Deir al-Balah
Dinas yng nghanol Llain Gaza, Palesteina, sy'n brifddinas y dalaith o'r un enw yw Deir al-Balah (hefyd: Deir el-Balah neu Dayr al-Balah (Arabeg: دير البلح). Yn 2006 roedd ganddi boblogaeth o 49,751. Mae'n gorwedd rhwng dinas Gaza i'r gogledd a Khan Yunis i'r de. Ceir traethau i'r gorllewin ar lan y Môr Canoldir a thyfir palmwydd datys yn y llannerchau.
Math | dinas |
---|---|
Poblogaeth | 49,751 |
Pennaeth llywodraeth | Ahmad Kurd |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llywodraethiaeth Deir al-Balah, Llain Gaza, Gaza Subdistrict |
Gwlad | Gwladwriaeth Palesteina |
Arwynebedd | 14.7 km² |
Uwch y môr | 0 metr |
Cyfesurynnau | 31.42°N 34.35°E |
Pennaeth y Llywodraeth | Ahmad Kurd |
Mae'n safle hynafol. Darganfuwyd mynwent sy'n dyddio o Oes yr Efydd yno. Sefydlwyd mynachlog yn Deir al-Balah gan y Santes Helena o Gaergystennin yn 372 OC. Bu ym meddiant y Croesgadwyr a chafodd ei chipio oddi wrthynt gan Saladin.
Heddiw mae Deir el-Balah yn un o gadarnleoedd y mudiad Hamas. sy'n rheoli Llain Gaza, gyda 13 allan o'r 15 sedd ar gyngor y ddinas. Aelod o Hamas, Ahmad Kurd yw'r maer ers Ionawr 2005. Ceir gwersyll ffoaduriaid yn y ddinas. Mae'r ddinas wedi dioddef o sawl ymosodiad gan Israel ers yr Intifada Al-Aqsa yn 2001.
Rhyfel 2008-2009
golyguAr y 5ed o Ionawr 2009, adroddwyd fod llongau rhyfel Israel wedi saethu ar Deir al-Balah gan ladd tua deg o bobl.
Dolen allanol
golygu- (Saesneg) Gwersyll ffoaduriaid Deir al-Balah ar wefan UNRWA