Mae Falstaff yn opera mewn tair act gan y cyfansoddwr Eidalaidd Giuseppe Verdi. Addaswyd y libreto gan Arrigo Boito o ddramâu Shakespeare The merry Wives of Windsor a golygfeydd o Henry IV, rhannau 1 a 2 . Perfformiwyd y gwaith am y tro cyntaf ar 9 Chwefror 1893 yn La Scala, Milan.[1]

Falstaff
Delwedd:Poster falstaff1.jpg, Un piazzale, a destra l'esterno dell'Osteria della Giarrettiera, bozzetto di Adolf Hohenstein per Falstaff (1893) - Archivio Storico Ricordi ICON000166.jpg
Enghraifft o'r canlynolgwaith drama-gerdd Edit this on Wikidata
Label brodorolFalstaff Edit this on Wikidata
Gwladyr Eidal Edit this on Wikidata
IaithEidaleg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi19 g Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1889 Edit this on Wikidata
Genrecommedia lirica, opera Edit this on Wikidata
CymeriadauSir John Falstaff, Ford, Fenton, Dr Caius, Bardolfo, Pistola, Alice Ford, Nannetta, Mistress Quickly, Meg Page, Q55002671, Mine Host of the Garter Inn, Robin, Q63676130 Edit this on Wikidata
LibretyddArrigo Boito Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afLa Scala Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af9 Chwefror 1893 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Enw brodorolFalstaff Edit this on Wikidata
Hyd2.75 awr Edit this on Wikidata
CyfansoddwrGiuseppe Verdi Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cefndir golygu

Ysgrifennodd Verdi Falstaff, sef yr olaf o'i 28 opera, pan oedd yn agosáu at 80 mlwydd oed. Hon oedd ei ail gomedi, a'i drydydd gwaith seiliedig ar ddramâu Shakespeare, yn dilyn Macbeth ac Otello. Mae'r plot yn troi o amgylch ymdrechion ofer, weithiau ffarsig, y marchog tew, Syr John Falstaff, i hudo dwy fenyw briod i gael gafael ar gyfoeth eu gwŷr.[2]

Roedd Verdi yn poeni am weithio ar opera newydd yn ei benwynni, ond roedd yn dyheu am ysgrifennu gwaith comig ac roedd yn falch o libreto drafft Boito. Cymerodd dair blynedd o ganol 1889 i'r cydweithrediad cael ei gwblhau. Er bod y gobaith o opera newydd gan Verdi wedi ennyn diddordeb aruthrol yn yr Eidal a ledled y byd, ni phrofodd Falstaff i fod mor boblogaidd â gweithiau cynharach yng nghanon y cyfansoddwr. Ar ôl y perfformiadau cychwynnol yn yr Eidal, gwledydd Ewropeaidd eraill a'r UD, esgeuluswyd y gwaith nes i'r arweinydd Arturo Toscanini fynnu ei adfywiad yn La Scala a'r Opera Metropolitan yn Efrog Newydd o ddiwedd y 1890au.[3] Teimlai rhai bod y darn yn dioddef o ddiffyg alawon mawreddog fel cafwyd yn y gorau o operâu blaenorol Verdi, safbwynt roedd Toscannini yn anghytuno'n llwyr a hi. Ymhlith arweinyddion y genhedlaeth ar ôl Toscanini i hyrwyddo'r gwaith roedd Herbert von Karajan, Georg Solti a Leonard Bernstein . Mae'r gwaith bellach yn rhan o'r repertoire operatig rheolaidd.

Gwnaeth Verdi nifer o newidiadau i'r gerddoriaeth ar ôl y perfformiad cyntaf, ac mae golygyddion wedi ei chael hi'n anodd cytuno ar sgôr ddiffiniol. Recordiwyd y gwaith gyntaf ym 1932 ac wedi hynny mae wedi derbyn llawer o recordiadau stiwdio a byw. Ymhlith y cantorion sydd â chysylltiad agos â rôl y teitl mae Victor Maurel (y Falstaff cyntaf), Mariano Stabile, Giuseppe Valdengo, Tito Gobbi, Geraint Evans,[4] Bryn Terfel [5] ac Ambrogio Maestri .

