Deiniolen (sant)
sant Cymreig o'r 6ed ganrif
Sant o Gymro oedd Deiniolen (fl. diwedd y 6g a dechrau'r 7g). Roedd yn fab i Sant Deiniol, nawddsant dinas Bangor, ac am hynny'n cael ei alw'n Ddeiniolfab neu Ddeiniol Fab yn ogystal. Roedd yn ŵyr i Sant Dunawd. Dethlir ei ddydd gŵyl ar 22 Tachwedd, yn flynyddol.
Deiniolen | |
---|---|
Ganwyd | 6 g ![]() Bangor ![]() |
Man preswyl | Bangor-is-y-coed ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Blodeuodd | 600 ![]() |
Dydd gŵyl | 22 Tachwedd ![]() |
Tad | Deiniol ![]() |
Bywgraffiad golygu
Dywedir iddo fod yn fynach ym mynachlog Bangor-is-y-coed ond gorfu iddo ffoi oddi yno ar ôl Brwydr Caer (tua 613). Daeth i ardal Bangor a sefydlodd gell ac eglwys yn Llanddeiniolen. Roedd ffynnon ger yr eglwys a elwid yn Ffynnon Ddeiniolen, ffynnon a oedd yn iachau cleifydau ac anhwylderau.
Ceir Llanddeiniol Fab ar Ynys Môn hefyd, ger Llanidan.