Mae Nabucco; sy'n dalfyriad o'r enw Nabucodonosor (Cymraeg Beiblaidd: Nebuchodonosor [1]) yn opera Eidalaidd mewn pedwar act a gyfansoddwyd ym 1841 gan Giuseppe Verdi i libreto Eidalaidd gan Temistocle Solera.

Nabucco
Enghraifft o'r canlynolgwaith drama-gerdd, gwaith neu gyfansodiad cerddorol Edit this on Wikidata
Label brodorolNabucco Edit this on Wikidata
Gwladyr Eidal Edit this on Wikidata
IaithEidaleg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1841 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1841 Edit this on Wikidata
Genreopera Edit this on Wikidata
CymeriadauNabucco, Ismaele, Zaccaria, Abigaille, Fenena, Archoffeiriad Bel, Abdallo, Anna, Iddewon Edit this on Wikidata
Yn cynnwysVa, pensiero, D'Egitto là sui lidi Edit this on Wikidata
LibretyddTemistocle Solera Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afLa Scala Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af9 Mawrth 1842 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Enw brodorolNabucco Edit this on Wikidata
CyfansoddwrGiuseppe Verdi Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cefndir golygu

Mae'r libreto wedi ei seilio ar lyfrau Beiblaidd Jeremeia a Daniel a drama 1836 Auguste Anicet-Bourgeois a Francis Cornu. Mae addasiad bale Antonio Cortese o'r ddrama (gyda'i symleiddiadau angenrheidiol), a pherfformiwyd yn La Scala ym 1836, yn bwysicach ffynhonnell ar gyfer Solera na'r ddrama ei hun.[2] O dan ei enw gwreiddiol Nabucodonosor, perfformiwyd yr opera gyntaf yn La Scala ym Milan ar 9 Mawrth 1842. Perfformiwyd yr opera gyntaf ym Mhrydain yn Theatr Ei Mawrhydi, Llundain ar 3 Mawrth 1846 dan yr enw Nino, gan nad oedd darlunio cymeriadau beiblaidd ar y llwyfan fel adloniant poblogaidd yn cael ei ystyried yn briodol ar y pryd.

Y can mwyaf adnabyddus o'r opera yw "Cytgan y Caethweision Hebreig", "Va, pensiero, sull'ali dorate" / "Ehed, meddwl, ar adenydd aur". Wedi marwolaeth Verdi ymatebodd y dorf a oedd yn disgwyl ei gynhebrwng trwy ganu "Va, pensiero" yn ddigymell.[3]

Mae'r opera yn dilyn hynt yr Hebreaid wrth iddynt gael eu herlyn, eu gorchfygu a'u heithrio o'u famwlad gan y Brenin Babylonaidd Nabucco (Nebuchodonosor II). Defnyddir y digwyddiadau hanesyddol fel cefndir ar gyfer plot rhamantus a gwleidyddol.

Dylanwad Nabucco ar gerddoriaeth Cymru golygu

Ym 1861 enillodd Band Pres Cyfarthfa gystadleuaeth fawr y Plas Grisial gyda pherfformiad o'r agorawd i Nabucco, perfformiad a ganmolwyd yn frwd gan feirniaid papurau Llundain. Bu enill gwobr mor bwysig gan fand diwydiannol Cymreig yn sbardun enfawr i ddatblygiad seindyrf yn ardaloedd diwydiannol Cymru.[4]

Ym 1952 rhoddodd Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru'r perfformiad llawn cyntaf o Nabucco yng ngwledydd Prydain am gan mlynedd ym Mhafiliwn Gerddi Soffia [5]. Y perfformiad hwn fu'n gyfrifol am godi'r Cwmni o un amatur nodedig i un oedd yn sefyll allan o herwydd ansawdd ei safonau cerddorol[6] Cyflwynwyd fersiwn wedi ei osod mewn cyd-destun cyfoes gan Opera Cenedlaethol Cymru fel rhan o'u tymor 2013 – 2014[7]

Yn Eisteddfod Genedlaethol Môn 1983 cafwyd perfformiad corawl o Nabucco gan Gôr yr Eisteddfod, Gyda Dyfnallt Morgan yn darparu cyfieithiad o'r libreto i'r Gymraeg.[8]

Cymeriadau golygu

Rôl Llais Cast cyntaf,
9 Mawrth 1842
(Arweinyddr: Eugenio Cavallini)
Nabucco, Brenin Babilon bariton Giorgio Ronconi
Abigaille, ei ferch hynnaf tybedig soprano Giuseppina Strepponi
Fenena, ei ferch mezzo-soprano Giovannina Bellinzaghi
Ismaele, nai Brenin Jerusalem tenor Corrado Miraglia
Zaccaria, archoffeiriad yr Hebreaid bas Prosper Dérivis
Anna, chwaer Zaccaria soprano Teresa Ruggeri
Abdallo, Milwr ym myddin Babilon tenor Napoleone Marconi
Archoffeiriad y duw Bel bass Gaetano Rossi
Pobl, milwyr

Crynodeb golygu

Act I golygu

Golygfa: Jerwsalem yn y 6ed ganrif CC.