Hanes perfformiad golygu

 
Verdi yn cyfarwyddo ymarferion Falstaff

Premieres golygu

Bu'r perfformiad cyntaf o Falstaff yn La Scala ym Milan ar 9 Chwefror 1893, bron i chwe blynedd ar ôl première blaenorol Verdi. Am y noson gyntaf, roedd prisiau tocynnau swyddogol ddeg ar hugain gwaith yn fwy na'r arfer. Bu aelodau teuluoedd brenhinol, pendefigion, beirniaid a ffigurau blaenllaw o'r celfyddydau ledled Ewrop yn bresennol.[6] Roedd y perfformiad yn llwyddiant ysgubol o dan faton Edoardo Mascheroni; galwyd am encore i nifer o'r caneuon, ac ar y diwedd parhaodd y gymeradwyaeth i Verdi a'r cast am awr. Dilynwyd hynny gan groeso cythryblus pan gyrhaeddodd y cyfansoddwr, ei wraig a Boito y Grand Hotel de Milan.

Dros y ddau fis nesaf rhoddwyd dau berfformiad ar hugain i'r gwaith ym Milan ac yna aethpwyd ag ef gan y cwmni gwreiddiol, dan arweiniad Maurel, i Genoa, Rhufain, Fenis, Trieste, Fienna a, heb Maurel, i Berlin.[7] Gadawodd Verdi a'i wraig Milan ar 2 Mawrth; Anogodd Ricordi y cyfansoddwr iddo fynd i'r perfformiad arfaethedig yn Rhufain ar 14 Ebrill, i gynnal y momentwm a'r cyffro roedd yr opera wedi'i greu. Roedd Verdi a'i wraig ynghyd â Boito a Giulio Ricordi, yn bresennol gyda'r Brenin Umberto I a ffigurau brenhinol a gwleidyddol mawr eraill y dydd. Cyflwynodd y brenin Verdi i'r gynulleidfa o'r Bocs Brenhinol i ganmoliaeth fawr.[8]

 
Poster ar gyfer première Paris 1894, gan Adolfo Hohenstein .

Roedd y perfformiadau cyntaf y tu allan i Deyrnas yr Eidal yn Trieste a Fienna, ym mis Mai 1893.[9] Rhoddwyd y gwaith yn yr America ac ar draws Ewrop. Chwaraeodd Antonio Scotti rôl y teitl yn Buenos Aires ym mis Gorffennaf 1893; Arweiniodd Gustav Mahler yr opera yn Hamburg ym mis Ionawr 1894; cyflwynwyd cyfieithiad Rwsieg yn St Petersburg yn yr un mis. Roedd llawer yn ystyried Paris fel prifddinas operatig Ewrop, ac ar gyfer y cynhyrchiad yno ym mis Ebrill 1894 gwnaeth Boito, a oedd yn rhugl yn y Ffrangeg, ei gyfieithiad ei hun gyda chymorth y bardd o Baris Paul Solanges.[10] Roedd première Llundain, a ganwyd yn Eidaleg, yn Covent Garden ar 19 Mai 1894. Yr arweinydd oedd Mancinelli, ac ailadroddodd Zilli a Pini Corsi eu rolau gwreiddiol. Canwyd Falstaff gan Arturo Pessina. Chwaraeodd Maurel y rôl yn Covent Garden y tymor canlynol.[11] Ar 4 Chwefror 1895 cyflwynwyd y gwaith gyntaf yn y Metropolitan Opera, Efrog Newydd;[12] Arweiniodd Mancinelli ac roedd y cast yn cynnwys Maurel fel Falstaff, Emma Eames fel Alice, Zélie de Lussan fel Nannetta a Sofia Scalchi fel y Meistres Quickly.[13]

