Delme Thomas
Cyn-chwaraewr rygbi'r undeb o Gymru yw William Delme Thomas (ganed 12 Medi 1942 ym Mancyfelin, Sir Gaerfyrddin), a enillodd 25 o gapiau dros Gymru fel clo.
Delme Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 12 Medi 1942 Cymru |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Taldra | 191 centimetr |
Pwysau | 104 cilogram |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Llanelli, Y Barbariaid, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig |
Safle | Clo |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Ymunodd Delme Thomas a chlwb Llanelli yn 1961. Ef oedd capten Llanelli yn ystod eu tymor canmlwyddiant yn 1972-73, ac ef hefyd oedd capten Llanelli pan enillwyd y fuddugoliaeth enwog dros y Crysau Duon yn 1972. Cofir o hyd am ei araith emosiynol i'w gyd=chwaraewyr cyn y gêm yma.
Chwaraeodd i dim Ieuenctid Cymru yn ddeunaw oed, ac enillodd ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Awstralia yn 1967, a bu'n ddewis cyntaf fel clo hyd nes iddo ymddeol yn 1973. Chwaraeodd ran bwysig yn y tîm a gyflawnodd y Gamp Lawn yn 1971. Yn ei dymor olaf, ef oedd capten Cymru yn y gêm yn erbyn y Crysau Duon yng Nghaerdydd.
Aeth ar daith gyda'r Llewod Prydeinig dair gwaith, y tro cyntaf i Awstralia a Seland Newydd yn 1966, cyn iddo chwarae i Gymru. Chwaraeodd mewn dwy gêm brawf ar y daith yma, mewn dwy gêm brawf ar y daith i Dde Affrica yn 1968 a dwy arall ar y daith i Seland Newydd yn 1971.
Cyfeiriadau
golygu- Gareth Hughes, One hundred years of scarlet (Clwb Rygbi Llanelli, 1983)