Defnyddiwr:Danielt998/Class 153 Rheilffyrdd Prydeinig

British Rail Class 153
Mewn Gwasanaeth: 1991/2-presennol
Gwneuthurwr: British Leyland
Wedi eu arnewid i Class 153au gan Hunslet-Barclay
Teulu: Sprinter
Wedi'u creu: 1987-1988 Wedi'u adnewyddu 1991-1992
Adnewyddiad: Amrywiol
Nifer wedi'u creu: 70 (35 Class 155au cyn cael eu arnewid)
Ffurfiad: Un cerbyd
Cynhwysedd: 72 neu 75
Gweithredwyr: Trenau Arriva Cymru
East Midlands Trains
First Great Western
London Midland
Greater Anglia
Northern Rail

Trên un cerbyd sydd wedi'i arnewid o'r British Rail Class 155au yw'r British Rail Class 153.

Disgrifiad golygu

 
Cab gyrru o Class 153

Adeiladwyd y trênau hyn yn wreiddiol fel unedau dau gerbyd gan British Leyland yn 1987-88 ond cawsant eu arnewid yn 1991-92 gan Hunslet-Barclay yn Kilmarnock. Mae cynllun yr ochrau cab newydd yn dra wahanol i'r rhai gwreiddiol, ac nid yw'r ochrau'n gymesur.

Eu cyflymder uchaf yw 75 mya ac maent yn addas iawn ar gyfer gwasanaethau llai poblogaidd megis gwasanaeth London Midland o Coventry i Nuneaton a Rheilffordd Calon Cymru. Maent yn gallu gweithio ynghlwm a'i gilydd a hefyd gyda thrênau eraill sy'n ddefnyddio'r un dechnoleg megis y Class 150, Class 156 a'r Class 158 ond hefyd trênau mwy diweddar fel y Class 170.

Mae'r cab newydd yn llai na'r un gwreiddiol ac nid oes cymaint o le ar gyfer gyrrwyr a thocynnwyr. Yn debyg i lawer o'r Sprinterau eraill fel y Class 156 a'r Class 158 mae yna gysylltiadau eil ar ochrau'r cerbyd er mwyn i bobl gerdded o un cerbyd i'r llall pan maent yn gweithio gyda'i gilydd.

Rhifwyd y trênau yn yr amrediadau 153301-335 a 153351-385. Rhifwyd y cerbydau eu hunain 52301-335 a 57351-385 (yn wreiddiol 57301-335).

Gweithrediadau golygu

British Rail golygu

Yr oedd British Rail angen trenau newydd i gymryd lle'r Class 121au British Rail ar gyfer gwasanaethau oedd ddim yn gweld llawer o deithwyr.

Ol-preifateiddio golygu

Ar ol i preifateiddio British Rail, cafodd y trenau Class 153 eu rhannu rhwng amrhywiaeth o gweithredwyr.

Cymru golygu

Mae gan Trenau Arriva Cymru 8 Class 153.[1] Defnyddiwyd fel arfer ar rheilffyrdd gwledig megis y Rheilffordd Calon Cymru o Amwythig i Abertawe a'r rheilffordd o Wrecsam Canolog i Bidston ond defnyddwyd hefyd ar rhai gwasanaethau ar prif rheilffyrdd. Yn Rhagfyr 2005, defnyddiodd Arriva i rhedeg gwasanaeth ar y Butetown Branch Line rhwng Caerdydd Stryd y Frenhines a Bae Caerdydd sydd bellach yn cael ei rhedeg gan Class 121.

Ar ol newidiadau i'r amserlennau ar 9 Rhagfyr 2007, collodd Trenau Arriva Cymru dri Class 153 ac aethant i East Midlands Trains a First Great Western.

Canolbarth Lloegr golygu

Defnyddir deg Class 153 gan London Midland ar rheilffyrdd yn y Gorllewin Canolbarth Lloegr gan cynnwys o Coventry i Nuneaton a rheilffordd Marston Vale rhwng Bedford a Bletcheley.

Roedd yr holl unedau a etifeddwyd gan Central Trains yn lifrau'r cwmni. Cafodd yr holl unedau eu hail-beintio i lifrau London Midland City ar ol cael eu adnewyddu yn Eastleigh.

Cafodd y Class 153au a ddefnyddiwyd ar y Rheilffordd Stourbridge Town eu disodli gan drenau Class 139. Digwyddodd hynny yn Mehefin 2008, ond cafodd eu cyflwyniad ei oedi ac ailgyflwynodd London Midland drenau diesel nes yr oedd y trenau'n barod. Dechreuodd y trenau newydd eu gwasanaeth yn Mehefin 2009[2].

