Defnyddiwr:Bonheddwr/Myfanwy Davies

Myfanwy Davies

Gwleidydd Cymreig yw Myfanwy Davies (ganwyd 1975), sy'n Ymgeisydd Seneddol Plaid Cymru ar gyfer etholaeth Llanelli yn Etholiadau cyffredinol y Deyrnas Unedig.

Bywgraffiad golygu

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Dr Myfanwy Davies yn Halifax, Swydd Gorllewin Efrog yn ystod gwyliau’r Nadolig 1975. Magwyd yn y Ffwrnes ger Llanelli.

Addysgwyd hi yn Ysgol Dewi Sant, Ysgol Gyfun y Strade a nifer o brifysgolion. Bu’n ddarlithydd prifysgol (Univeristé d’Aix-Provence a Univeristé de Rouen). Ar hyn o bryd mae’n arwain tîm o ymchwilwyr gwasanaethau iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae’n rhannu ei hamser rhwng ei chartref yn Llanelli a’i gwaith yng Nghaerdydd.

Gyrfa wleidyddol golygu

Ymunodd Myfanwy gyda Phlaid Cymru yn 1989.

Mae Myfanwy yn noddwr Breakthro’ Llanelli, grŵp i bobl ifanc gydag anableddau. Mae’n ysgrifenyddes Masnach Deg Llanelli ac yn aelod anrhydeddus o sefydliad y Merched Llwynhendy.

Mae diddordebau gwleidyddol Myfanwy yn yr economi, iechyd a pholisïau cymdeithasol. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn pensiynau, tai ac iawnderau’r anabl.

Safodd yn etholiad San Steffan Llanelli 2010. Ni chafodd ei hethol. Safodd yn etholiad Y Cynulliad 2011. Ni chafodd ei hethol. Safodd yn etholiad Cyngor Gwynedd yn 2012. Ni chafodd ei hethol.

Teulu golygu

Mae ei mam, Mari yn Gynghorydd Sir y Blaid dros ward yr Hengoed sy’n cynnwys Y Ffwrnes. Roedd Mari hefyd yn gadeiryddes Cyngor Gwledig Llanelli yn ystod 2008–2009. Roedd tad Myfanwy Dic yn brif lyfrgellydd yn Llyfrgell Llanelli tan ei ymddeoliad.

Cyfeiriadau golygu