Defnyddiwr:Rhyswynne/Amgueddfa Atgofion2
Dyma dudalen WiciBrosiect Amgueddfa Atgofion.
Cefndir
golyguMae Menter Iaith Sir Ddinbych ar hyn o bryd yn rhedeg prosiect treftadaeth 18 mis o'r enw Amgueddfa Atgofion yn ymwneud ag amaethyddiaeth.
Yr Amgueddfa Atgofion (Crynodeb)
golygu- £59,800.00 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri
- Datblygwyd y cynllun ar y cyd ag Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy gyda chefnogaeth hefyd gan yr Asiantaeth Datblygu Gwledig lleol Cadwyn Clwyd
- 18 mis o weithgareddau’n ymwneud â hanes ffermio a bywyd cefn gwlad yn Sir Ddinbych
- Cyfle i blant a phobl o bob oed gydweithio ar y cynllun
- Pobl ifanc yn derbyn hyfforddiant ar sut i gasglu atgofion a chadw lluniau ar gyfrifiaduron, gan gydweithio â ffermwyr lleol
- Cadw cofnod manwl o’r hen ffordd o fyw a defnyddio atgofion personol a hen luniau i greu archif gwych o’r 1940au hyd at heddiw
- Arddangosfa symudol yn cael ei datblygu ynghyd â phecyn ‘amgueddfa fechan’ hyblyg
- Lluniau a chyfweliadau newydd yn cael eu hychwanegu i’r arddangosfa ddigidol wrth i’r cynllun fynd rhagddo
- Lluniau a’r atgofion yn cael eu casglu mewn cyfres o ddigwyddiadau casglu atgofion (Gweler Sesiwn Hel Atgofion islaw) megis:
- Ocsiwn Ffermwyr, Rhuthun
- Amgueddfa Llangollen
- Oriel Corwen
- Stondin Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn Sioe Dinbych a Fflint, ac wrth gwrs:
- Eisteddfod Genedlaethol Dinbych yn 2013.
Y Gymraeg yn rhan annatod o’r cynllun
golygu- Pobl oedrannus cefn gwlad ydi’r unig rai ar ôl sy’n cofio dulliau ffermio a ffordd o fyw eu hardaloedd yn yr oes a fu
- Rhain hefyd ydi’r genhedlaeth olaf sy’n cofio hen draddodiad llafar eu bro yn ei holl gyfoeth lliwgar
- Mae gan lawer o ardaloedd eiriau hollol unigryw oedd yn ymwneud â ffermio a’r diwylliant oedd yn gysylltiedig â hynny
- Mae’n bwysig iawn casglu a chadw atgofion a lluniau am ffordd o fyw ffermwyr a thafodiaith yr ardaloedd tra mae’n dal yn bosib
- Newidiadau i ffordd o fyw ffermwyr a thafodieithoedd dros y blynyddoedd yn golygu na fydd y wybodaeth a’r traddodiadau hyn yn cael eu trosglwyddo i bobl fengach yr ardal fel a wnaed yn y gorffennol
- Gyda chymorth Amgueddfa Werin Cymru bydd yr arddangosfeydd hyn, yn enwedig yr arddangosfeydd llafar, yn adnoddau unigryw gwych i’r ardal hon ac i Gymru gyfan.
Sesiwn Hel Atgofion
golyguBydd cyfres o ddigwyddiadau Hel Atgofion yn cael eu cynnal yn ystod y flwyddyn hon gan ddechrau yng Nghorwen diwedd mis Mawrth 2013. Bydd modd sganio hen luniau'n ystod y sesiynau yma a thynnu ffotograffau o hen declynnau a pheiriannau amaethyddol. Carem ddefnyddio'r lluniau a sganiwyd yn ystod y digwyddiadau ar Wicipedia gan sicrhau hefyd bod gyda ni ganiatâd i’w cynnwys.
Dyddiadau Sesiynnau Hel Atgofion
golygu- dd/mm/bbbb Lleoliad, Corwen amser
Amcanion WiciBrosiect Amgueddfa Atgofion
golyguMae rhai o olygwyr y Wicipedia Cymraeg wedi bod mewn cysylltiad gyda swyddogion y Fenter ac rydym wedi cytuno i gydweithio. Fel cyfranwyr Wicipedia, rydym yn awyddus bod unrhyw ddelweddau neu ffeilau sain sy'n cael eu casglu/creu a'r gael ar drwydded agored. Dyma sail y WiciBrosiect, ac rydym am geisio cydweithio drwy wneud y canlynol:
- Darparu ystod llawn o erthyglau cynhwysfawr yn ymwneud â phynciau sy'n gysylltiedig ag amaethyddiaeth yn Sir Ddinbych, drwy greu, ehangu a chynnal erthyglau am ddigwyddiadau, pobl, lleoliadau a gwrthrychau perthnasol.
- Elfen go fawr o Amgueddfa Atgofion yw casglu hen luniau a'r gobaith ydy y bydd modd uwchlwytho'r delweddau hyn i'r Comin. Gallwn gynorthwyo drwy gynnig cymorth a/neu gyngor wrth uwchlwytho a hefyd drwy sicrhau bod y lluniau yn cynnwys metadata cywir ac wedi eu categoreidido'n addas.
- O gael corff go dda o ddelweddau, gallwn wedyn gynnwys y rhain o fewn erthyglau perthnasol ar y Wicipedia Cymraeg, a thrwy hynny godi ymwybyddiaeth ein darllenwyr o'r Amgueddfa Atgofion.
- Mynychu sesiynau Hel Atgofion (isod)
- Gweler rhesr Tasgau islaw.
Cwmpas y prosiect
golyguErthyglau o fewn Categori:Sir Ddinbych, Categori:Amaeth ac Categori:Amaeth yng Nghymru ar y Wicipedia Cymraeg a delweddau o fewn y Category:Agriculture in Denbighshire ar y Comin.
Canllawiau
golyguAr gyfer gweld beth yw'r ymarfer da ar gyfer creu a golygu erthyglau, ewch at Wicipedia:Arddull.
Tasgau
golyguDyma restr o dasgau i'w cwblhau. Gellir trafod pob tasg mewn manylder ar y dudalen sgwrs.
Syniadau pellach am erthyglau
golyguDelweddau a ffeiliau sain
golyguEsiamplau
golyguDyma rai esiamplau o ddelweddau sydd eisoes wedi eu hychwanegu:
-
Defaid yn bwyta maip
-
Combeinio ar fferm Cantaba, Rhuthun
(Delwedd o'r Comin)
Manylion cyswllt Amgueddfa Atgofion
golygu- Enw'r Swyddog:
- Rhif ffôn:
- e-bost
Aelodau WiciBrosiect Amgueddfa Atgofion
golyguDyma restr o gyfranwyr ar y prosiect. Mae croeso i chi ychwanegu eich henw at y rhestr.
(Mae'r rhestr yma ar gyfer cyfranu at y WiciBroseict. Os ydych am wybod mwy am brosiect Amgueddfa Atgofion ei hun, cysylltwch gyda'r swyddog ar y manylion uchod.)
- --Ben Bore (sgwrs) 12:10, 22 Tachwedd 2012 (UTC) Am geisio tynnu lluniau o hen offer ar ffermydd y teulu yn yr ardal.
- -- Llywelyn2000 (sgwrs) 11:59, 26 Mawrth 2013 (UTC)