Democratiaeth Gristnogol

Ideoleg a arddelir gan sawl plaid wleidyddol yn Ewrop yw democratiaeth Gristnogol. Gellir ei olrhain i'r cylchlythyr Rerum Novarum a gyhoeddwyd gan y Pab Leo XIII ym 1891, a oedd yn annog Catholigion i ymuno â'r mudiadau democrataidd newydd a dylanwadu arnynt. Roedd yr Eglwys Babyddol yn gwrthwynebu comiwnyddiaeth, anffyddiaeth, anghydraddoldeb materol, ac ymyrraeth gan y wladwriaeth mewn bywyd cymdeithasol a'r teulu. Yn yr 20g, ehangodd aelodaeth y fath bleidiau i groesawu Cristnogion o bob enwad, ac nid Pabyddion yn unig.

Ideolegau Gwleidyddol
Anarchiaeth
Ceidwadaeth
Cenedlaetholdeb
Comiwnyddiaeth
Cymunedoliaeth
Democratiaeth Gristnogol
Democratiaeth gymdeithasol
Ffasgiaeth
Ffeministiaeth
Gwleidyddiaeth werdd
Islamiaeth
Natsïaeth
Rhyddewyllysiaeth
Rhyddfrydiaeth
Sosialaeth

Mae democratiaeth Gristnogol yn cyfuno agwedd geidwadol tuag at lywodraeth a pholisïau o blaid cyfiawnder cymdeithasol megis ailddosrannu cyfoeth a darpariaeth les.