Masnach deg

(Ailgyfeiriad o Masnach Deg)

Mudiad cymdeithasol sy'n ceisio helpu ffermwyr a gweithwyr mewn gwledydd datblygol i gael prisiau teg am eu cynnyrch a hyrwyddo cynaladwyedd ydy Masnach Deg. Mae'n canolbwyntio ar allforion celf a chrefft, coffi, siwgr, te, banana, mêl, cotwm, gwin[1], ffrwythau ffres, siocled, blodau ac aur.[2]

Masnach deg
Enghraifft o'r canlynolmasnach, cangen economaidd, mudiad cymdeithasol Edit this on Wikidata
Mathmasnach Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cymru - y genedl fasnach deg gyntaf

golygu

Ar 11 Gorffennaf 2008 daeth Cymru'n 'Genedl Masnach Deg' gynta'r byd, pan lansiodd Llywodraeth Cymru ymgyrch i hyrwyddo’r defnydd o gynnyrch Masnach Deg. Ymhlith cefnogwyr yr ymgyrch hon roedd nifer o sefydliadau gan gynnwys Canolfan Cydweithredol Cymru, Oxfam Cymru, a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru.[3] Flwyddyn cyn hynny, pasiodd Llywodraeth Cymru 'Fesur Masnach Deg Cenedl Cymru', a nododd ei hymrwymiad i hyrwyddo arferion Masnach Deg a chefnogi cynhyrchwyr Masnach Deg.

Yn 2019, cynhaliwyd y 13eg Cynhadledd Trefi Masnach Deg Rhyngwladol yng Nghaerdydd.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Moseley, W.G. 2008. “Fair Trade Wine: South Africa’s Post Apartheid Vineyards and the Global Economy.” Globalizations, 5(2):291-304.
  2. David Brough, "Briton finds ethical jewellery good as gold", Reuters Canada, 10 Ionawr 2008
  3. masnachdeg.cymru; adalwyd 11 Gorffennaf 2023.
  Eginyn erthygl sydd uchod am economeg neu arianneg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.