Teitl: Jerwsalem: Jeremeia 34:2 Wele fi yn rhoddi'r ddinas hon i law brenin Babilon, ac efe a’i llysg hi â thân [9][10]

Mae'r Hebreaid yn gweddïo am gymorth Duw yn erbyn Nabucco, brenin Babilon, sydd wedi ymosod arnynt ac yn distrywio dinas Jerwsalem. Mae Zaccaria, eu harchoffeiriad, yn ymddangos gyda Fenena, merch Nabucco, sydd wedi ei dal gan yr Hebreaid. Mae'n rhoi sicrwydd i'w bobl na fydd yr Arglwydd eu Duw yn troi ei gefn arnynt. Wrth i'r Hebreaid adael, mae Ismaele, nai Brenin Jerwsalem, yn cael ei adael ar ei ben ei hun gyda Fenena. Syrthiodd y ddau mewn cariad yn ystod carchariad Ismaele ym Mabilon. Roedd Fenena wedi cynorthwyo Ismaele i ddianc o'r carchar ac wedi ei ddilyn i Jerwsalem. Mae eu sgwrs yn cael ei amharu gan ymddangosiad sydyn hanner chwaer Fenena, Abigaille, a mintai o filwyr Babilon sydd wedi bod yn cuddio gerllaw. Mae Abigaille, sydd hefyd mewn cariad ag Ismaele, yn dweud wrtho y gall arbed ei bobl os bydd yn dychwelyd ei chariad, ond mae'n gwrthod. Mae'r Hebreaid yn rhuthro yn ôl i'r deml mewn panig. Mae Nabucco yn cyrraedd y deml gyda'i ryfelwyr, mae Zaccaria yn ei wynebu, gan fygwth lladd Fenena. Mae Ismaele yn diarfogi'r archoffeiriad ac yn rhoi Fenena yn ôl i'w thad. Mae Nabucco yn gorchymyn dinistrio'r deml.[11]

Act II golygu

Teitl: Yr un Annuwiol Jeremiah, 30:23 Wele gorwynt yr Arglwydd yn myned allan mewn dicter, corwynt parhaus; ar ben annuwiolion yr erys [12][13]

Golygfa 1 golygu

Y Palas Brenhinol ym Mabilon.

Mae Nabucco wedi penodi Fenena yn ddirprwy iddo a gwarcheidwad y carcharorion Hebreaidd wrth iddo barhau a'i ryfel yn erbyn Israel.

Mae Abigaille yn darganfod dogfen yn y palas sy'n profi nad yw hi'n ferch go iawn yw Nabucco, ond yn blentyn i gaethweision sydd wedi ei mabwysiadu gan y Brenin. Mae hi'n ddig efo Nabucco am beidio â chaniatáu iddi chwarae rhan yn y rhyfel yn erbyn yr Israeliaid ac yn cofio hapusrwydd y gorffennol. O ganfod ei bod hi'n blentyn mabwysiedig ac mae ei "chwaer" iau yw edling y goron mai hi'n ffieiddio at y syniad o Fenena ac Ismaele yn rheoli Babilon ac yn tyngu llw o ddial arnynt.

Mae archoffeiriad Bel, duw Babilon, yn rhoi gwybod i Abigaille bod Fenena wedi rhyddhau'r caethweision Hebreaidd. Fel cosb am frad Fenena mae'r archoffeiriad yn cynnig y goron i Abigaille ac i sicrhau ei choroni mae'n fwriad lledaenu si bod Nabucco wedi marw yn y rhyfel. Mae Abigaille yn derbyn y cynnig.[14]

Golygfa 2 golygu

Mewn rhan arall o'r palas mae Zaccaria yn gweddïo am y gallu i droi pobl Babilon oddi wrth eu ffug duwiau ac i droi at yr unig wir Dduw, Duw Israel. Mae am ddechrau ar y gwaith trwy fynd at Fenena i geisio ei thröedigaeth. Mae dau offeiriad Hebreaidd yn canfod Ismaele, sydd yn alltud wedi iddo ryddhau Fenena, ac am ei gosbi am ei frad. Mae Zaccaria yn rhoi maddeuant iddo, gan ei fod wedi achub bywyd cyd Hebread; sef Fenena sydd newydd dderbyn tröedigaeth.[15]