Rolau golygu

 
"Falstaff" mewn bil chwarae theatr, wedi'i gadw yn Llyfrgell Ddinesig Trento
Rôl Math o lais Cast premiere, 9 Chwefror 1893 [14]( Arweinydd: Edoardo Mascheroni ) [15]
Syr John Falstaff, marchog tew bas-bariton Victor Maurel
Ford, dyn cyfoethog bariton Antonio Pini-Corsi
Alice Ford, ei wraig soprano Emma Zilli
Nannetta, eu merch soprano Adelina Stehle
Meg Page mezzo-soprano Virginia Guerrini
Meistres Quickly contralto Giuseppina Pasqua
Fenton, un o gariadfeibion Nannetta tenor Edoardo Garbin
Dr Caius tenor Giovanni Paroli
Bardolfo, un o ddilynwyr Falstaff tenor Paolo Pelagalli-Rossetti
Pistola, un o ddilynwyr Falstaff bas Vittorio Arimondi
Tafarnwr y Garter dof Attilio Pulcini
Robin, macwy Falstaff dof
Corws o bobl y dref, gweision Ford, a dawnswyr wedi'u gwisgo fel tylwyth teg ac ati.

Crynodeb golygu

Amser: Teyrnasiad Harri IV, 1399 i 1413 [16]
Lle: Windsor, Lloegr

Act 1 golygu

 
Ambrogio Maestri fel Falstaff yng nghynhyrchiad Opera Wladol Fienna 2016, wedi'i gyfarwyddo gan David McVicar, dan arweiniad Zubin Mehta .

Ystafell yn Nhafarn y Garter [17]

Mae Falstaff a'i weision, Bardolfo a Pistola, yn yfed yn y dafarn. Mae Dr Caius yn byrstio i mewn ac yn cyhuddo Falstaff ofyrglera ei dŷ a Bardolfo o bigo'i boced. Mae Falstaff yn chwerthin am ei ben; mae'n gadael, gan addo mynd i yfed gyda chymdeithion gonest, sobr yn unig yn y dyfodol. Pan fydd y tafarnwr yn cyflwyno bil am y gwin, mae Falstaff yn dweud wrth Bardolfo a Pistola fod angen mwy o arian arno, ac mae'n bwriadu ei gael trwy hudo gwragedd dau ddyn cyfoethog, un ohonynt yw Ford. Mae Falstaff yn rhoi llythyr cariad i Bardolfo i un o'r gwragedd (Alice Ford), ac yn rhoi llythyr union yr un fath i Pistola wedi'i gyfeirio at y llall (Meg). Mae Bardolfo a Pistola yn gwrthod danfon y llythyrau, gan honni bod anrhydedd yn eu hatal rhag ufuddhau iddo. Mae Falstaff yn colli ei dymer ac yn rhefru arnyn nhw, gan ddweud nad yw "anrhydedd" yn ddim ond gair, heb unrhyw ystyr. Mae'n eu herlid allan o'i olwg gan ddefnyddio ysgub.

Gardd Ford

Mae Alice a Meg wedi derbyn llythyrau Falstaff. O'u cymharu, maent yn gweld eu bod yn union yr un fath ac, ynghyd â Meistres Quickly a Nannetta Ford, yn penderfynu cosbi Falstaff. Yn y cyfamser, mae Bardolfo a Pistola yn rhybuddio Ford o gynllun Falstaff. Mae Ford yn penderfynu cuddio ei hun ac ymweld â Falstaff i osod trap iddo.

Mae gŵr ifanc, golygus o'r enw Fenton mewn cariad â merch Ford, Nannetta, ond mae Ford eisiau iddi briodi Dr Caius, sy'n gyfoethog ac yn uchel ei barch. Mae Fenton a Nannetta yn mwynhau eiliad o breifatrwydd, ond mae Alice, Meg a Meistres Quickly yn dychwelyd. Daw'r act i ben gydag ensemble lle mae'r menywod yn cynllunio dial ar Falstaff a'r dynion yn creu cynllun tebyg. Mae'r menywod yn meddwl chware tric doniol arno, tra bod y dynion yn ddig ac yn bygwth pob math o erledigaeth enbyd.

