Llenyddiaeth Hen Saesneg
Y corff hanesyddol o lenyddiaeth a ysgrifennwyd yn Hen Saesneg, y ffurf ar yr iaith Saesneg a fodolai yn y cyfnod o ganol y 7g i ddiwedd y 12g, yw llenyddiaeth Hen Saesneg neu lenyddiaeth Eingl-Sacsoneg. Dyma oesoedd yr Eingl-Sacsoniaid yn hanes Lloegr, rhwng dyfodiad y llwythau Germanaidd o'r Cyfandir i dde-ddwyrain Prydain Fawr yn y 5g a'r 6g a gorchfygiad Lloegr gan y Normaniaid ym 1066. Ymddengys testunau Hen Saesneg ar amryw ffurfiau ac mewn sawl genre, gan gynnwys yr arwrgerdd, bucheddau'r saint, pregethau, trosiadau o'r Beibl, cyfreithiau, croniclau, a dychmygion a damhegion. Mae rhyw 400 o lawysgrifau wedi eu cadw o'r cyfnod hwn, corff sylweddol o lenyddiaeth o'r Oesoedd Canol Cynnar. Maent yn dystiolaeth bwysig o ddatblygiad cynnar yr iaith Saesneg, hanes traddodiadol Lloegr, ac ethnogenesis y Saeson.
O'r holl farddoniaeth yn yr Hen Saesneg, dim ond 30,000 o linellau sydd yn goroesi, wedi eu cadw ym mron i gyd mewn pedwar grŵp o lawysgrifau, sef Llyfr Caerwysg, Llawysgrif Junius (neu gasgliad Bodley), Llyfr Vercelli, a chasgliad Cotton (gan gynnwys llawysgrif Beowulf). Penillion cyflythrennol yw'r brif arddull ym marddoniaeth Hen Saesneg, ac un o'i nodweddion yw dull trosiadol y kenning neu ddyfaliad. Y gerdd hiraf a mwyaf nodedig yn Hen Saesneg yw Beowulf, arwrgerdd genedlaethol y Saeson, a gyfansoddwyd yn yr 8g ar sail hen fytholeg y Germaniaid. Cerdd grefyddol fer gan y bardd Cristnogol Cædmon, a flodeuai yn ail hanner y 7g, ydy'r esiampl hynaf o waith llenyddol yn yr iaith Saesneg. Mae rhyddiaith Hen Saesneg yn cynnwys testunau cyfreithiol, traethodau meddygol, lên grefyddol a didactig, a chyfieithiadau o'r Lladin ac ieithoedd eraill. Mae'r croniclau a gweithiau hanesyddol a lled-hanesyddol tebyg, yn enwedig y Cronicl Eingl-Seisnig, yn dystiolaeth bwysig o'r Oesoedd Canol Cynnar yn Lloegr.
Gwelir gwahanol gyfnodau o ymchwil i lenyddiaeth Hen Saesneg yn yr oes fodern. Yn y 19g a dechrau'r 20g, anterth yr ieithegwyr, canolbwyntiai ysgolheigion ar wreiddiau Germanaidd yr Eingl-Sacsoniaid. Yn ddiweddarach, tynnwyd sylw at rinweddau llenyddol yr amryw destunau. gan fynd i'r afael â llenyddiaeth Hen Saesneg o safbwynt y beirniad yn hytrach na'r hanesydd. Mewn ymchwil cyfoes, rhoddir y pwyslais ar baleograffeg, sef astudiaeth y llawysgrifau eu hunain. Mae ysgolheigion yn trin a thrafod sawl pwnc yn y maes gan gynnwys canfod dyddiad, tarddiad, ac awduraeth testunau, a'r cysylltiadau rhwng llenyddiaeth Hen Saesneg ac ieithoedd eraill Ewrop yn yr Oesoedd Canol.
Barddoniaeth
golygu- Prif: Barddoniaeth Hen Saesneg
Nid oes ffynonellau gwreiddiol o farddoniaeth yr Eingl-Sacsoniaid, o oresgyniadau'r 5g hyd at eu cristioneiddio yn y 7g, yn goroesi. Gellir olrhain barddoniaeth Saesneg Lloegr yn ôl i "Emyn Cædmon", yr enw a roddir ar gerdd grefyddol fer a briodolir i'r mynach Cædmon (blodeuai 658–680) o Northymbria yn ôl yr Historia Ecclesiastica Gentis Anglorum, hanes yn Lladin o'r 8g gan yr Hybarch Beda. Dyma'r enghraifft hynaf o lenyddiaeth yn yr iaith Saesneg, a'r esiampl gyntaf o farddoniaeth dduwiolfrydig Gristnogol yn llenyddiaeth y Saeson. O ail hanner y 7g hefyd, mae'n bosib, dyddia'r fawlgan Widsith, gan awdur anhysbys. Llyfr Caerwysg, o ddiwedd y 10g, yw unig ffynhonnell Widsith, ac er i ambell hanesydd dybio iddi gael ei chyfansoddi tua'r cyfnod hwnnw, mae'n cynnwys nodweddion a chyfeiriadau unigryw sydd yn debycach o lawer i draddodiad Germanaidd y Cyfandir, gan awgrymu ei bod yn seiliedig ar farddoniaeth gynharaf yr Eingl-Sacsoniaid os nad yn esiampl wirioneddol ohoni. Dethlir buddugoliaethau a dewrder brenhinoedd a rhyfelwyr mewn barddoniaeth arwrol yr Eingl-Sacsoniaid. Yr arwrgerdd hiraf ac enwocaf o'r cyfnod yw Beowulf, sy'n traddodi campau'r prif gymeriad a'i frwydr yn erbyn yr anghenfil Grendel. Cyfuniad o straeon paganaidd Gogledd Ewrop a themâu Cristnogol yw Beowulf, sy'n dyddio o'r 8g.