Defnyddir East Midlands Trains Class 153au ar y rheilffyrdd gwledig isod:

Etifeddodd East Midlands Trains nifer o enghreifftiau gwahanol o drenau Class 153, chwech o Central Trains, tri o National Express East Anglia] a pedwar oedd yn cael eu storio yn depo Eastleigh (a oedd wedi cael eu ddefnyddio gan First Great Western). Ar 9 Rhagfyr 2007, cafodd East Midlands Trains dau tren Class 153 ychwanegol o Trenau Arriva Cymru a dau o Northern Rail

Mae'r trenau Class 153 East Midlands Trains i gyd ar wahan i dri wedi cael eu hailbeintio i lliwiau'r cwmni. Mae trenau 153376, 153379 a 153384 yn parhau i fod â lliwiau Central Trains arnynt, ond gyda brandio East Midlands Trains.

De Orllewin Lloegr golygu

 
Class 153 Wessex Trains rhif 153369 wedi'i arnewid yn Bristol Temple Meads
 
Y tu mewn o 153329 First Great Western yn dangos ei cadeiriau Chapman

Cymerodd First Great Western drosodd y trenau Wesssex Trains ar ol i'r dwy trwydded uno. Roedd Wessex Trains wedi etifeddu eu trenau yn wreiddiol o Wales and West.

Defnyddir y trenau ar gwasanaethau yn Cernyw, Dyfnaint ac o gwmpas Bristol. Maent hefyd yn cael eu defnyddio ar gwasanaethu Bristol Temple Meads i Weymouth, Southampton a Caerwrangon a gwasanaeth Swindon i Southampton trwy Melksham

Yng nghanol 2004, enillodd Wessex Trains dwy uned o Central Trains.

Liveries golygu

Fflyd golygu

Class Gweithredwr Nifer wedi'u hadeiladu Blwyddyn wedi'u hadeiladu Cerbydau yn set Rhifau
Class 153 Trenau Arriva Cymru 70 1991–1992 1 153303, 153312, 153320, 153323, 153327, 153353, 153362, 153367
East Midlands Trains 153302, 153308, 153310-153311, 150313, 153319, 153321, 153326, 153355, 153357, 153374, 153376, 153379, 153381, 153383-153385
London Midland 153334, 153354, 153356, 153364, 153365, 153371, 153375
Greater Anglia 153306, 153309, 153314, 153322, 153335
Northern Rail 153301, 153304, 153307, 153315-153317, 153324, 153328, 153330-153332, 153351, 153352, 153358-153360, 153363, 153366, 153378

Ex Arriva Trains Northern: 153301/304/307/315/317/328/331/351/352/378

Ex First North Western: 153316/324/330/332/358-360/363

First Great Western 153305, 153318, 153325, 153329, 153333, 153361, 153368, 153369, 153370, 153372, 153373, 153377, 153380, 153381

Modelau golygu

Pan cafodd yr unedau eu cyflwyni am y tro cyntaf, Creuodd Hurst Models pecyn i troi model o Class 155 i Class 153.[3]

Mae'r Class 153 wedi'i creu mewn 00 Gauge gan Hornbyyn y lifrau canlynol: Central Trains, First Northern Star, Northern Rail, Regional Railways, East Midlands Trains, London Midland City and Great Scenic Railways of Wessex and Cornwall (Wessex Trains).[4]

Mae fersiwn N Gauge wedi'i creu gan Dapol.[5]

Mae model am Microsoft Train Simulator wedi'i greu gan Making Tracks.[6] ac mae model am Railworks wedi'i greu gan Just Trains

References golygu

  1. (Saesneg)http://www.arrivatrainswales.co.uk/Fleet/
  2. (Saesneg) "Stourbridge railcar receives its passenger licence". London Midland. 2 Ebrill 2009. Cyrchwyd 11 Ebrill 2009.
  3. (Saesneg)"DKU103 Pair of Class 153 Conversion Kits". Hurst Models.
  4. (Saesneg)"Error 404".
  5. (Saesneg)"Class 153 released". Dapol.
  6. (Saesneg)"BMUC 6 :: Leyland Class 153 / Class 155 Stock Pack". Making Tracks.

External links golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Nodyn:British Rail Sprinter Nodyn:British Rail DMU