr ysgrif
golyguLlenyddiaeth wleidyddol a chrefyddol
golyguAthroniaeth a gwyddoniaeth
golyguY ddrama
golyguAgweddau eraill
golyguY clasuron
golyguGroeg, Rhufain
Llên gwerin
golyguChwedloniaeth a mytholeg
golyguGermanaidd
Cristnogaeth
golyguHunaniaeth Seisnig, Prydeindod, a'r Ymerodraeth
golyguôl-drefedigaethrwydd