Duwies ym mytholeg Roeg ac un o'r Deuddeg Olympiad oedd Demeter (Groeg: Δημήτηρ). Roedd yn dduuwies grawn, ffrwythlondeb a'r tymhorau, ac yn cyfateb i Ceres ym mytholeg Rhufain.

Ceres (Demeter), alegori o fis Awst: ffresco gan Cosimo Tura, Palazzo Schifanoia, Ferrara, 1469-70

Roedd yn ferch i'r Titaniaid Cronus a Rhea ac yn chwaer i Poseidon, Hades, Hestia, Hera a Zeus. Roedd Persephone, Zagreus, Despoena, Arion, Plutus a Philomelus yn blant iddi. Yn aml, gelwid ar Demeter a Kore ("yr wyryf") fel to theo ('"y ddwy dduwies").

Roedd Dirgelion Eleusis, a gynhelid tua mis Hydref, yn gysylltiedig â hi, yn arbennig y chwedl amdani hi a'i merch, Persephone. Roedd Persephone wedi ei chipio gan Hades, duw'r isfyd. Wedi i Demeter golli ei merch, nid oedd dim yn tyfu ar y ddaear, a bu raid i Hades adael i Persephone ddychwelyd at ei mam. Fodd bynnag, cyn iddi adael, fe'i twyllodd i fwyta chwe hedyn pomegranad, ac o'r herwydd, roedd yn rhaid iddi ddychwelyd i Hades am chwe mis o bob blwyddyn. Yn ystod y chwe mis pan oedd Persephone gyda'i mam, roedd planhigion yn tyfu ar y ddaear; yn ystod y chwe mis pan oedd yn Hades nid oedd tyfiant; felly y cafwyd y tymhorau.