Mae'r hen gynghorydd palas oedrannus, Abdallo, yn rhuthro i mewn i ddweud wrth Fenena am yr adroddiadau am farwolaeth y brenin a'i rhybuddio bod ei bywyd mewn perygl. Cyn iddi gael cyfle i ddianc, mae archoffeiriad Bel, gan gael ei ddilyn gan Abigaille a thorf o Babiloniaid yn cyrraedd. Maent yn cyhoeddi Abigaille yn frenhines. Mae Abigaille yn gorchymyn trosglwyddo'r deyrnwialen frenhinol iddi, ond mae Fenena yn gwrthod ei ildio.[16]

Yn annisgwyl mae Nabucco yn dychwelyd. Mae'n cael gafael ar y goron ac yn cyhoeddi ei fod o bellach, nid yn unig yn frenin ar Fabilon, ond yn dduw Babilon hefyd. Mae Zaccaria yn ei felltithio ac yn ei rybuddio am ddial Dwyfol am ei gabledd. Mewn ymateb mae Nabucco yn gorchymyn lladd yr holl Hebreaid. Mae Fenena yn cyhoeddi ei bod hi wedi troi at grefydd yr Hebreaid a bod ei dedfryd yn ddedfryd o farwolaeth yn ei herbyn hi hefyd. Mae Nabucco yn gandryll ac yn ailadrodd ei honiad ei fod bellach yn dduw. Clywir trawiad o daranfollt ac mae Nabucco yn colli pob synnwyr. Mae'r goron yn syrthio oddi ar ei ben ac yn cael ei godi gan Abigaille, sy'n cyhoeddi mae hi yw pennaeth Babilon.[17]

Act III golygu

Teitl Y Proffwydoliaeth. Jeremeia 51:37 A bydd Babilon yn garneddau, yn drigfa dreigiau, yn syndra, ac yn chwibaniad, heb breswylydd[18][19]

Golygfa 1 golygu

Gerddi Crog Babilon

Mae Abigaille yn gwasanaethu fel Brenhines Babilon gydag archoffeiriad Bel fel ei ymgynghorydd. Yng Ngerddi Crog enwog Babilon, mae hi'n cael ei chymeradwyo a'i chanmol gan bobl Babilon. Daw'r archoffeiriad a gwarant marwolaeth iddi ar gyfer yr Hebreaid a'i chwaer, Fenena. Ar fin ei Cyn iddi allu gwneud unrhyw beth ag ef, mae ei thad, sydd bellach yn gragen o ddyn ffwndrus a gwallgof o ganlyniad i'w trawiad gan y daranfollt, yn gofyn am ei orsedd yn ôl. Mae Abigaille yn chwarddi at y syniad. Mae Nabucco yn ddweud wrthi nad oes ganddi hawl i fod yn frenhines, oherwydd cafodd ei eni i gaethweision a'i fabwysiadu yn ddiweddarach. Mae'n dweud bod ganddo brawf o hyn a'i fod am ei ddangos i bawb. Unwaith eto, mae hi'n chwerthin am ben ei thad truenus ac yn tynnu allan y dogfennau prawf gan eu rhwygo'n ddarnau. Mae Nabucco yn pledio am fywyd Fenena. Mae Abigaille yn colli amynedd ag ef ac yn ei orchymyn iddo adael.[20]

Golygfa 2 golygu

Ar lannau'r Afon Ewffrates

Ar lannau Afon Ewffrates, mae'r Hebreaid yn gorffwyso wedi diwrnod hir o lafur gorfodol. Maent yn canu eu can o hiraeth am eu mamwlad "Va, pensiero, sull'ali dorate" / "Ehed, meddwl, ar adenydd aur". Mae Zaccaria yn traddodi pregeth i'w hannog i gadw eu ffydd yn Nuw ac i gael cysur yn y sicrwydd y bydd Duw yn eu hachub.[21]

Act IV golygu

Teitl Y Ddelw Ddrylliedig. Jeremeia 50:2 Goresgynnwyd Babilon, gwaradwyddwyd Bel, drylliwyd Merodach: ei heilunod a gywilyddiwyd, a’i delwau a ddrylliwyd.[22][23] O ffenestr ei ystafell yn y palas, lle mae Abigaille wedi ei garcharu, mae Nabucco yn gwylio Fenena a'r Hebreaid yn cael eu harwain i'w marwolaeth. Yn llawn edifeirwch, mae'n gweddïo i Dduw Israel am faddeuant, gan addo i droi ei hun a'i bobl at wasanaeth Duw. Mae ei iechyd yn cael ei hadfer, mae'n gorfodi'r drws ar agor ac yn galw ar ei filwyr i adennill ei orsedd ac i achub ei ferch.[24]

