Llid y deintgig
Mae llid y deintgig neu gingivitis yn glefyd anninistriol sy'n digwydd o amgylch y dannedd. Mae'r ffurf fwyaf cyffredin o gingivitis, a'r ffurf fwyaf cyffredin o glefyd amddanheddol ar y cyfan, yn ymateb i bioffilmiau bacterol (a elwir hefyd yn plac) sy'n glynu i arwynebau dannedd, ac yn cael ei alw'n gingivitis a ysgogir gan blac.
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o glefyd, symptom neu arwydd |
---|---|
Math | symptom, gingival disease, periodontitis, clefyd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Nid yw rhai achosion o gingivitis yn arwain yn periodontitis, ond mae data yn dangos bod periodontitis bob amser yn cael ei ragflaenu gan gingivitis.
Mae modd gwrthdroi gingivitis gyda safon dda o hylendid geneuol, ond, heb ei drin, gall gingivitis arwain at periodontitis, ble mae'r enyniad y deintgig yn achosi i feinwe gael ei ddinistrio ac atsugniad yr asgwrn o amgylch y dannedd. Gall periodontitis arwain yn y pen draw at golli dannedd. Ystyr y term yw "enyniad meinwe'r deintgig".
Arwyddion a symptomau
golyguMae symptomau llid y deintgig braidd yn amhenodol ac i'w gweld ym meinwe'r deintgig fel arwyddion nodweddiadol o enyniad:
- Deintgig wedi chwyddo
- Deintgig porffor neu goch llachar
- Deintgig sy'n ddolurus neu boenus i'w cyffwrdd
- Deintgig yn gwaedu neu'n gwaedu ar ôl eu brwsio a/neu drin gydag edau dannedd
- Anadl ddrwg (halitosis)
Yn ogystal, bydd y dotweithio sydd fel arfer yn bodoli ym meinwe deintgig rhai unigolion fel arfer yn diflannu a bydd y deintgig yn ymddangos yn sgleiniog ac wedi'i or-ymestyn dros y meinwe cysylltiol sy'n llidus. Gall y casgliad hefyd ryddhau arogl amhleserus. Pan mae'r deingig wedi chwyddo, mae'r the leinin epithelaidd yn yf hollt deintgigol yn troi'n friwiog a bydd y deintgig yn gweadu yn haws hyd yn oed gyda brwsio ysgafn, ac yn arbennig pan yn defnyddio edau dannedd.
Ffactorau risg
golyguMae'r ffactorau risg sy'n cael eu cysylltu a chlefyd y deintgig yn cynnwys y canlynol:
- oedran
- osteoporosis
- defnydd isel o ofal deintyddol (ofn, pwysau ariannol, ayb.)
- safon isel o hylendid geneuol
- gor-frwsio'r dannedd neu ddefnyddio brws sy'n rhy galed
- anadlu trwy'r geg pan yn cysgu
- meddyginiaethau sy'n sychu'r geg
- ysmygu
- ffactorau genetig
- cyflyrau sy'n bodoli eisoes