Asiantaeth o'r Cenhedloedd Unedig yn y Lefant a sefydlwyd er mwyn rhoi cymorth i'r ffoaduriaid Palesteiniaid yn Llain Gaza, Y Lan Orllewinol, Gwlad Iorddonen, Libanus a Syria yw UNRWA (Cymraeg [answyddogol]: 'Yr Asiantaeth dros Gymorth a Gwaith i Ffoaduriaid Palesteinaidd yn y Dwyrain Agos'; Saesneg: UNRWA - United Nations Relief and Works Agency for Palestine Refugees in the Near East; Ffrangeg: L'Office de secours et de travaux des Nations unies pour les réfugiés de Palestine dans le Proche-Orient). Ei amcan yw ymateb i angenreidiau y ffoaduriaid hynny mewn meysydd fel iechyd, addysg, cymorth dyngarol a gwasanaethau cymdeithasol. Mae gan yr asiantaeth cyfrifoldeb i ofalu am dros 4.6 miliwn o ffoaduriaid Palesteinaidd yn y Dwyrain Canol. John Ging yw pennaeth presennol UNRWA.

UNRWA
Enghraifft o'r canlynolsefydliad a sefydlwyd gan y Cenhedloedd Unedig, aid agency, sefydliad rhyngwladol, sefydliad rhynglywodraethol Edit this on Wikidata
Rhan osystem y Cenhedloedd Unedig Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1949 Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadCommissioner-General for United Nations Relief and Works Agency for Palestine Refugees in the Near East Edit this on Wikidata
PencadlysAmman Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.unrwa.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Creuwyd UNRWA ar ddiwedd y Rhyfel Arabaidd-Israelaidd cyntaf yn 1948 dan Benderfyniad 302 (IV) Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig a basiwyd ar yr 8fed o Ragfyr 1949. Mae mandad UNRWA, a oedd i fod yn un dros dro yn unig yn wreiddiol, wedi cael ei adnewyddu sawl gwaith ers hynny gan Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.

John Ging, pennaeth UNRWA, yn siarad a'r wasg un o'r ysgol a fomiwyd gan yr IDF yn Gaza.

Mae gwaith UNRWA wedi bod yn arbennig o bwysig yn y gwersylloedd ffoaduriaid Palesteinaidd lle mae'r asiantaeth yn rhedeg nifer o ysgolion a gwasanaethau hanfodol eraill. Mae ganddi staff o 29,000, y rhan fwyaf ohonynt yn ffoaduriaid eu hunain, sy'n gweithio fel athrawon, meddygon, nyrsus a gweithwyr cymdeithasol yn y cymunedau neu'n helpu trefnu gwaith yr asiantaeth, sy'n golygu mai UNRWA yw asiantaeth fwyaf y Cenhedloedd Unedig yn y Dwyrain Canol.

Oherwydd ei safiad dros hawliau'r Palesteiniaid mae UNRWA wedi cael ei beirniadu gan rai llywodraethau yn y gorffennol. Ychydig iawn o arian caiff yr asiantaeth gan yr Unol Daleithiau, er enghraifft, mewn cymhariaeth â'r cymorth ariannol caiff Israel gan lywodraeth y wlad honno.

Pan ddechreuodd Israel ymosod ar Lain Gaza, ddiwedd Ionawr 2008, datganodd Comisiynydd Cyffredinol UNRWA, Karen AbuZayd, ei harswyd am y distryw a'i thristwch dwfn am y bywydau a gollwyd. Galwodd ar lywodraeth Israel i atal ei bomio yn Gaza.[1]

Cyfeiriadau Golygu

  1. "Stop the killing in Gaza" Datganiad swyddogol gan UNRWA.

Dolenni allanol Golygu

Gweler hefyd Golygu