Mae'r Hebreaid ar fin cael eu dienyddio. Mae Fenena yn gweddïo a'r i dduw ei dderbyn i'r Nef pan mae Nabucco yn rhuthro i mewn i'w cell ac yn atal y lladdfa. Mae Abigaille, yn llawn edifeirwch, yn cymryd gwenwyn ac yn marw, gan gyfaddef ei throseddau a gweddïo ar Dduw Israel i'w maddau. Mae Nabucco yn cyhoeddi ei dröedigaeth ac yn rhyddhau'r Hebreaid, gan ddweud wrthynt am ddychwelyd i'w tir brodorol ac ailadeiladu eu teml. Mae Hebreaid a Babiloniaid yn uno i ganmol Duw.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Beibl Cymraeg 1620 Jeremiah 21:2 adalwyd 28, Tachwedd, 2018
  2. Budden, Julian (1973), The Operas of Verdi, Vol. 1. London: Cassell Ltd, 1973. tud. 89–112. ISBN 0-304-31058-1
  3. Phillips-Matz, Mary Jane (1993), Verdi: A Biography. Tud:765; Efrog Newydd a Rhydychen: Oxford University Press ISBN 0-19-313204-4
  4. Cylchgrawn Hanes Cerddoriaeth Cymru Cyfrol 1 1996 Tud 104 Bandiau Cymreig y Cyfnod Fictoraidd Diweddar: Chwaeth, Pencampwriaeth ac Agweddau'r Cymmrodorion TREVOR HERBERT adalwyd 28 Tachwedd 2018
  5. Opera Cenedlaethol Cymru "Ein Hanes" adalwyd 28 Tachwedd 2018
  6. Welsh History Review Cyf 13 Tud 521 adolygiad o lyfr hanes yr Opera Cenedlaethol " WELSH NATIONAL OPERA gan Richard Fawkes[dolen marw] adalwyd 28 Tachwedd 2018
  7. OCC Pan drawir Nabucco â mellten mae’n cyhoeddi ei hun yn dduw adalwyd 28 Tachwedd 2018
  8. Rhaglen swyddogol Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Cymru Ynys Môn, Gorffennaf 30-Awst 6, 1983 Gwasg Gomer, dros Lys yr Eisteddfod Genedlaethol, 1983
  9. Beibl 1620 Jeremeia 34:2
  10. Fersiwn Beibl Net:"Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: 'Dw i'n mynd i roi'r ddinas yma yn nwylo brenin Babilon, a bydd yn ei llosgi'n ulw".
  11. Cwmni Opera Israel Nabucco - Synopsis adalwyd 30 Tachwedd 2018
  12. Beibl 1620 Jeremeia 30:23
  13. Fersiwn Beibl Net:
    Gwyliwch chi! Mae'r ARGLWYDD yn ddig.
    Mae'n dod fel storm,
    fel corwynt dinistriol fydd yn disgyn ar y rhai drwg
    .
  14. Synopsis of Verdi's Opera 'Nabucodonosor' - ThoughtCo adalwyd 30 Tachwedd 2018
  15. Intrigue in Babylon: Verdi's 'Nabucco' : NPR adalwyd 30 Tachwedd 2018
  16. Study Guide for Nabucco- Pittsburgh Opera adalwyd 30 Tachwedd 2018
  17. Nabucco, Giuseppe Verdi (synopsis) - Opera Arena Magazine[dolen marw] adalwyd 30 Tachwedd 2018
  18. Beibl 1620 Jeremeia 51:37
  19. Fersiwn Beibl Net:
    Bydd Babilon yn bentwr o rwbel,
    ac yn lle i siacaliaid fyw.
    Bydd pethau ofnadwy yn digwydd yno
    a bydd pobl yn chwibanu mewn rhyfeddod.
    Fydd neb yn byw yno.
  20. Nabucco - Productions - Royal Opera House Archifwyd 2018-11-16 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 30 Tachwedd 2018
  21. Opera Online - Nabucco, the First Patriotic Opera adalwyd 30 Tachwedd 2018
  22. Beibl 1620 Jeremeia50:2
  23. Fersiwn Beibl Net:
    Mae Babilon yn mynd i syrthio!
    Bydd y duw Bel yn cael ei gywilyddio!
    Bydd Merodach yn cael ei falu!
    Bydd eilun-dduwiau Babilon yn cael eu cywilyddio!
    Bydd ei delwau diwerth yn cael eu malu.
  24. Nabucco at Arena di Verona – synopsis Archifwyd 2017-06-09 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 30 Tachwedd 2018

Llyfryddiaeth golygu