Deintgig
Mae'r deintgig neu gingiva (lluosog: gingivae), yn cynnwys meinwe mucosaidd sy'n gorwedd dros y gên (mandibl) ac asgwrn yr ên (macsila) y tu fewn i'r geg. Mae iechyd a chlefyd deintgig yn gallu cael effaith ar iechyd cyffredinol yr unigolyn.[1]
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | animal structure ![]() |
Math | organ zone ![]() |
Rhan o | gên ![]() |
![]() |
Nodweddion deintgig iachGolygu
LliwGolygu
Fel arfer, mae gan ddeintgig iach liw sydd wedi'i ddisgrifio fel "pinc cwrel." Mae lliwiau eraill fel coch, gwyn, a glas yn gallu bod yn arwydd o enyniad (gingivitis) neu batholeg. Er bod yn lliw yn cael ei ddisgrifio fel pinc cwrel, mae amrywiaeth yn y lliw yn bosibl. Gall hyn fod o ganlyniad i ffactorau fel: trwch a mesur keratineiddiad yr epitheliwm, llif y gwaed i'r deintgig, pigmentiad naturiol, clefyd a meddyginiaethau.[2]
Gan fod lliw y deintgig yn gallu amrywio, mae cysondeb lliw yn bwysicach na'r lliw ei hun. Gall gormodedd o melanin achosi sbotiau neu glytiau tywyll ar y deintgig.
AmlinelliadGolygu
Mae deintgig iach yn edrych yn llyfn ac yn grwm neu sgolpiog ar bob dant. Mae deintgig iach yn llenwi a ffitio i bob bwlch rhwng y dannedd, yn wahanol i'r papila chwyddedig a welir mewn gingivitis neu'r agorfa gwag rhwng y dannedd a welir mewn clefyd amddanheddol. Mae deintgig iach yn glynu'n dynn wrth bob dant, yn teneuo wrth ddringo, tra bod ymylon deintgig llidiog, ar y llaw arall, yn ymddangos wedi "rowlio" neu wedi chwyddo.
GweadGolygu
Mae gan ddeintgig iach wead cadarn sy'n gwrthsefyll symudiad, ac mae'r gwead ar yr arwyneb yn aml yn arddangos dotweithio arwynebol, tebyg i groen oren. Mae deintgig afiach, ar y llaw arall, yn aml wedi chwyddo ac yn llai gwydn.
Ymateb i gynnwrfGolygu
Nid yw deintgig iach yn ymateb i gynnwrf arferol fel brwsio neu chwilota amddanheddol. Bydd deintgig afiach yn gwaedu neu'n diferu'n grawnllyd.
Gweler hefydGolygu
CyfeirnodauGolygu
- ↑ Gum disease opens up the body to a host of infections 6 Ebrill 2016 Science News
- ↑ Mosby's Medical Dictionary, 8th edition. 2009, Elsevier.