Bangor-is-y-coed

pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam

Pentref hanesyddol a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Bangor-is-y-coed("Cymorth – Sain" ynganiad ), hefyd Bangor Is-coed[1] (Saesneg: Bangor-on-Dee).[2] Saif ar Afon Dyfrdwy. Mae cae rasio ceffylau i'r de-orllewin o'r pentref.

Bangor-is-y-coed
Pont Bangor-is-y-coed dros y Ddyfrdwy a'r eglwys leol
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,110, 1,100 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd851.81 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0035°N 2.9112°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000215 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ388454 Edit this on Wikidata
Cod postLL11 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruKen Skates (Llafur)
AS/au y DUAndrew Ranger (Llafur)
Map
Gweler hefyd Bangor (gwahaniaethu).

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Andrew Ranger (Llafur).[3][4]

Mynachlog Bangor is y Coed

golygu

Roedd clas (mynachlog) Bangor is y Coed yn ganolfan crefydd a dysg pwysig iawn yn hanes cynnar Cymru a'r Brydain Geltaidd. Yn ôl traddodiad sefydlwyd y fynachlog enwog gan y sant Dunawd yn y 6g, gyda'i feibion Deiniol Wyn (nawddsant Bangor yng Ngwynedd), Cynwyl a Gwarthan. Roedd y sant wedi ffoi o'r Hen Ogledd a chafodd heddwch a lloches ar lannau Afon Dyfrdwy ac felly penderfynodd sefydlu mynachlog yno. Daeth yn ganolfan bwysicaf cantref Maelor (a chwmwd Maelor Gymraeg yn ddiweddarach).

Yn ôl yr hanesydd o Sais Beda, cafodd Bangor is y Coed ei dinistrio gan y Saeson yn sgîl Brwydr Caer (tua 615 neu 616). Roedd carfan gref o'r mynachod wedi cymryd rhan yn y frwydr ei hun ond collwyd y dydd i luoedd y brenin Aethelfrith o Ddeira (Northumbria heddiw) a chollodd 1200 o'r mynachod eu bywydau.

Does dim olion o'r fynachlog i'w gweld yno heddiw.

Y pentref

golygu

Mae pont pump bwa, Pont Bangor-is-y-coed sy'n dyddio o tua 1660 yn rhychwantu Afon Dyfrdwy yn y pentref; credir iddo gael ei chodi gan y pensaer enwog Inigo Jones.

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Bangor-is-y-coed (pob oed) (1,110)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Bangor-is-y-coed) (108)
  
9.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Bangor-is-y-coed) (605)
  
54.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Bangor-is-y-coed) (200)
  
39.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 16 Tachwedd 2021
  3. Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]