Mae Ynysoedd Prydain[1] (weithiau yr Ynysoedd Prydeinig) yn derm a ddefnyddir gan rai pobl am ynysoedd Prydain Fawr (Prydain), Iwerddon ac Ynys Manaw, ynghyd â'r ynysoedd llai o'u cwmpas. Fel term daearyddol yn unig, fe'i defnyddir weithiau ar gyfer ynysoedd gwledydd Prydain (Yr Alban, Cymru a Lloegr), ond mae gwahaniaeth rhwng y termau Saesneg Islands of Britain (ynysoedd gwledydd Prydain) a British Isles.

Ynysoedd Prydain
Mathynysfor, grŵp o ynysoedd Edit this on Wikidata
Jer-Îles Britanniques.ogg Edit this on Wikidata
Poblogaeth71,891,524 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC±00:00, UTC+01:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlady Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Iwerddon, Beilïaeth Ynys y Garn, Beilïaeth Jersey, Ynys Manaw Edit this on Wikidata
Arwynebedd121,684 mi² Edit this on Wikidata
Uwch y môr1,343 metr Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54°N 4°W Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Ynysoedd Prydain ac Iwerddon

Yn Iwerddon mae'r term yr Ynysoedd Prydeinig (yn ei ffurf Saesneg British Isles) yn annerbyniol gan gyfran o'r boblogaeth, gan eu bod yn ystyried fod arwyddocâd gwleidyddol iddo fel term Seisnig sy'n dyddio o gyfnod Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon a'r Ymerodraeth Brydeinig. Fel canlyniad mae llywodraeth Iwerddon yn cyfeirio at Ynysoedd Prydain fel yr ynysoedd hyn, a defnyddir yn aml y term "Prydain ac Iwerddon". Gwrthodir y term gan eraill hefyd, e.e. gan rai Cymry ac Albanwyr, am yr un rheswm.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 34.