Act 2 golygu

Ystafell yn Nhafarn y Garter

Mae Falstaff ar ei ben ei hun yn y dafarn. Mae Bardolfo a Pistola, sydd bellach yng nghyflog Ford, yn mynd i mewn ac yn erfyn ar Falstaff i ganiatáu iddynt ailymuno â'i wasanaeth, gan gynllunio'n gyfrinachol i sbïo arno ar ran Ford. Mae'r Feistres Quickly yn cyrraedd ac yn dweud wrtho fod Alice mewn cariad ag ef ac y bydd ar ei phen ei hun yng nghartref Ford y prynhawn hwnnw, o ddau o'r gloch tan dri o'r gloch. Digon o amser ar gyfer dipyn o fflyrtian nwydus. Mae Falstaff yn dathlu'r posibilrwydd o lwyddiant i'w cynllun.

Mae Ford yn cyrraedd, wedi ffugwisgo fel dieithryn cyfoethog, gan ddefnyddio'r ffugenw "Signor Fontana". Mae'n dweud wrth Falstaff ei fod mewn cariad ag Alice, ond mae hi'n rhy rinweddol i ymateb. Mae'n cynnig talu Falstaff i ddefnyddio ei deitl mawreddog a'i swyn (honedig) i'w hudo i ffwrdd o'i hargyhoeddiadau rhinweddol, wedi hynny hwyrach bydd ganddo ef ("Fontana") well siawns o'i hudo. Mae Falstaff yn cytuno, wrth ei fodd gyda'r gobaith o gael ei dalu i hudo fenyw gyfoethog a hardd. Mae'n datgelu bod ganddo eisoes drefniant i gyfarfod gydag Alice am ddau o'r gloch - yr awr pan fydd Ford bob amser yn absennol o'i gartref. Mae Ford yn cael ei lenwi â chenfigen, ond mae'n cuddio ei deimladau. Mae Falstaff yn mynd i'w ystafell breifat i newid i'w ddillad gorau, ac mae Ford, ar ei ben ei hun, yn myfyrio ar ddrwg priodas ansicr ac yn addo cael dial. Pan fydd Falstaff yn dychwelyd yn ei wisg crand, maent yn gadael gyda'u gilydd gan gwneud arddangosiadau cywrain o gwrteisi cilyddol.

Ystafell yn nhŷ Ford

Mae'r tair merch yn cynllwynio eu strategaeth. Mae Alice yn sylwi bod Nannetta yn rhy anhapus ac yn anfodlon i rannu eu disgwyliad am hwyl. Mae hyn oherwydd bod Ford yn bwriadu ei phriodi â Dr Caius, dyn sy'n ddigon hen i fod yn daid iddi. Mae'r menywod yn ei sicrhau y byddant yn ei atal. Mae Meistres Quickly yn cyhoeddi dyfodiad Falstaff. Mae gan y Feistres Ford fasged golchi dillad mawr a sgrin wedi'i gosod yn barod. Mae Falstaff yn ceisio hudo Alice gyda straeon am ei ieuenctid a hanesion am ei gyn gorchestion arwrol. Mae'r Feistres Quickly yn rhuthro i mewn, gan weiddi bod Ford wedi dychwelyd adref yn annisgwyl gyda gosgorddlu o hengsmyn i ddal cariad ei wraig. Mae Falstaff yn cuddio gyntaf y tu ôl i'r sgrin, ond mae'n sylweddoli y bydd Ford yn debygol o chwilio amdano yno. Mae'r menywod yn ei annog i guddio yn y fasged golchi dillad, ac mae'n gwneud hynny. Yn y cyfamser mae Fenton a Nannetta yn cuddio y tu ôl i'r sgrin am eiliad arall o breifatrwydd. Mae Ford a'i ddynion yn stormio i mewn ac yn chwilio am Falstaff, ac yn clywed sŵn Fenton a Nannetta yn cusanu y tu ôl i'r sgrin. Maen nhw'n tybio mai Falstaff sydd yno gydag Alice, ond yn lle hynny maen nhw'n dod o hyd i'r cariadon ifanc. Mae Ford yn gorchymyn i Fenton adael. Yn gyfyng iawn o le a bron yn mygu yn y hamper golchi dillad, mae Falstaff yn cwyno am ei ddiffyg cysur tra bod y dynion yn ailddechrau chwilio’r tŷ. Mae Alice yn gorchymyn i’w gweision daflu’r fasged golchi dillad drwy’r ffenestr i mewn i Afon Tafwys, lle mae Falstaff yn dioddef gwawdiau’r dorf. Mae Ford, gan weld nad oedd Alice erioed wedi bwriadu ei fradychu, yn gwenu'n hapus.

