Delme - Hunangofiant Delme Thomas
Hunangofiant Delme Thomas ganddo ef ei hun ac Alun Gibbard yw Delme: Hunangofiant Delme Thomas a gyhoeddwyd yn 2013 gan Y Lolfa. Yn 2017 roedd y gyfrol mewn print.[1]
Awdur | Delme Thomas ac Alun Gibbard |
---|---|
Cyhoeddwr | Y Lolfa |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Argaeledd | ar gael |
ISBN | 9781847717245 |
Hunangofiant arwr Llanelli, Cymru a'r Llewod, Delme Thomas. Cyrhaeddodd y brig gyda'i glwb, ei wlad a'r Llewod dros gyfnod o 15 mlynedd o chwarae. Daeth ei enw'n adnabyddus ymhob cornel o'r byd rygbi, enw sy'n ennyn parch gan y rhai y bu'n chwarae gyda nhw ac yn eu herbyn. Mae'r parch hwnnw yn cael ei ddangos iddo hyd heddiw.
Mae Delme Thomas yn un o gymeriadau chwedlonol y byd rygbi. Yn gapten ar y Sgarlets yn eu buddugoliaeth yn erbyn Seland Newydd yn 1972, bu hefyd yn arwr i dîm Cymru yn ystod yr oes aur ac yn un o sêr y Llewod.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 27 Awst 2017.