Delme Bryn-Jones
Bariton o Gymru oedd Delme Bryn-Jones (ganwyd Delme Jones; 29 Mawrth 1934 – 25 Mai 2001).
Delme Bryn-Jones | |
---|---|
Ganwyd | Delme Jones 29 Mawrth 1934 Brynaman |
Bu farw | 25 Mai 2001 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr opera |
Arddull | opera |
Math o lais | bariton |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGanwyd Delme Jones ym Mrynaman, Sir Gaerfyrddin yn 1934.[1] Fe'i addysgwyd yn Ysgol Gynradd Brynaman a'n hwyrach yng Ngholeg Technegol Rhydaman.[2]
Yn weithiwr glo yn wreiddiol, gadawodd ei waith a'r cyfle i gael gyrfa ym myd rygbi, ble roedd yn chwarae'n rhyngwladol dan-21, i astudio cerddoriaeth. Astudiodd gyda Redvers Llewellyn ac yna yn y Guildhall School of Music and Drama ac yna aeth i'r Vienna Music Academy. Fel canwr proffesiynol cymerodd yr enw proffesiynol, "Bryn-Jones" (Bryn o'i fro enedigol). Perfformiodd yn broffesiynol am y tro cyntaf yn 1959 yn Theatr Sadler's Wells.
Gyrfa
golyguNid oedd siwrne Bryn-Jones i dai opera mawr y byd yn un confensiynol, gan iddo gyd-ddigwydd ag oes aur y byd opera Cymraeg. Bu'n perfformio gyda chwmniau opera mawr fel a ganlyn: Am y tro cyntaf gyda'r New Opera Company yn 1959 (The Sofa Maconchy). Cymerodd ran Macbeth gyda Gwyneth Jones gyda'r Cwmni Opera Cymreig yn 1963 tra hefyd yn perfformio am y tro cyntaf gyda Glyndebourne fel Nick yn The Rake's Progress. Gwnaeth ei berfformiad cyntaf yn Y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden yn 1963 ac yna eto yn 1965 gan ganu Paolo gyda Tito Gobbi yn chwarae rhan Boccanegra a blwyddyn yn ddiweddarach canodd ran Marcello yn opera Puccini La Boheme. Perfformiodd am y tro cyntaf yn yr Unol Daleithiau yn 1967 yn y San Francisco Opera fel Lescaut yn Manon a Donner yn Das Rheingold. Clywodd y Vienna State Opera amdano am y tro cyntaf yn 1969 fel Renato yn Un Ballo in Maschera gan Verdi.
Bu'n ymladd alcoholiaeth yn breifat. Yn ei flynyddoedd olaf, daeth yn Lywydd Cor Meibion Rushmoor Oddfellows o Aldershot, Hampshire, ac yn y flwyddyn 2000 mwynhaodd glodydd mawr am gyfres o ddosbarthiadau meistri a datganiadau radio yng Nghanada. Ymddangosodd Jones ar y teledu ac ar y radio gannoedd o weithiau yn cynnwys nifer o gyfresi teledu ei hunan, megis Y Gelli Aur (The Golden Grove; BBC Wales) a Delme (S4C). Bu'n actio hefyd, gan ymddangos fel Captain Cat yn Under Milk Wood, a Blind Dick Llewellyn yng nghynhyrchiad y BBC o Off to Philadelphia in the Morning gan Jack Jones.
Rolau dethol
golygu- Beethoven – Fidelio (Don Pizarro)
- Berlioz – La Damnation de Faust (Méphistophélès)
- Bizet – Les pêcheurs de perles (Zurga)
- Britten – A Midsummer Night's Dream (Demetrios)
- Cilea – Adriana Lecouvreur (Michonnet)
- Donizetti – Don Pasquale (Malatesta)
- Giordano – Andrea Chenier (Gerard)
- Gluck – Alceste (Hercule)
- Mascagni – Cavalleria Rusticana (Alfio)
- Mozart – Così fan tutte (Guglielmo)
- Mozart – Le nozze di Figaro (Almaviva)
- Mozart – Die Zauberflöte (Papageno, speaker)
- Puccini – Butterfly (Sharpless)
- Puccini – Il Tabarro (Michele)
- Verdi – Aida (Amonasro)
- Verdi – Falstaff (Ford)
- Verdi – Otello (Iago)
- Verdi – Rigoletto (rôl y teitl)
- Verdi – La traviata (G. Germont)
- Verdi - Nabucco (Rôl y teitl)
- Weber – Abu Hassan (Omar)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Davies, John; Jenkins, Nigel; Menna, Baines; Lynch, Peredur I., gol. (2008). The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales. Cardiff, UK: University of Wales Press. t. 95. ISBN 978-0-7083-1953-6.
- ↑ "Opera Singer: Delme Bryn-Jones". Ammanford Web Site. 2010. Cyrchwyd 28 December 2011.