Act 3 golygu

O flaen y dafarn

Mae Falstaff, yn oer a digalonni, yn melltithio cyflwr truenus y byd. Mae llymiad o win cynnes yn gwella ei hwyliau. Mae'r Feistres Quickley yn cyrraedd gan gyflwyno gwahoddiad arall i Falstaf cael cwrdd ag Alice. Ar y dechrau nid yw Falstaff eisiau gwneud dim ag ef, ond mae hi'n ei berswadio. Bydd yn cwrdd ag Alice am hanner nos ger Derwen Herne ym Mharc Mawr Windsor wedi gwisgo fel ysbryd Herne yr Heliwr sydd, yn ôl ofergoeledd lleol, yn aflonyddu ar yr ardal ger y goeden, ac yn ymddangos yno am hanner nos gyda band o ysbrydion goruwchnaturiol. Mae ef a'r Feistres Quickly yn mynd y tu mewn i'r dafarn. Mae Ford wedi sylweddoli ei gam o amau ei wraig o anffyddlondeb, ac maen nhw a'u cynghreiriaid yn gwylio'n gyfrinachol er mwyn dial ar Falstaff. Wedi gwisgo fel creaduriaid goruwchnaturiol, byddant yn rhuthro arno a'i boenydio am hanner nos. Mae Ford yn tynnu Dr. Caius o’r neilltu ac yn cynnig cynllwyn ar wahân iddo briodi â Nannetta. Bydd Nannetta yn cael ei guddwisgo fel Brenhines y Tylwyth Teg, bydd Caius yn gwisgo gwisg mynach, a bydd Ford yn ymuno â’r ddau ohonynt i roi bendith iddynt priodi. Mae'r Feistres Quickly yn clywed y ddau yn cynllwynio ac yn addunedu'n dawel i'w rwystro.

Derwen Herne ym Mharc Windsor am hanner nos yng ngolau'r lleuad

Mae Fenton yn cyrraedd y dderwen ac yn canu am ei hapusrwydd. Mae Nannetta yn ymuno ag ef. Mae'r menywod yn cyrraedd ac yn cuddwisgo Fenton fel mynach, gan ddweud wrtho eu bod wedi trefnu difetha cynlluniau Ford a Caius. Mae Nannetta, fel Brenhines y Tylwyth Teg, yn cyfarwyddo ei chynorthwywyr i "I hedfan, ysbrydion chwim ar anadl awel bersawrus", cyn i'r holl gymeriadau gyrraedd yr olygfa. Mae cyhoeddiad bod gwrachod yn agosáu yn tarfu ar olygfa gariad Falstaff gydag Alice, ac mae'r dynion, wedi'u cuddio fel corachod a thylwyth teg, yn rhuthro Falstaff ac yn ei guro yn ddidrugaredd. Yng nghanol y ffrae, mae Falstaff yn adnabod Bardolfo er gwaethaf ei guddwisg. Mae'r jôc drosodd, ac mae Falstaff yn cydnabod ei fod wedi derbyn ei haeddiant. Mae Ford yn cyhoeddi y bydd priodas yn dilyn. Mae Caius a Brenhines y Tylwyth Teg yn dod i mewn. Mae ail gwpl, hefyd mewn cuddwisg, yn gofyn i Ford gyflwyno'r un fendith iddyn nhw hefyd. Mae Ford yn cynnal y seremoni priodas ddwbl. Mae Caius yn canfod mai Bardolfo mewn cuddwisg yw ei briodferch nid Nannetta, ac mae Ford wedi bendithio priodas Fenton a Nannetta yn ddiarwybod. Mae Ford yn derbyn y fait accompli gyda gras da. Mae Falstaff, sy'n falch mae nid ef yw'r unig un i gael ei dwyllo yn cyhoeddi bod y byd i gyd yn ffôl, a phob un yn ffigyrau o hwyl.

