Zeus
Ym mytholeg Roeg, Brenin y duwiau, rheolwr Mynydd Olympus, a duw'r wybren a'r daran yw Zeús (Hen Roeg: Δίας; Groeg Diweddar: Ζεύς). Mae ei symbolau'n cynnwys y fellten, eryr, tarw a derwen. Mae'n rheoli fel brenin duwiau Mynydd Olympus ac mae ei enw'n gydnaws a'r duw Rhufeinig Iau. Ef yw duw'r tywydd.
Zeus | |
---|---|
Mam | Rhea |
Priod | Metis |
Plant | Hephaestus, Artemis, Hermes, Persephone, Elen o Gaerdroea, Minos, Hesperides, Aoide, Aeacus, Melete, Argus, Mneme, Thelxinoë, Dardanus, Hebe, Heracles, Perseus, Tantalus, Amphion, Zethos, Eirene, Dike, Euphrosyne, Eunomia, Thalia, Aglaea, Pasithea, Pirithous, Arcas, Iasion, Sarpedon, Rhadamanthus, Sarpedon, Hellen, Eris, Castor and Pollux, Thebe |
Yn ogystal â'i etifeddiad Indo-Ewropeaidd, mae "casglwr y cymylau" y Groegiaid hefyd yn dangos nodweddion sy'n deillio o ddiwylliannau'r Lefant hynafol, megis y deyrnwialen. Portreadir Zeus yn fynych gan artistiaid Groegaidd mewn un o ddau osgo: yn sefyll, yn camu ymlaen â tharanfollt yn ei law dde, neu ar orsedd. Mae ei fytholegau a'i bwerau yn debyg, er nad yn union yr un fath, â rhai duwiau Indo-Ewropeaidd fel Iau, Perkūnas, Perun, Indra a Thor.[1][2][3]
Zeus oedd plentyn ieuangaf Cronus a Rhea. Yn ôl llawer o draddodiadau, priododd ef Hera, er, yn ôl oracl Dodona, Dione oedd ei gymar: yn ôl yr Iliad, ef oedd tad Aphrodite gan Dione.[4] O ganlyniad ei branciau, cafodd ef lawer o epil duwiol ac arwrol, gan gynnwys Athena, Apollo ac Artemis, Hermes, Persephone (gyda Demeter), Dionysus, Perseus, Heracles, Helen, Minos, a'r Awenau (gyda Mnemosyne); gyda Hera, cafodd ef Ares, Hebe a Hephaestus yn ôl llawer o draddodiadau.[4]
Genedigaeth
golyguRoedd Cronus yn dad i sawl plentyn, gyda Rhea: Hestia, Demeter, Hera, Hades, a Poseidon, ond fe'u llyncodd i gyd cyn gynted ag y cawsant eu geni, oherwydd y gred ei fod i fod i gael ei ddymchwel gan ei fab.
Ond pan oedd Zeus ar fin cael ei eni, ceisiodd Rhea gael Gaia i ddyfeisio cynllun i'w achub, fel y byddai Cronus yn cael ei ddial am ei weithredoedd yn erbyn Wranws a'i blant ei hun. Fe wnaeth Rhea eni Zeus yn Creta, gan roi craig i Cronus wedi'i lapio mewn dillad, a llyncwyd Cronus y swm, yn gyfan.[5]
Gweler hefyd
golygu- Iau (mytholeg)
- Hetairideia - Gŵyl Thesalaidd Zeus
- Teml Zeus
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Thomas Berry (1996). Religions of India: Hinduism, Yoga, Buddhism. Columbia University Press. tt. 20–21. ISBN 978-0-231-10781-5.
- ↑ T. N. Madan (2003). The Hinduism Omnibus. Oxford University Press. t. 81. ISBN 978-0-19-566411-9.
- ↑ Sukumari Bhattacharji (2015). The Indian Theogony. Cambridge University Press. tt. 280–281.
- ↑ 4.0 4.1 Hamilton, Edith (1942). Mythology (arg. 1998). New York: Back Bay Books. t. 467. ISBN 978-0-316-34114-1.
- ↑ "Greek and Roman Mythology.". Mythology: Myths, Legends, & Fantasy. Sweet Water Press. 2003. t. 21. ISBN 9781468265903.
Llyfryddiaeth
golygu- Burkert, Walter, (1977) 1985. Greek Religion, yn enwedig adran III.ii.1 (Harvard University Press)
- Cook, Arthur Bernard, Zeus: A Study in Ancient Religion, (3 cyfrol), (1914–1925). New York, Bibilo & Tannen: 1964.
- Volume 1: Zeus, God of the Bright Sky, Biblo-Moser, Mehefin 1, 1964, ISBN 0-8196-0148-9 (ailargraffiad)
- Volume 2: Zeus, God of the Dark Sky (Thunder and Lightning), Biblo-Moser, Mehefin 1, 1964, ISBN 0-8196-0156-X
- Volume 3: Zeus, God of the Dark Sky (earthquakes, clouds, wind, dew, rain, meteorites)
- Druon, Maurice, The Memoirs of Zeus, 1964, Charles Scribner's and Sons. (tr. Humphrey Hare)
- Farnell, Lewis Richard, Cults of the Greek States 5 vols. Oxford; Clarendon 1896–1909.
- Farnell, Lewis Richard, Greek Hero Cults and Ideas of Immortality, 1921.
- Graves, Robert; The Greek Myths, Penguin Books Ltd. (argraffiad 1960)
- Mitford,William, The History of Greece, 1784. Cf. v.1, Chapter II, Religion of the Early Greeks
- Moore, Clifford H., The Religious Thought of the Greeks, 1916.
- Nilsson, Martin P., Greek Popular Religion, 1940.
- Nilsson, Martin P., History of Greek Religion, 1949.
- Rohde, Erwin, Psyche: The Cult of Souls and Belief in Immortality among the Greeks, 1925.
- Smith, William, Dictionary of Greek and Roman Biography and Mythology, 1870, [1] Archifwyd 2006-04-09 yn y Peiriant Wayback, William Smith, Dictionary: "Zeus" [2]
Dolenni allanol
golygu- Dolen Fytholeg Reog, Zeus straeon Zeus ym mytholeg
- Prosiect Theoi, Zeus