Rhennir barddoniaeth Hen Saesneg gan rai ysgolheigion yn ddau draddodiad: y farddoniaeth frodorol neu gyntefig, a'r barddoniaeth Gristnogol neu lenyddol. Mae'r traddodiad brodorol yn amlygu gwreiddiau Cyfandirol yr Eingl-Sacsoniaid, gan dynnu ar fytholeg baganaidd, llên gwerin Germanaidd, ac hanes traddodiadol yr amryw lwythau a oresgynnai Prydain yn y 5g. Mewn llawysgrifau diweddarach y ceir olion y farddoniaeth hon, ond mae'n sicr yr oeddynt yn tarddu o gorff llenyddol hanesyddol, o bosib traddodiad llafar, a oedd yn dyddio'n ôl i ddyfodiad yr Eingl-Sacsoniaid. Er iddynt yn eu hanfod ragflaenu cristioneiddio'r Eingl-Sacsoniaid, a chael eu hystyried yn draddodiad ar wahân i lên Gristnogol, byddai cyfeiriadau a themâu Cristnogol yn lliwio'r adysgrifiadau a rhyngysgrifeniadau a gyflawnwyd gan sgrifellwyr diweddarach. Beowulf, wrth gwrs, yw'r gerdd fwyaf yn y traddodiad brodorol, ac ymhlith yr esiamplau eraill o farddoniaeth gyntefig Eingl-Sacsonaidd mae Widsith, yr alargan arwrol Deor, a phytiau poblogaidd ar fydr megis swynion a dychmygion.
Mae barddoniaeth y traddodiad Cristnogol yn cynnwys cerddi a briodolir, boed yn gywir neu ar gam, i ddau fardd yn bennaf, sef Cædmon a Cynewulf. Mae'r rhain yn debyg i'r traddodiad brodorol o ran arddull a thechneg, ond yn ymdrin â phynciau cwbl Gristnogol. Mae'n debyg taw "Emyn Cædmon" yw'r unig waith sydd yn goroesi gan y bardd hwnnw, ond yn hanesyddol priodolwyd iddo hefyd drosiadau o straeon y Beibl – o lyfrau Genesis, Exodus, Daniel, a Jwdith. Priodolir i Cynewulf, a flodeuai yn y 9g mae'n debyg, bedair cerdd a gofnodwyd mewn llawysgrifau yn niwedd y 10g: Elene a The Fates of the Apostles yn Llyfr Vercelli, a Christ II a Juliana yn Llyfr Caerwysg.Mae'n debyg taw The Dream of the Rood yw'r gerdd ddefosiynol wychaf yn nhraddodiad yr Eingl-Sacsoniaid. Yn hanesyddol cafodd yr honno ei phriodoli i Cynewulf hefyd, ond bellach ni chydnabyddir unrhyw dystiolaeth dros hynny.
Rhyddiaith
golyguTrosiadau o destunau Lladin oedd yr enghreifftiau cyntaf o ryddiaith Hen Saesneg, a gyfieithasid i iaith yr Eingl-Sacsoniaid ar gais y Brenin Alffred Fawr yn niwedd y 9g. Gweithiau didactig, defosiynol, a hanesyddol ydy'r rhan fwyaf o'r rhyddiaith hon, gan gynnwys Liber Regulae Pastoralis gan y Pab Grigor Fawr, Historia Ecclesiastica Gentis Anglorum gan yr Hybarch Beda, Historiae Adversus Paganos gan Orosius (hanes y byd gydag ychwanegiadau am Germania gan y teithwyr Ohthere o Hålogaland a Wulfstan o Hedeby), a De consolatione philosophiae gan Boetius.[1] Mae'n debyg taw'r gwaith pwysicaf ydy Cronicl yr Eingl-Sacsoniaid, casgliad o frutiau am oesoedd y brenhinoedd Sacsonaidd a gafodd ei ychwanegu ato o'r 9g i'r 12g. Dau o ryddieithwyr Hen Saesneg y mae eu henwau yn hysbys oedd Ælfric, Abad Eynsham (tua 955–1010), a Wulfstan, Archesgob Efrog (bu farw 1023), y ddau yn aelodau o Urdd Sant Bened ac yn nodedig am eu pregethau sy'n gosod sail i homileteg ganoloesol yr iaith Saesneg.[2]
Cyfeiriadau
golyguDarllen pellach
golygu- S. B. Greenfield, A Critical History of Old English Literature (1965).
- J. D. Niles, Old English Literature in Context (1981).
- C. L. Wrenn, A Study of Old English Literature (1967).