MaBrigyn bychan a thenau o bren, plastig, bambŵ, metal, asgwrn neu sylwedd arall gydag o leiaf un pen miniog i'w osod rhwng y dannedd i dynnu detritws, fel arfer ar ôl pryd o fwyd, yw deintbig. Mae deintbigau hefyd yn cael eu defnyddio ar achlysuron o ddathlu i ddal darnau bach o fwyd (fel ciwbiau caws neu olewydd) neu fel ffon goctel, a gall gael ei addurno gyda ffriliau plastig, ymbarelau papur bychain neu faneri.[1] Mae deintbig weithiau yn cael ei osod yn y geg fel rhyw fath o degan neu addurn. Byddai'r pêl-droediwr o Gymru Billy Meredith yn aml yn chwarae gyda deintbig yn ei geg.

Deintbigau pren
Deinrbig bambŵ

Mae deintbigau i'w cael ymhob diwylliant. Fel yr offeryn hynaf ar gyfer golchi'r dannedd, mae'r deintbig yn rhagflaenu homo sapiens; mae olion o bigo dannedd ar benglogau Neanderthalau hefyd. Mae deintbigau o efydd wedi'u darganfod mewn beddau cynhanesyddol yng ngogledd yr Eidal ac yn Nwyrain yr Alpau. Yn 1986, daeth ymchwilwyr yn Florida o hyd i olion Americaniaid Brodorol a oedd yn byw 7,500 o flynyddoedd yn ôl, a chanfod rhychau bychain rhwng eu dannedd.[2]

Mae enghreifftiau o ddeintbigau o gyfnod y Rhufeiniaid a wnaed o arian yn ogystal â phren mastig.

Yn y 17g, roedd deintbigau yn cael eu hystyriedd yn wrthrychau moethus ac, fel tlysau, yn cael eu addurno a'u steilio gyda metelau prin a cherrig gwerthfawr.

Cafodd y peiriant cyntaf oedd yn cynhyrchu deintbigau ei ddatblygu yn 1869 gan Marc Signorello. Gosodwyd patent ar un arall yn 1872, gan Silas Noble a J. P. Cooley.[3]

Erbyn diwedd y 20g, roedd dulliau eraill o lanhau dannedd yn cael eu ffafrio, fel brwsh neu edau dannedd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "The Marketing Genius Who Brought Us the Toothpick." Slate Magazine. N.p., n.d. Web. 23 Nov. 2012. <http://www.slate.com/articles/business_and_tech/design/2007/10/stick_figure.single.html>.
  2. (AP) (06/22/1986). "Dentistry as practiced 5510 B.C.". Toronto Star.
  3. Mary Bellis. "History of the Toothbrush and Toothpaste". About.com Money.[dolen farw]