Recordiadau golygu

Prif erthygl Falstaff - Disgyddiaeth

Mae dau recordiad cynnar o arietta byr Falstaff "Quand'ero paggio". Fe wnaeth Pini Corsi, y Ford gwreiddiol, ei recordio ym 1904, a dilynodd Maurel ym 1907.[18] Gwnaethpwyd y recordiad cyntaf o'r opera gyflawn gan gwmni Italian Columbia ym mis Mawrth ac Ebrill 1932. Fe'i arweinwyd gan Lorenzo Molajoli gyda chorws a cherddorfa La Scala, a chast yn cynnwys Giacomo Rimini fel Falstaff a Pia Tassinari fel Alice.[19] Recordiwyd rhai perfformiadau llwyfan byw yn y 1930au, ond y recordiad stiwdio nesaf oedd yr un a arweinwyd gan Arturo Toscanini ar gyfer darllediad radio NBC ym 1950 a ryddhawyd ar ddisg gan RCA Victor. Arweiniodd Herbert von Karajan y recordiad stereoffonig cyntaf ar gyfer EMI ym 1956.

Ymhlith y cantorion Cymreig sydd wedi recordio rhan y teitl mae Syr Geraint Evans, a Syr Bryn Terfel.[20]

Cyfeiriadau golygu

  1. Parker, Roger (2008), "Falstaff", The Grove Book of Operas (Gwasg Prifysgol Rhydychen), doi:10.1093/acref/9780195309072.001.0001/acref-9780195309072-e-84, ISBN 978-0-19-530907-2, https://www.oxfordreference.com/view/10.1093/acref/9780195309072.001.0001/acref-9780195309072-e-84, adalwyd 2020-10-06
  2. "Falstaff". www.metopera.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-11. Cyrchwyd 2020-10-06.
  3. "Immortal Performances". immortalperformances.org. Cyrchwyd 2020-10-06.
  4. "Sir Geraint Evans | Welsh singer". Encyclopedia Britannica. Cyrchwyd 2020-10-06.
  5. Evans, Tristan. "Terfel, Bryn". Esboniadur Porth. Cyrchwyd 6 Hydref 2020.
  6. Hepokoski, pp. 55–56
  7. Hepokoski, p. 56
  8. Phillips-Matz, pp. 717–720
  9. Hepokoski, tud. 129
  10. Hepokoski, tud. 76-77
  11. "Performance History", programme booklet, Royal Opera House, Covent Garden, 6 December 1999, p. 43
  12. Kimbell, tud. 461
  13. "Verdi's great Falstaff, The Efrog Newydd Times, 5 Chwefror 1895
  14. List of singers taken from Budden, Cyf. 3, tud. 416.
  15. Budden, Cyf 3, tud. 430
  16. Kimbell, pp. 461–462; and Latham, Alison. "Synopsis", programme booklet, Royal Opera House, Covent Garden, 6 December 1999, p. 43
  17. B. A., Classical Music and Opera. "Learn the Synopsis of Verdi's Opera, Falstaff". LiveAbout. Cyrchwyd 2020-10-06.
  18. Walker, Malcolm. "Discography" in Hepokoski, pp. 176-177
  19. Notes to Naxos Historical CD 8.110198-99 (2002)
  20. "Falstaff Discography", Opera Discography. Retrieved 21 July 2013

Ffynonellau golygu

Darllen pellach golygu