Demetrio e Polibio
Mae Demetrio e Polibio; Demetriws a Polybiws) yn opera dramma serio mewn dwy act gan Gioachino Rossini i libretto gan Vincenzina Viganò-Mombelli. Trefnwyd yr opera ar gyfer offerynnau tannau yn unig.[1]
Wynebdalen y Libereto (1817) | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith drama-gerdd |
---|---|
Gwlad | yr Eidal |
Iaith | Eidaleg |
Dyddiad cyhoeddi | 19 g |
Genre | Opera seria, opera |
Libretydd | Vincenza Viganò-Mombelli |
Lleoliad y perff. 1af | Teatro Valle |
Dyddiad y perff. 1af | 18 Mai 1812 |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Cyfansoddwr | Gioachino Rossini |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Demetrio e Polibio oedd ymgais gyntaf Rossini i gyfansoddi opera ar raddfa lawn, "a chafodd ei gynllunio mewn modd tameidiog" [2] ystod ei ddyddiau fel myfyriwr yn Academi Ffilharmonig Bologna ym 1806. Gan iddo gael ei gomisiynu gan y tenor Domenico Mombelli (ysgrifennodd ei wraig y libreto) fe’i perfformiwyd yn breifat gan Mombelli a’i ddwy ferch, perfformiad na fynychodd Rossini, nid hwn oedd ei opera gyntaf wedi’i llwyfannu’n llawn.[3]
Ni chafodd yr opera ei llwyfannu'n broffesiynol tan 18 Mai 1812, pan berfformiodd am y tro cyntaf yn y Teatro Valle yn Rhufain.[2]
Rolau
golyguRôl | Math o lais | Cast y Premier, 18 Mai 1812 [3](Arweinydd: - anhysbys) |
---|---|---|
Polybius, Brenin Parthia | bas | Lodovico Olivieri |
Lisinga, ei ferch | soprano | Maria Ester Mombelli |
Siveno, cariad Lisinga | contralto | Marianna "Anna" Mombelli |
Demetrius, Brenin Syria, tad sydd wedi ymddieithrio oddiwrth Siveno | tenor | Domenico Mombelli |
Crynodeb
golygu- Amser: 2il Ganrif, CC
- Lle: Parthia [2]
Act 1
golyguMae'r Polybius da, Brenin Parthia, yn gwarcheidwad ei ferch ei hun, Lisinga, a'i chariad Siveno. Mae pawb yn credu bod Siveno yn fab i Minteus, gweinidog y Brenin Demetrius o Syria, ond ef yw mab Demetrius, sydd wedi ymddieithrio ers amser maith. Mae Demetrius, sy’n credu mai Minteus sy'n gyfrifol am ddiflaniad ei fab, yn cyrraedd llys Parthia gan gogio bod yn Eumeno, negesydd brenhinol, ac yn mynnu bod Siveno yn cael ei ddychwelyd i Syria. Mae Polybius yn gwrthod. Mae Siveno a Lisinga yn dathlu eu priodas. Mae Polybius yn cyfaddef i Siveno ei fod yn poeni am yr hyn sydd wedi digwydd, ond mae Siveno yn tawelu ei feddwl. Yn y cyfamser, mae Eumene (Demetrius) yn cynllwynio i herwgipio Siveno a dod ag ef yn ôl i Syria. Mae'n llwgrwobrwyo'r gweision a'r gwarchodwyr ac yn y nos mae'n llwyddo i fynd i mewn i lys Parthia. Fodd bynnag, pan fydd yn cyrraedd siambr wely'r cwpl ifanc, mae'n dod o hyd i Lisinga ar ei phen ei hun ac yn ei herwgipio hi yn ei lle. Mae Polybius a Siveno yn ceisio'n ofer ei rwystro.
Act 2
golyguMae Polybius a Siveno yn pledio am ryddhau Lisinga. Wrth ateb, mae Euemeno (Demetrius) yn bygwth ei lladd oni bai bod Siveno yn cael ei ddychwelyd ato. Yn ei dro, mae Polybius yn bygwth lladd Siveno oni bai bod Lisinga yn cael ei rhyddhau. Mae'r sefyllfa'n dechrau datrys pan fydd Eumene (Demetrius), wrth syllu ar hen fedaliwn yn sylweddoli mai Siveno yw ei fab coll. Yn y cyfamser, nid yw Polybius eisiau colli Lisinga, a dim ond Siveno y mae Eumene (Demetrius) ei eisiau. Yn pryderu am eu gwahaniad arfaethedig, mae Lisinga yn ceisio lladd Eumene, ond o'r diwedd mae'n datgelu ei wir hunaniaeth fel y Brenin Demetrius ac yn cyhoeddi mai ei fab yw Siveno. Mae heddwch yn cael ei adfer, ac mae'r cwpl yn byw yn hapus byth ar ôl hynny.
Recordiadau
golyguBlwyddyn | Cast: Polibio, Lisinga, Siveno, Demetrio |
Arweinydd, Tŷ Opera a Cherddorfa |
Label [4] |
---|---|---|---|
1992 | Giorgio Surjan, Christine Weidinger, Sara Mingardo, Dalmacio González | Massimiliano Carraro, Cerddorfa Symffoni Graz a Chôr Siambr Sluk, Bratislava (Recordiad o berfformiad yn yr Ŵyl della Valle d'Itria, Martina Franca. 27 Gorffennaf) |
CD Sain: Dynamic Cat: CDS 171 / 1-2 |
2017 | Luca Dall'Amico, Sofia Mchedlishvili, Victoria Yarovaya, César Arrieta |
Luciano Acocella, Virtuosi Brunensis, Côr Camerata Bach Poznan Recordiwyd yn fyw yng Ngŵyl Rossini, Wildbad |
CD: Recordiau Naxos Cat: 8660405-06 |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Kennedy, Michael (2007), "Demetrio e Polibio", The Concise Oxford Dictionary of Music. (Trwy danysgrifiad:Oxford Reference Online). Gwasg Prifysgol Rhydychen
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Osborne, Charles (1994), The Bel Canto Operas of Rossini, Donizetti, and Bellini, tud 119. Portland, Oregon: Amadeus Press. ISBN 0-931340-71-3
- ↑ 3.0 3.1 Gossett, Philip; Brauner, Patricia (2001), "Demetrio e Polibio" yn Holden, Amanda (gol.), The New Penguin Opera Guide, tud 766. Efrog Newydd: Penguin Putnam. ISBN 0-14-029312-4
- ↑ Recordings of Demetrio e Polibio by Gioacchino Rossini[dolen farw] adalwyd 22 Medi 2020